OPT002: Golwg Gwan 2 - Ymarferol
Nod y modiwl hwn yw darparu’r hyfforddiant ymarferol i chi er mwyn darparu gofal golwg gwan i bobl â nam ar eu golwg.
Dyddiad dechrau | Mawrth |
---|---|
Credydau | 10 credyd - pwyntiau CET ar gael |
Rhagofynion | OPT001 |
Tiwtoriaid y modiwl | Marek Karas a Natalie Lucas |
Ffioedd (2024/2025) | £670 - Myfyrwyr cartref £1250 - Myfyrwyr rhyngwladol |
Cod y modiwl | OPT002 |
Efallai y gall ymarferwyr yn y DU fod yn gymwys i wneud cais am esemptiad rhag y modiwl hwn a dechrau gydag OPT002 os ydynt wedi cwblhau Golwg Gwan LOCSU o fewn y tair blynedd diwethaf. I gael Tystysgrif Broffesiynol Coleg yr Optometryddion, rhaid i fyfyrwyr gwblhau un drafodaeth achos ysgrifenedig sy'n rhan o ofynion gwaith cwrs OPT001. Felly, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr esemptiad gyflwyno trafodaeth achos yn ystod eu hamser ar OPT002.
Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.
Amcanion dysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:
- gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o adfer golwg gwan a gallu addasu’r technegau optometrig arferol i glâf â nam ar ei olwg, gan eu cymhwyso i’ch amgylchedd a'ch ymarfer eich hun.
- mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu adfer golwg gwan ac adfyfyrio arno
- cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn asesiadau ymarferol.
- myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso.
- asesu anghenion unigolyn, effeithiau nam ar y golwg ar y swyddogaeth weledol, gweithgareddau bywyd bob dydd a lles seicolegol, a graddio a blaenoriaethu opsiynau i reolwyr
- datrys problemau a datblygu atebion/cynlluniau rheoli mewn ymarfer golwg gwan yn seiliedig ar dystiolaeth a barn broffesiynol a chlinigol gadarn
Dull cyflwyno’r modiwl
Addysgir y modiwl hwn trwy hyfforddiant ymarferol ar ffurf gweithdai a gyflwynir dros gyfnod o ddau ddiwrnod.
Darperir adnoddau a chyfeirnodau ategol trwy Ddysgu Canolog, sef Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y Brifysgol. Yn ogystal, bydd gweminar i’ch croesawu, a dwy weminar hanner ffordd drwy'r term yn trafod dulliau o sefydlu chwyddiant.
Bydd sesiynau dysgu ffurfiannol ynghyd â byrddau trafod ar-lein a fydd yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sy'n codi drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyfoedion.
Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu
Sgiliau academaidd
- Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
- Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
- Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
- Dehongli data
Sgiliau cyffredinol
- Rheoli prosiectau ac amser
- Gweithio’n annibynnol
- Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
- Datrys problemau
Cynnwys y maes llafur
Bydd y gweithdai ymarferol, y trafodaethau ar-lein a'r cyflwyniad ysgrifenedig yn ymdrin â'r meysydd canlynol:
- Hanes a symptomau
- Gosod nodau a blaenoriaethu angen
- Mesur craffter golwg, sensitifrwydd cyferbyniad a meysydd gweledol gweithredol o ran golwg gwan
- Amcangyfrif chwyddo
- Cymhorthion golwg gwan ag ychwanegiad uchel wedi’u gosod ar sbectol
- Cymhorthion golwg gwan optegol a'u defnydd
- Cymhorthion ac addasiadau golwg gwan nad ydynt yn rhai optegol
- Gwella cyferbyniad ymarferol mewn bywyd bob dydd
- Cyfeirio at asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill
- Gwasanaethau a ddarperir gan asiantaethau eraill
- Deall iselder sy'n gysylltiedig â nam ar y golwg
Dull asesu’r modiwl
Bydd dau ddiwrnod hyfforddi ac asesu ymarferol a fyddai fel arfer yn gofyn am bresenoldeb yng Nghaerdydd. Gellir cyflwyno'r diwrnod hyfforddiant cyntaf ar-lein dros dro ond bydd yr ail ddiwrnod yn gofyn am bresenoldeb ym Mhrifysgol Caerdydd. Gellir cyflwyno elfennau hyfforddi ac asesu'r ail ddiwrnod gan ddefnyddio cleifion efelychiadol.
Ffurfiannol
Bydd gennych fynediad at enghreifftiau rhyngweithiol o gyfrifo craffter LogMAR a sensitifrwydd cyferbyniad.
Crynodol
Asesiad Ymarferol (50%): Cewch eich asesu wrth ichi gynnal asesiad golwg gwan llawn ar glaf gwirfoddol â golwg gwan.
Gwaith cwrs ysgrifenedig (50%): Bydd gofyn i chi greu 'cyfeiriadur' o wasanaethau golwg gwan a ddarperir yn eich ardal.