OPT013: Agweddau Cyfreithiol ar Optometreg yn y Deyrnas Unedig
Nod y cwrs hwn yw rhoi trosolwg cynhwysfawr i chi o’r ymrwymiadau cyfreithiol mewn ymarfer optometrig yn y DU.
Mae cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno mewn fformat deniadol sy'n gymesur ag arfer bob dydd – mae llawer ohono'n seiliedig ar sefyllfaoedd realistig y gallech eu cydnabod a'u uniaethu gyda. Bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy'n ymwneud â chomisiynu neu ddarparu gwasanaethau gwell, neu i ymarferwyr sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant gyrfa.
Modiwl dysgu o bell yn unig yw hwn ac nid oes unrhyw gydran ymarferol iddo.
Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.
Dyddiad dechrau | Medi |
---|---|
Hyd | 22 o oriau cyswllt dros un tymor academaidd |
Credydau | 10 credyd - pwyntiau CET ar gael |
Rhagofynion | Dim un |
Tiwtoriaid y modiwl | Kevin Wallace Peter Hampson |
Ffioedd dysgu (2024/25) | £670 - Myfyrwyr cartref £1250 - Myfyrwyr rhyngwladol |
Côd y modiwl | OPT013 |
Amcanion dysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:
- myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth ym maes optometreg ac iechyd gofal yn y DU
- gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o addysg ac asesu ym maes gofal iechyd a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun
- archwilio, dadansoddi'n feirniadol, cyfosod a gwerthuso materion cyfreithiol a moesegol sy'n ymwneud â chontractau, rheoleiddio, penodiadau, gwasanaethau a gwerthiannau a moeseg a chyfrifoldebau sylfaenol mewn ymarfer optometrig a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n penderfynu ar ymddygiad priodol neu amhriodol
- cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn gwaith ysgrifenedig.
Dull cyflwyno’r modiwl
Addysgir y modiwl hwn drwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain) a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gan ddarparu adnoddau a chyfeirnodau ategol. Bydd gweminar rhagarweiniol, a sesiynau gweminar pellach o ddysgu ar-lein dan arweiniad. Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn.
Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.
Bydd myfyrwyr yn ystyried cyfyng-gyngor cyfreithiol neu foesegol nodweddiadol mewn ymarfer optometreg yn y DU a byddant yn trafod y rhain ar-lein ac mewn gweminar. Bydd hyn cyn yr aseiniad terfynol a bydd yn darparu sylfaen ar gyfer dadansoddi'r achos.
Cynnwys y maes llafur
- system Gyfreithiol Lloegr
- cofrestru gyda'r cyrff proffesiynol a'r angen am yswiriant indemniad proffesiynol
- y GIG ac optometreg
- deddfwriaeth yn y practis ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr
- gyrfaoedd ym maes optometreg
- diogelu Data a Chyfrinachedd
- cadw cofnodion
- gweithdrefnau cwyno cleifion
- esgeulustod a chamantur
- y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC)
- côd Ymddygiad
- deddfwriaeth Ewropeaidd mewn perthynas ag optometreg
- gwneud atgyfeiriadau
- rhoi cyngor i gleifion
- rheoliadau ynghylch archwiliad llygaid a newidiadau diweddar i'r ddeddfwriaeth
- gosod, gofal, gwerthu a chyflenwi lensys cyffwrdd
- materion cyfreithiol ynghylch darpariaeth sbectol
Y sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u datblygu
Sgiliau academaidd
- datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
- casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
- ysgrifennu'n gryno a chlir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
- dehongli data
Sgiliau cyffredinol
- rheoli prosiectau ac amser
- gweithio’n annibynnol
- defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
- datrys problemau
Sut bydd y modiwl yn cael ei asesu
Asesiad ffurfiannol
- profion MCQ ar-lein yw’r rhain ac a fydd yn eich galluogi i asesu eich dealltwriaeth a’i chymhwysiad ar ddiwedd pob darlith.
- bydd gwaith cwrs ffurfiannol (heb ei farcio) a thrafodaeth barhaus ar faterion amrywiol drwy'r fforwm.
Asesiad crynodol
- gwaith cwrs ysgrifenedig (100%): Rhoddir senarios ichi sy'n cynrychioli ymgyflwyniadau arferol cleifion wrth ymarfer yn y DU. Byddant yn ymchwilio i'r rhain ac yn cyflwyno traethawd tuag at ddiwedd y cwrs.
Postgraduate team
School of Optometry and Vision Sciences