Optometryddion Prifysgol Caerdydd
Rydym yn darparu asesiad arbenigol, triniaeth a chyngor i aelodau o'r cyhoedd.
Fel claf gyda ni, byddwch yn derbyn gwasanaeth broffesiynol sydd o safon uchel sy'n elwa o'r cyfleusterau blaengar a'n hymchwil gwyddorau'r golwg o'r radd flaenaf.
Mae gennym glinig myfyrwyr yn ogystal sy'n darparu'r un gofal llygaid o safon uchel a'n clinig optometredd arferol ond sy'n galluogi'r genhedlaeth newydd o optometryddion i gael profiad clinigol gwerthfawr.
Mae'r gwasnaethau arbenigol yn cynnwys:
- Clinig Diffyg Golwg
- Gwasanaeth Syndrom Down
- Gwasanaeth Dyslecsia a Diffyg Lliw
- Clinig Asesiad Arbennig (sy'n darparu gofal llygaid i gleifion gydag anawsterau cyfathrebu).
Mae'r clinig llygaid ar agor i aelodau o'r cyhoedd sy'n gallu derbyn profion llygaid rhad ac am ddim pan yn mynychu ein clinigau i fyfyrwyr.
Trefnu apwyntiad
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 09.00 - 17.00
Apwyntiadau'r clinig llygaid
Mae ein clinig llygaid ar agor drwy’r flwyddyn i’r cyhoedd. Os dewch chi i glinigau'r myfyrwyr cewch brawf golwg am ddim a 20% o ostyngiad ar eich sbectol fel arwydd o ddiolch gennym ni.