Digwyddiadau i Israddedigion
Mae’r digwyddiadau drwy wahoddiad yn unig yn rhoi gwybodaeth fanwl am eich cwrs.
I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yn yr e-bost gan eich ysgol academaidd sy’n eich gwahodd i’r digwyddiad.
Cofiwch wirio ffolderi sbam a’n hychwanegu at eich cysylltiadau e-bost cymeradwy.
Digwyddiadau sydd ar y gweill
Dysgwch pryd y cynhelir eich digwyddiad chi i Ddeiliaid Cynigion.
Bydd rhai ysgolion yn anfon gwahoddiadau allan yn hwyrach nag eraill, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau sy’n ddiweddarach yn y flwyddyn. Os nad ydych chi wedi derbyn e-bost yn eich gwahodd eto, ac mae eich digwyddiad yn agosáu yn ystod yr wythnosau nesaf, cysylltwch â ni.
Beth i’w ddisgwyl
Mae’r diwrnod i Ddeiliaid Cynigion yn gyfle ichi dreulio amser yn eich ysgol academaidd, cael mwy o syniad am eich cwrs, a chymryd golwg fanylach ar y cyfleusterau a'r gwasanaethau cymorth sy'n rhan o'ch profiad ehangach.
Mae llawer o ysgolion academaidd yn cynnig y canlynol:
- sesiynau trosolwg gyda gwybodaeth fanwl am gyrsiau
- gweithgareddau sy’n benodol i’ch pwnc gan gynnwys darlithoedd blasu, teithiau o labordai, sesiynau arddangos
- cyfleoedd i siarad â staff a myfyrwyr presennol
- sesiynau holi ac ateb estynedig
Graddau cydanrhydedd
Os ydych chi wedi cael cynnig i astudio am radd anrhydedd gydanrhydedd, mae ambell opsiwn ar gael i chi o ran ymgysylltu â'ch ysgolion academaidd dewisol:
1. Mae Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnal Diwrnod i Ddeiliaid Cynigion Cydanrhydedd, a gynhelir ar 19 Mawrth 2025.
2. Os na allwch ddod i'r i Ddeiliaid Cynigion Cydanrhydedd, byddwch yn derbyn dyddiadau digwyddiadau a gynhelir gan eich ysgol academaidd, a byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer un o'r digwyddiadau hynny.
Derbyn eich cynnig
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn, cysylltwch â ni - rydyn ni yma i roi cefnogaeth i chi.
Dewch o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn derbyn eich cynnig.