Ewch i’r prif gynnwys

Teithiau preswylfeydd

Byddwn yn agor ein fflat arddangos yn Ne Tal-y-bont i ddeiliaid cynigion a gwesteion gael galw heibio i’w weld.

Bydd ymweliadau ar gael ar y dyddiadau canlynol yn 2025:

DyddiadauAdegau
Dydd Mercher 5 Mawrth10:00 - 12:00
15:00 - 17:00
Dydd Sadwrn 8 Mawrth13:00 - 17:00
Dydd Mercher 12 Mawrth10:00 - 12:00
15:00 - 17:00
Dydd Mercher 19 Mawrth10:00 - 12:00
15:00 - 17:00
Dydd Sadwrn 22 Mawrth13:00 - 17:00
Dydd Mercher 26 Mawrth10:00 - 12:00
15:00 - 17:00

Ymweld â'r fflat arddangos

Does dim rhaid cadw lle ymlaen llaw ar gyfer y sesiynau hyn.

Bydd aelodau o staff a myfyrwyr yn fflat arddangos De Tal-y-bont (yn Nhŷ 12) ac wrth fynedfa safle Tal-y-bont ar Ffordd y Gogledd i’ch tywys ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Bydd staff a myfyrwyr ar gael yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr i ateb cwestiynau a chynnig copïau o'r map sy’n dangos sut i gyrraedd Talybont ar droed.

Os na allwch chi neu'ch gwesteion gerdded i Dal-y-bont oherwydd problemau symud, ewch i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr lle bydd modd i chi drefnu cludiant hygyrch i Dal-y-bont. Fel arall, ffoniwch 07812 738578 i siarad ag aelod o staff i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn o unrhyw le ar y campws. Efallai y bydd ychydig o oedi yn ystod cyfnodau brig.

Er bod ardaloedd cymunedol fflat arddangos South Tal-y-bont yn hygyrch i gadeiriau olwyn, efallai na fydd ystafelloedd gwely yn gwbl hygyrch. Yn anffodus, ni fydd fflatiau cwbl hygyrch ar gael i'w gweld gan fod myfyrwyr presennol yn byw ynddynt.

Nid oes cyfleusterau parcio ar gyfer ceir ar y safle preswyl.