OPT043: Triniaethau Laser Therapiwtig Offthalmig - Sylfaen
Bydd y modiwl hwn yn darparu hyfforddiant efelychu ymarferol damcaniaethol a rhagarweiniol mewn triniaethau laser therapiwtig offthalmig ar gyfer ymarferwyr gofal llygaid.
Gall cyfranogwyr y cwrs gynnwys optometryddion, offthalmolegwyr, ac ymarferwyr offthalmig anfeddygol eraill megis nyrsys offthalmig neu orthoptyddion.
Mae'r modiwl yn cynnwys capsiwlotomi laser YAG, trabecwloplasti laser dethol ac iridotomi ymylol laser YAG. Cynhelir yr addysgu trwy ddysgu cyfunol. Cyflwynir elfennau damcaniaethol ar-lein gan gynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Bydd hyfforddiant ymarferol yn digwydd yn ystod un diwrnod cyswllt yn yr ystafell efelychu ym Mhrifysgol Caerdydd lle byddwch yn datblygu sgiliau laser therapiwtig mewn labordy hyfforddi gan ddefnyddio llygaid model dan oruchwyliaeth agos.
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i driniaethau laser, ac nid yw ei gwblhau’n llwyddiannus yn rhoi achrediad ar gyfer darparu triniaethau laser offthalmig therapiwtig yn annibynnol i gleifion.
Argymhellir y dylai cyfranogwyr eisoes fod yn gymwys wrth asesu'r ongl siambr flaen gan ddefnyddio goniosgopi cyn mynychu'r diwrnod hyfforddiant ymarferol.
Dyddiad dechrau | Mawrth |
---|---|
Hyd | Un tymor academaidd |
Credydau | 20 credyd |
Rhagofynion | Dim |
Tiwtoriaid y modiwl | Deacon Harle ac Angela Whitaker |
Ffioedd dysgu (2024/25) | £1340 - Myfyrwyr cartref £2500 - Myfyrwyr rhyngwladol |
Cod y modiwl | OPT043 |
Amcanion dysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:
- cymhwyso’n feirniadol wybodaeth ddatblygedig am gyflyrau offthalmig a allai fod angen triniaethau laser therapiwtig i senarios achos ar-lein sy’n seiliedig ar gleifion go iawn a chleifion efelychiadol
- dangos barn broffesiynol wrth adolygu a dadansoddi data clinigol cleifion go iawn a chleifion efelychiadol ar gyfer cataract, OHT a'r glawcomas, i asesu a chadarnhau opsiynau triniaeth priodol gan gynnwys arwyddion a gwrtharwyddion triniaethau laser therapiwtig
- cyfathrebu'n effeithiol ac yn empathig â chleifion efelychiadol, gan feithrin diwylliant cadarnhaol lle gwneir penderfyniadau ar y cyd wrth drafod risgiau a manteision triniaethau laser therapiwtig offthalmig a chael cydsyniad gwybodus ar gyfer y rhain.
- cymhwyso gwybodaeth arbenigol yn feirniadol wrth berfformio triniaethau laser therapiwtig offthalmig mewn lleoliad efelychu ymarferol ar lygaid model
- dangos y gallu i wneud penderfyniadau beirniadol wrth reoli mân gymhlethdodau a chymhlethdodau mawr sy’n gysylltiedig â thriniaethau laser therapiwtig offthalmig mewn senarios achos ar-lein sy’n seiliedig ar gleifion go iawn a chleifion efelychiadol
- gwerthuso'n feirniadol y sylfaen dystiolaeth allweddol a'r canllawiau clinigol cenedlaethol ar gyfer ymyriadau laser therapiwtig mewn cataract, OHT a'r glawcomas, a’i chymhwyso i senarios achos ar-lein sy’n seiliedig ar gleifion go iawn a chleifion efelychiadol
Dull cyflwyno’r modiwl
Addysgir y modiwl hwn trwy ddarlithoedd ar-lein a recordiwyd ymlaen llaw, gweminar, diwrnod addysgu ar-lein, adnoddau ategol a ddarperir ar Dysgu Canolog a diwrnod hyfforddiant ymarferol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ystod y tymor bydd byrddau trafod a hwylusir, y ceir mynediad iddynt drwy Dysgu Canolog, hefyd yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu rannu gwybodaeth â thiwtoriaid y cwrs a chyfoedion.
Bydd y diwrnod hyfforddiant ymarferol yn cael ei gynnal yn Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg Prifysgol Caerdydd. Ar y diwrnod cyswllt byddwch yn dysgu triniaethau laser therapiwtig offthalmig ymarferol gan ddefnyddio'r ystafell hyfforddiant efelychu laser, yn ogystal â chael cyfleoedd i fireinio sgiliau goniosgopi a'r broses ar gyfer cael cydsyniad gwybodus gan gleifion.
Mae’r diwrnod hyfforddiant ymarferol cyswllt yn orfodol, felly cysylltwch â PGOptom@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau'r cwrs os bydd angen rhybudd ymlaen llaw arnoch i drefnu i ddod.
Sut caiff y modiwl ei asesu
Asesiad ffurfiannol
Bydd aseiniadau a thrafodaethau achos ffurfiannol yn cael eu cyflwyno ar-lein drwy gydol y semester a byddwch yn derbyn adborth ffurfiannol yn ystod gweminarau. Byddwch yn derbyn adborth ffurfiannol ar eich sgiliau ymarferol gan diwtoriaid y cwrs yn ystod y diwrnod hyfforddiant cyswllt.
Asesiad crynodol
Yn digwydd ar ddiwedd y semester ac yn cynnwys prawf ysgrifenedig ar-lein (100%). Mae hwn yn brawf ar-lein electronig a fydd yn asesu gwybodaeth a chymhwysiad ar draws y maes llafur cyfan.
Hyfforddiant dan oruchwyliaeth ar ôl cwblhau’r modiwl
Os ydych yn dymuno parhau i ddatblygu eich sgiliau laser offthalmig, byddwch yn gyfrifol am drefnu hyfforddiant a phrofiad dan oruchwyliaeth, ar ôl cwblhau’r modiwl, ar ddarparu triniaethau laser offthalmig therapiwtig. Nid yw’r modiwl hwn yn rhoi achrediad ar gyfer ymarfer annibynnol.
Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu
Yn ogystal â sgiliau pwnc-benodol sy'n gysylltiedig â thriniaethau laser therapiwtig offthalmig, byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau canlynol:
Sgiliau academaidd
- Gwella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth eich hun
- Casglu ynghyd â chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
- Dehongli data
Sgiliau cyffredinol
- Rheoli prosiectau ac amser
- Gweithio’n annibynnol
- Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
- Datrys problemau