Ewch i’r prif gynnwys

Bod yn gymwys a gwneud cais

Lilian Kisiswa

Mae ein meini prawf derbyn yn sicrhau ein bod yn derbyn myfyrwyr o'r safon uchaf sy'n gallu elwa ar y profiadau a ddaw yn sgil cwblhau gradd ymchwil.

Mae hefyd yn gwneud yn siŵr bod y broses o ddethol myfyrwyr yn wrthrychol, yn dryloyw, yn agored ac yn deg ac nad yw’n gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd. Fe'u hadolygir ar ddechrau'r cylch derbyn myfyrwyr ac nid ydynt fel arfer yn cael eu newid yn ystod y cylch hwnnw.

I gael ateb i ymholiadau cychwynnol ynghylch cael eich derbyn, cysylltwch â’r Tîm Ymchwil Ôl-raddedig. Mae croeso i chi hefyd gysylltu ag aelodau titlestaff academaiddtitle yn uniongyrchol i drafod prosiectau ymchwil neu themâu posibl sydd o ddiddordeb i chi.

Nid oes gennym nifer penodol o leoedd a byddwn yn ystyried pob cais addas gan raddedigion sydd â graddau mewn disgyblaethau perthnasol (gan gynnwys Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Bioleg, y Biowyddorau, Biocemeg, Geneteg, Meddygaeth, Bioleg Foleciwlaidd, Ffiseg, Seicoleg a Sŵoleg).

Mae gennym 4 thema ymchwil sy'n cynnal gwaith ymchwil sy'n cynnwys ystod eang o ddisgyblaethau gwyddonol:

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried drwy gydol y flwyddyn, gyda phwyntiau mynediad ym mis Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref.

Cyfleoedd am ysgoloriaeth

Mae cyfleoedd am ysgoloriaeth yn codi drwy gydol y flwyddyn yn ein gwahanol grwpiau ymchwil. Mae'r holl ysgoloriaethau yn cael eu hysbysebu i ddenu'r gronfa ehangaf bosibl o ymgeiswyr, gyda dyddiad cau penodol ar gyfer cyflwyno cais. Rydym yn gweithredu dull 'maes a gasglwyd' yn y sefyllfa hon, gan gasglu pob cais sy'n cyrraedd cyn y dyddiad cau, ac yna dewis o'r pwll cyfan.

Cyn hysbysebu ysgoloriaeth, bydd y prosiect arfaethedig, manyleb yr unigolyn a manylion y goruchwylwyr yn cael eu hadolygu'n allanol. Bydd manyleb yr unigolyn yn nodi'r meini prawf allweddol ar gyfer yr ysgoloriaeth.

Ceisiadau

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd lenwi ein ffurflen gais. Gall ymgeiswyr wneud cais ar-lein gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar-lein neu lawrlwytho copïau papur o'r wefan ganolog. Gellir cael ffurflenni cais hefyd drwy gysylltu â Gweinyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol.

Gellir anfon CVs gyda cheisiadau. Gellir gofyn am eirdaon gyda’r cais neu eu cael pan fydd ymgeisydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Rhaid derbyn geirda ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr fer. Dim ond ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar fanyleb yr unigolyn fydd ar y rhestr fer.

Llunio rhestr fer

Fel arfer, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ar y rhestr fer ddod i gyfweliad. Bydd y panel cyfweld yn trafod yr ymgeisydd ac yn dod i gytundeb ynghylch a yw'n addas i ddilyn gradd ymchwil yn yr adran.

Bydd ein Gweinyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn rhoi gwybod i ymgeiswyr sydd wedi bod yn aflwyddiannus o ganlyniad eu cais. Byddwn yn rhoi gwybod i bob ymgeisydd yn ysgrifenedig am y penderfyniad a wnaed mewn perthynas â'u cais.

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais y brifysgol ac efallai y byddant am ddarparu curriculum vitae i gael rhagor o wybodaeth. Gall ymgeiswyr wneud cais ar-lein gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar-lein neu lawrlwytho copïau papur o'r wefan ganolog.

Gellir cael ffurflenni cais hefyd drwy gysylltu â Gweinyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno amlinelliad o waith ymchwil arfaethedig, ond gwahoddir ceisiadau hefyd gan unigolion sydd â diddordeb ymchwil sy'n berthnasol i'r Ysgol nad oes ganddynt unrhyw brosiect penodol mewn golwg. Yn y sefyllfa hon, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda'r darpar oruchwylwyr i benderfynu ar brosiect ymchwil priodol.

Gwahoddir ceisiadau am raddau ymchwil mewn unrhyw faes sy'n dod o fewn themâu ymchwil yr Ysgol.

Gall ymgeiswyr gyfeirio at y tudalennau ôl-raddedig canolog a'n tudalennau ymchwil i gael rhagor o wybodaeth. Cyn gwneud cais, mae'n ddoeth i ddarpar ymgeiswyr ymgyfarwyddo ag arbenigedd staff yr Ysgol trwy edrych ar eu .

Efallai y bydd ymgeiswyr yn dymuno cysylltu ag aelodau staff yn uniongyrchol yn y disgyblaethau ymchwil perthnasol yn anffurfiol cyn cyflwyno cais, i drafod meysydd ymchwil posibl.

Caiff ceisiadau a wneir ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig eu prosesu gan y Tîm Derbyn Myfyrwyr yng Nghofrestrfa'r Brifysgol ac fe'u hanfonir i Weinyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol. Bydd y Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn gwneud asesiad cychwynnol i ganfod a oes gan yr Ysgol yr adnoddau i gefnogi'r ymgeisydd yn ei gais i gofrestru ar gyfer gradd ymchwil yn yr Ysgol.

Os yw canlyniad yr asesiad cychwynnol hwnnw'n nodi nad yw adnoddau'n gallu cefnogi'r cais, yna ystyrir bod y cais yn aflwyddiannus. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod yn ysgrifenedig gan Gofrestrfa Prifysgol Caerdydd. Os yw'r Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn canfod y gellir cefnogi'r ymgeisydd a bod y gwaith ymchwil arfaethedig yn unol â strategaeth ymchwil yr Adran, caiff y cais ei drosglwyddo i aelodau priodol o staff sydd â'r arbenigedd a'r cefndir i oruchwylio'r ymgeisydd.

Os yw'r goruchwyliwr/goruchwylwyr yn penderfynu mynd ar drywydd y cais ymhellach, gwahoddir yr ymgeisydd am gyfweliad gan banel dethol. Bydd y panel cyfweld yn trafod yr ymgeisydd ac yn dod i gytundeb ynghylch a yw'n bodloni’r meini prawf i ddilyn gradd ymchwil yn yr adran. Rhaid casglu geirdaon erbyn i’r ymgeisydd gyrraedd y cam hwn.

Bydd Cofrestrfa Prifysgol Caerdydd yn rhoi gwybod i bob ymgeisydd yn ysgrifenedig am y penderfyniad a wnaed mewn perthynas â'u cais.

Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, mae'r Pwyllgor Ôl-raddedig yn adolygu ein meini prawf derbyn a'r cylch derbyn blaenorol ac yn argymell unrhyw newidiadau mewn polisïau neu’r meini prawf dethol. Fel arfer, ni fydd y polisi na’r meini prawf dethol yn cael eu newid yn ystod cylch derbyn.

Asesir ceisiadau cychwynnol ar sail y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y ffurflen gais a dogfennau atodol. Mae'n ddymunol bod gan yr ymgeisydd y priodoleddau/rhinweddau canlynol ac y gall ddangos rhai ohonynt neu’r cyfan:

  • Tystiolaeth o gyflawniad academaidd uchel a photensial yn hynny o beth: tystiolaeth o gyflawniadau academaidd, neu ddarn o waith ysgrifenedig a gyflwynwyd ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn gallu dangos eu potensial academaidd drwy gymwysterau ardystiedig neu sydd ar ddod)
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau ymchwil: tystiolaeth o astudiaeth ar lefel ôl-raddedig a/neu israddedig
  • Brwdfrydedd dros y maes ymchwil a ddewiswyd: tystiolaeth o brofiad gwaith, geirda, datganiad personol
  • Sgiliau cyfathrebu da: tystiolaeth o brofiad academaidd a gwaith blaenorol, diddordebau/gweithgareddau allgyrsiol, geirda
  • Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm: tystiolaeth o waith academaidd a phrofiad gwaith blaenorol a diddordebau/gweithgareddau allgyrsiol, geirda
  • Gallu rhesymu a datrys problemau: tystiolaeth o waith academaidd, gwaith blaenorol a diddordebau/gweithgareddau allgyrsiol, geirda
  • Y gallu i reoli eich amser eich hun yn effeithiol a gweithio'n annibynnol: profiad academaidd a phrofiad gwaith blaenorol, a diddordebau/gweithgareddau allgyrsiol, geirda

Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, bydd yr holl briodoleddau hyn yn cael eu hasesu ymhellach yn ystod y cyfweliad.

Gofynion myfyrwyr Cartref/UE

  • Gradd israddedig mewn disgyblaeth berthnasol, fel arfer 2.1 neu uwch/gradd meistr fel arfer
  • Byddwn yn gwirio cywerthedd cymwysterau tramor drwy'r gwasanaeth NARIC
  • Mae’r gofynion o ran iaith Saesneg i fyfyrwyr tramor fel y’u pennir gan y brifysgol
  • Mae’r gofynion eraill yn dibynnu ar natur y prosiect penodol.
  • Weithiau bydd angen i fyfyrwyr clinigol ôl-raddedig fod wedi eu cofrestru gyda’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) ar gyfer rhai prosiectau a bydd angen iddynt fod wedi bodloni gwiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)
  • Gall fod gofyn i fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n gweithio mewn labordai fod wedi cael profiad o’r technegau perthnasol
  • Mae’r gofynion eraill yn dibynnu ar natur y prosiect penodol

Gofynion ychwanegol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol

  • Byddwn yn gwirio cywerthedd cymwysterau tramor drwy'r gwasanaeth NARIC
  • Rhaid i holl ymgeiswyr tramor nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt fod â lefel safonol o Saesneg a fydd yn eu galluogi i fanteisio’n llawn ar eu cwrs astudio

Cewch ragor o wybodaeth ar ein .

Nid oes gennym brofion derbyn myfyrwyr safonol.

Rydym yn cyfweld â phob ymgeisydd ar y rhestr fer. Os, am unrhyw reswm, nad yw'r ymgeisydd yn gallu dod i’r Ysgol am gyfweliad, gellir cynnal hyn drwy fideo neu delegynadledda (er y bydd rhai prosiectau yn gofyn i'r ymgeiswyr ddod i’r ysgol i ddangos hyfedredd mewn technegau labordy perthnasol).

Bydd yr ymgeiswyr hynny a ddewisir ar gyfer cyfweliad yn cael eu cyfweld gan o leiaf dau unigolyn. Bydd hyn naill ai'n ddau ddarpar oruchwyliwr, neu un darpar oruchwyliwr a phennaeth y grŵp ymchwil perthnasol, neu ei enwebai. Bydd cwestiynau'r cyfweliad yn cael eu teilwra i fodloni gofynion prosiectau unigol, ond byddant yn cael eu safoni ar draws ymgeiswyr.

Bydd y panel cyfweld yn trafod pob ymgeisydd ac yn dod i gytundeb ynghylch yr ymgeisydd mwyaf addas. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwybod dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb, gan y goruchwylwyr.

Bydd gofyn i ymgeiswyr rhan-amser sy'n cael eu cyflogi ddarparu prawf ysgrifenedig o'r trefniadau absenoldeb astudio a wneir gyda'u cyflogwr.

Trosglwyddo gyda chredyd gan sefydliad addysg uwch arall neu o fewn Prifysgol Caerdydd

Nid yw'r rhaglen PhD yn derbyn myfyrwyr sy’n trosglwyddo gyda chredyd o raglenni eraill. Cyfleoedd i ddysgu mwy am yr Ysgol a'i rhaglenni astudio. Cynhelir Diwrnod Agored ar gyfer ôl-raddedigion ledled y brifysgol ym mis Tachwedd bob blwyddyn ac mae'n gyfle i ymweld â'r brifysgol.

Mae gan yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg stondin yn y digwyddiad hwn, lle gall darpar ymgeiswyr siarad â staff/myfyrwyr ôl-raddedig o'r Ysgol. Mae'r Ysgol hefyd yn rhoi cyflwyniad byr am y rhaglen PhD.

Nid oes gennym unrhyw wrthwynebiad i'r posibilrwydd o ohirio mynediad. Dylid nodi hyn yn glir ar y ffurflen gais, gan roi rhesymau dros ohirio. Mae'r un meini prawf dethol yn berthnasol i ymgeiswyr sy’n gohirio.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr anabl yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg. Caiff ymgeiswyr o'r fath eu hannog i gysylltu â Chynrychiolydd Anableddau ac Anghenion Arbennig yr Ysgol yn fuan yn y broses ymgeisio er mwyn gallu trafod unrhyw anghenion a gwneud addasiadau i'r broses, lle bynnag y bo hynny'n rhesymol.

Gellir cyflenwi dogfennau, gan gynnwys y ffurflen gais a phrosbectws yr Ysgol, mewn fformatau amgen. Gall y Cynrychiolydd Anableddau ac Anghenion Arbennig, sy'n gweithio gyda Chynghorwyr Anableddau’r Brifysgol, roi gwybodaeth am gyflwyniad cyrsiau a mynediad at yr amgylchedd ffisegol, sy'n berthnasol i ddarpar ymgeiswyr sydd ag anghenion penodol. Gellir trefnu ymweliadau anffurfiol er mwyn i ymgeiswyr allu gweld y cyfleusterau llety a chyfarfod â staff academaidd a chefnogi myfyrwyr.

Gall ymgeiswyr y gwneir cynigion iddynt gael eu gwahodd i Ddiwrnod Agored. Gwahoddir ymgeiswyr o'r fath i roi gwybod i'r Ysgol am unrhyw anghenion penodol neu sy'n ymwneud ag anabledd sydd ganddyn nhw, neu'r ymwelwyr a ddaw gyda nhw, er mwyn gallu rhoi addasiadau rhesymol ar waith. Caiff pob myfyriwr gyfle i ymweld â'r brifysgol i gyfarfod â chynghorydd anableddau a thiwtor anghenion arbennig i drafod gofynion y cwrs a pha drefniadau neu addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud. Mae rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth y Brifysgol i fyfyrwyr anabl ar gael gan ein Dyslecsia.

Datganiad cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb yn ei holl arferion a gweithgareddau, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â denu, dethol a derbyn myfyrwyr. Nod y brifysgol yw sefydlu diwylliant cynhwysol sy'n croesawu ac yn sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Mae'r ymrwymiad hwn yn rhan o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Mae'r brifysgol wedi cytuno ar weithdrefnau ar gyfer ymdrin â cheisiadau am adborth, a nodir ym mharagraffau 89-95 o Fframwaith Derbyniadau'r brifysgol.

Cael mwy o wybodaeth am Broses Cwynion ac Apeliadau'r Brifysgol i Ymgeiswyr.