Israddedig
Bydd ein rhaglenni MOptom yn rhoi'r wybodaeth wyddonol a chlinigol i chi gofrestru yn optometrydd gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol.
Rydym yn cynnig rhaglenni gradd pedair a phum mlynedd sy'n arwain at gael gradd MOptom mewn Optometreg. Nod y ddau gwrs yw darparu'r sgiliau clinigol gofynnol i chi i sicrhau bod anghenion gofal sylfaenol y cyhoedd yn cael eu diwallu i'r safon uchaf.
Byddwch yn dod yn gyfarwydd â sawl agwedd ar ofal optometrig, gan gynnwys archwiliadau llygaid cyffredinol, dosbarthu sbectolau, ffitio lensys cyffwrdd, anhwylderau golwg deulygad, golwg gwan, cyflyrau lliwiau annormal, ac optometreg bediatrig.
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Optometreg (MOptom) | B512 |
Optometreg Blwyddyn Ragarweiniol (MOptom) | B514 |
Cyflogadwyedd
Fel optometrydd cymwysedig, bydd gennych amrywiaeth eang o opsiynau gyrfaol i chi gyda chyfleoedd gwych i gynyddu. Mae ymarfer preifat, gwasanaeth llygaid yr ysbyty, addysgu, ac ymchwil yn rhai o'r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion optometreg. Mae cofrestru hefyd yn agor posibiliadau i weithio dramor gan fod cymhwyster Optometreg o'r DU yn uchel ei barch yn fyd-eang.
Mae angen offer arbenigol er mwyn astudio'r BSc Optometreg.
Mae’r cyfleuster a adeiladwyd i’r diben yn dod ag ymchwil, addysgu a chlinigau cleifion at ei gilydd mewn un lle. Mae hyn yn caniatáu i ni arwain y ffordd i drosi ymchwil yn ofal gwell i gleifion.