OPT009: Sylfaen Glawcoma
Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth gefndirol a dealltwriaeth i chi am bathogenesis a darganfod glawcoma, ac i ddarparu dull cyson o fireinio atgyfeirio/llwybrau mesurau ailadroddus mewn gofal sylfaenol cymunedol.
Ynghyd ag OPT010, achredir y modiwl hwn gan Goleg yr Optometryddion ar gyfer y Dystysgrif Broffesiynol mewn Golwg Gwan.
Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn. Nid oes elfen ymarferol yn perthyn i’r modiwl hwn.
Dyddiad dechrau | Medi |
---|---|
Credydau | 10 credyd - pwyntiau CET ar gael |
Rhagofynion | Dim |
Tiwtoriaid y modiwl | Justine Davies (Arweinydd) |
Ffioedd dysgu (2024/25) | £670 - Myfyrwyr cartref £1250 - Myfyrwyr rhyngwladol |
Cod y modiwl | OPT009 |
Efallai y gall ymarferwyr yn y DU fod yn gymwys i wneud cais am esemptiad rhag y modiwl hwn a dechrau gydag OPT010 os ydynt wedi cwblhau Golwg Gwan LOCSU o fewn y tair blynedd diwethaf.
Amcanion dysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:
- adlewyrchu'n feirniadol wybodaeth am faterion sy'n ymwneud â gofal glawcoma gyda ffocws ar ganfod achosion a rheoli mewn ymarfer optometrig gofal sylfaenol cymunedol
- gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o ofal glawcoma a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun
- mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu gofal glawcoma, a myfyrio arno
- asesu arwyddion a symptomau clefyd llygaid glawcoma posibl i wneud diagnosis gwahaniaethol a graddio opsiynau ar gyfer ei ddiagnosio a’i reoli, gan ganolbwyntio ar ymarfer optometrig cymunedol
- archwilio, dadansoddi'n feirniadol, syntheseiddio a gwerthuso llenyddiaeth, canllawiau a damcaniaethau sylfaenol sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn gofal glawcoma a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n pennu'r atebion mwyaf priodol ar gyfer claf sy'n derbyn gofal offthalmig (â ffocws ar ofal sylfaenol)
- cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn gwaith ysgrifenedig
Dull cyflwyno’r modiwl
Dysgir y modiwl hwn trwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain) a thiwtorialau Xerte a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gydag adnoddau a chyfeirnodau ategol. Ceir gweminar gyflwyniadol.
Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.
Cynnwys y maes llafur
- Epidemioleg a ffactorau risg y gwahanol fathau o glawcoma, gan ganolbwyntio'n benodol ar COAG a gorbwysedd ocwlar (OHT)
- Gwahaniaeth rhwng ongl siambr agored a chul a glawcoma cychwynnol ac eilaidd, a sut i ffurfio dosbarthiad sylfaenol ar sail y gwahaniaethau hyn
- Arwyddion penodol o newidiadau yn y ddisgen optig glawcomataidd
- Y cysylltiad rhwng pwysedd intra-ocwlar (IOP) a glawcoma, ac adolygu'r gwallau amherthnasol a’r gwallau o ran mesur sy'n effeithio ar fesur IOP
- Yr anatomeg a'r ffisioleg sylfaenol sy'n pennu ble a pham y mae colli’r maes golwg yn digwydd mewn glawcoma ongl agored cronig (COAG)
- Dewis y dull mwyaf priodol o archwilio’r maes golwg ar gyfer ymchwilio i COAG tybiedig
- Canllawiau NICE ar gyfer monitro OHT a ddiagnosiwyd yn flaenorol a heb ei drin a glawcoma tybiedig
- Canllawiau NICE ar gyfer atgyfeirio OHT a COAG o ofal sylfaenol i ofal eilaidd
- Y cysylltiad rhwng IOP a glawcoma, ac adolygu'r gwallau amherthnasol a’r gwallau o ran mesur sy'n effeithio ar fesur IOP
- Egwyddorion techneg Van Herick a'r amrywiadau yn yr ongl
Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu
Sgiliau academaidd
- Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
- Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
- Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
- Dehongli data
Sgiliau cyffredinol
- Rheoli prosiectau ac amser
- Gweithio’n annibynnol
- Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
- Datrys problemau
Dull asesu’r modiwl
Ffurfiannol
- Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno darn o waith cwrs ysgrifenedig ar gyfer asesu ffurfiannol ac adborth
- Gwaith Cwrs Ffurfiannol Cydnabod Gweledol a Dehongli Arwyddion Clinigol (VRICS): Mae VRICS yn debyg i MCQs ond mae pob cwestiwn yn gysylltiedig â sleidiau delweddol o achosion perthnasol. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i hwyluso dysgu ac nid fel gwaith cwrs wedi'i asesu
Crynodol
- Prawf ar-lein (50%): Ceir prawf ar-lein a fydd yn asesu dealltwriaeth a chymhwysiad ar draws y maes llafur cyfan
- Gwaith cwrs ysgrifenedig (50%): Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno un darn terfynol o waith cwrs ysgrifenedig. Wrth baratoi ar gyfer y gwaith cwrs, bydd blogiau achos ffurfiannol yn cael eu cyflwyno yn ystod y semester
Gwefannau defnyddiol
Glawcoma: Diagnosio a rheoli glawcoma ongl agored cronig a gorbwysedd ocwlar (canllawiau NICE)