Ôl-raddedig a addysgir
Gwella eich gwybodaeth, sgiliau a'ch cyflogadwyedd gyda'n rhaglenni ôl-raddedig a ddewisir yn ofalus ac a addysgir gan arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw.
Mae ein rhaglenni wedi'u datblygu'n benodol gyda gweithwyr proffesiynol gofal llygaid mewn golwg; maent yn gyfle i ennill cymwysterau uwch fydd yn berthnasol mewn ymarfer offthalmig bob dydd. Rydym yn cynnig profiad dysgu ac addysgu rhagorol, ac mae ein holl addysgu wedi'i lywio gan ymchwil.
Modiwlau a rhaglenni
Rhaglenni
Mae ein rhaglenni'n cynnig llwybrau i weithwyr proffesiynol ym maes gofal llygaid sy'n astudio modiwlau unigol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ac ar gyfer y rhai sy'n dilyn dyfarniad Tystysgrif Uwchraddedig neu MSc.
Course | Qualification | Mode |
---|---|---|
Llywodraethu Gofal y Llygaid | PgCert | Rhan amser yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell |
Optometreg Glinigol | MSc | Amser llawn, Dysgu cyfunol rhan amser |
Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Optometryddion | PgCert | Rhan amser yn dysgu o bell |
Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Optometryddion | PG Certificate | Rhan amser yn dysgu o bell |
Modiwlau
Gall myfyrwyr rhan-amser astudio modiwl ar y tro neu gofrestru ar gyfer rhaglen. Mae gweithwyr proffesiynol yn dewis pynciau a lefel cymhlethdod sy’n addas i'w harferion.
Edrychwch ar ein holl fodiwlau sydd ar gael.
Mae dysgu gyda ni yn defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, a chynigir hefyd gefnogaeth bersonol gadarn a chysylltiad â thiwtoriaid. Mae llawer o’r modiwlau yn cynnwys gweithdai hyfforddi ymarferol, a ddarperir fel arfer dros gyfnod o 1-2 diwrnod yng Nghaerdydd neu mewn lleoliadau addas eraill.
Mae ein rhaglenni wedi'u datblygu'n benodol gyda gweithwyr proffesiynol gofal llygaid mewn golwg; maent yn gyfle i ennill cymwysterau uwch fydd yn berthnasol mewn ymarfer offthalmig bob dydd. Rydym yn cynnig profiad dysgu ac addysgu rhagorol ac wedi derbyn dros 90% o foddhad cyffredinol yn yr Arolwg Addysg Uwchraddedig a Addysgir am y pedair blynedd diwethaf.
Ymchwil sy'n llywio ein holl addysgu, ac mae llawer o'r staff yn arbenigwyr yn eu meysydd. Rydym yn cynnig y cyfle i chi ddysgu gyda ni ac i fod yn rhan o'r rhwydwaith cyfeillgar, cefnogol hon o weithwyr proffesiynol gofal llygaid.
Mae ein rhaglenni'n cynnig llwybrau i weithwyr proffesiynol ym maes gofal llygaid sy'n astudio modiwlau unigol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ac ar gyfer y rhai sy'n dilyn dyfarniad Tystysgrif Uwchraddedig, Diploma Ôl-raddedig, neu MSc.
Achrediad
Mae llawer o'n modiwlau hefyd wedi'u hachredu gan y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) neu Goleg yr Optometryddion tuag at Gymwysterau Proffesiynol Uwch ac mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u hachredu ar gyfer pwyntiau Addysg a Hyfforddiant Parhaus GOC (CET).
Postgraduate Optometry
Rydym ni’n cynnig cyrsiau ôl-raddedig yn ogystal â chyrsiau byr drwy Ganolfan Addysg Optometrig Ôl-raddedig Cymru (WOPEC).