Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Eye clinic

Rydym yn cynnig amrediad eang o wasanaethau optometrig ansawdd uchel i'r cyhoedd a staff a myfyrwyr sydd yn y brifysgol.

Rydym wedi ein lleoli yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd ac yn cynnig ystod eang o wasanaethau i'r cyhoedd. Gall ein optometryddion hynod brofiadol eich cynorthwyo gyda'ch anghenion gofal llygaid a darparu'r cyngor gorau posibl.

Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg yw'r unig adran hyfforddi optometreg yng Nghymru a dyma lle mae'r genhedlaeth newydd o optometryddion blaenllaw yn cael eu hyfforddi. Hefyd, dyma lle bydd ymchwilwyr o'r radd flaenaf yn archwilio i anhwylderau'r golwg. Mae'r arbeingedd cyfunol hwn yn golygu bod ein staff yn ymwybodol o'r darganfyddiadau a thechnegau diweddaraf.

Rydym hefyd yn cael budd o ddefnyddio'r cyfarpar arbenigol diweddaraf er mwyn nodi ac ymdrin â chyflyrau'r llygaid, yn ogystal â chynnal amrywiaeth o glinigau llygad er mwyn cwrdd â'ch holl anghenion, yn cynnwys:

Yn ogystal, rydym yn cynnal nifer o glinigau arbenigol ar gyfer pobl gydag anghenion arbennig ac anhwylderau gweledol gan gynnwys ein clinig arobryn ar gyfer plant sydd â syndrom Down sy'n cael ei redeg gan Dr Margret Woodhouse OBE.  Rydym yn stocio amrediad cynhwysfawr o sbectolau ffasiynol gan gynnwys Oakley, Dolce&Gabbana, Oliver Peoples, Joules, Silhouette.

Mae parcio am ddim cyfyngedig i gleifion ac mae mynediad hawdd i gadeiriau olwyn.