OPT010: Glawcoma 1
Nod y modiwl hwn yw cynyddu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth wrth asesu’r segment pen blaen, mesur IOP a gwerthuso’r ddisgen a meysydd golwg.
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y wybodaeth ddamcaniaethol a gafwyd yn OPT009 a'i nod yw darparu sgiliau a gwybodaeth ymarferol i optometryddion gymryd rhan mewn monitro'r rhai yr amheuir eu bod â glawcoma neu orbwysedd ocwlar (OHT), sydd wedi cael diagnosis mewn gofal eilaidd ond nad ydynt yn derbyn triniaeth.
Ynghyd ag OPT009, mae'r modiwl hwn wedi'i achredu gan Goleg yr Optometryddion i ddarparu'r Dystysgrif Broffesiynol mewn Glaucoma, ac mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau’r elfennau cymwys.
Mae'r modiwl dilynol, OPT031 – Glaucoma Lefel 2, yn datblygu'r pynciau hyn ymhellach ac mae wedi'i achredu ar gyfer y Dystysgrif Uwch mewn Glaucoma. Bydd diwrnod hyfforddi ymarferol hefyd yn gofyn am bresenoldeb yng Nghaerdydd a bydd trefniadau manwl ar gyfer sesiynau ymarferol yn dibynnu ar ganllawiau COVID-19 ar y pryd.
Ynghyd ag OPT009, achredir y modiwl hwn gan Goleg yr Optometryddion ar gyfer y Dystysgrif Broffesiynol mewn Glawcoma.
Dyddiad dechrau | Medi / Mawrth |
---|---|
Hyd | 26 o oriau cyswllt dros un tymor academaidd |
Credydau | 10 credyd - pwyntiau CET ar gael |
Rhagofynion | OPT009 neu Esemptiad drwy Gynllun Mireinio Atgyfeirio Glawcoma LOCSU/ Glawcoma Cymru |
Tiwtoriaid y modiwl | Laura Heylin-Williams (arweinydd) Grant Robinson (arweinydd) |
Ffioedd dysgu (2024/25) | £670 - Myfyrwyr cartref £1250 - Myfyrwyr rhyngwladol |
Cod y modiwl | OPT010 |
Amcanion dysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:
- gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o ofal glawcoma a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun
- mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu gofal llygaid acíwt mewn optometreg a myfyrio arno
- cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn asesiadau ymarferol.
- myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso.
- asesu arwyddion a symptomau clefyd llygaid glawcoma posibl i wneud diagnosis gwahaniaethol a graddio opsiynau ar gyfer ei ddiagnosio a’i reoli, gan ganolbwyntio ar ymarfer optometrig cymunedol
- datrys problemau a datblygu atebion / cynlluniau rheoli, mewn lleoliadau optometrig cymunedol, mewn achosion gyda glawcoma posibl, OHT, glawcoma tybiedig a glawcoma ongl-gaeedig cychwynnol yn seiliedig ar dystiolaeth a barn broffesiynol a chlinigol cadarn.
Dull cyflwyno’r modiwl
Addysgir y modiwl hwn drwy sesiynau dysgu dan arweiniad Xerte ar-lein, darlithoedd ar-lein a gweminar, yn ogystal â diwrnod cyswllt yng Nghaerdydd a fydd yn cynnwys gweithdai, tiwtorialau, trafodaethau achos a hyfforddiant sgiliau ymarferol ffurfiannol. Darperir adnoddau a chyfeirnodau ategol trwy Ddysgu Canolog, sef Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y Brifysgol. Yn ogystal, bydd gweminarau, gan gynnwys gweminar i’ch croesawu.
Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.
Cynnwys y maes llafur
- Strwythur a ffisioleg y nerf olygol iach a glawcomataidd
- Ffisioleg cynhyrchu a draenio gwlybwr y llygad.
- Dosbarthu glawcoma.
- Diagnosio OHT.
- Y ffactorau risg ar gyfer trosi o OHT i COAG.
- Arwydd ar gyfer trin OHT a glawcoma tybiedig.
- Cyfnodau dilynol a argymhellir ar gyfer OHT a glawcoma tybiedig.
- Defnyddio tonometreg i asesu pwysedd intraocwlaidd, ei ddehongli a'i integreiddio â data clinigol eraill.
- Asesiad clinigol o’r pen nerf olygol, ac integreiddio'r wybodaeth hon â data clinigol arall.
- Defnyddio technegau perimetrig, a'u dehongli a'u hintegreiddio â data clinigol eraill.
- Pacimetreg y gornbilen, a'i dehongli a'i hintegreiddio â data clinigol eraill.
- Asesiad clinigol y segment blaen gan gyfeirio at fireinio'r risg o glawcoma a dylanwadu ar reoli OHT a glawcoma.
Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu
Sgiliau academaidd
- Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
- Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
- Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
- Dehongli data
Sgiliau cyffredinol
- Rheoli prosiectau ac amser
- Gweithio’n annibynnol
- Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
- Datrys problemau
Dull asesu’r modiwl
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol.
Gwaith cwrs ffurfiannol (nad yw’n cael ei farcio)
- Mae cyflwyniad yn seiliedig ar achosion y gall y myfyriwr ei gyflwyno i gael adborth.
- Profion ffurfiannol: Mae profion EMCQ ar-lein a phrofion eraill wedi'u hymgorffori yn yr adnoddau dysgu sy'n eich galluogi i asesu dealltwriaeth a chymhwysiad eich dysgu a'ch dealltwriaeth.
Gwaith cwrs crynodol
- Gwaith cwrs ysgrifenedig (50%): Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno aseiniad ysgrifenedig â chyfeirnodau sy'n ymwneud â rheoli glawcoma. Rhoddir manylion yn y platfform ar-lein.
- Asesiad ymarferol (50%): Bydd myfyrwyr yn sefyll asesiad ar ffurf gorsafoedd i brofi eu sgiliau ymarferol.