Ewch i’r prif gynnwys

Yehuda Bauer

Roedd Yehuda Bauer yn hanesydd blaenllaw ar yr Holocost ac yn gyn-fyfyriwr a raddiodd o Brifysgol Caerdydd.

Hydref 30, 2024

Sylweddolaf nad peth arferol yw i’r ymadawedig ganu ei glodydd ei hun. Yn amlach na pheidio, ei swyddogaeth yw gorwedd yn dawel, yn fyddar i'r clodydd a'r mawrygu.

Pe gallai glywed, byddai’n rhyfeddu at y gorliwio a'r camgyfleu, gan wrido â chywilydd. Natur pethau yw i’r ymadawedig ei chael yn anodd gwrido. Rhy hwyr. Dyma'r achos ger eich bron. Gan ystyried y mater pwysig hwn, rwyf wedi penderfynu ysgrifennu fy nheyrnged fy hun, gan sylweddoli'n amlwg mai myfi yw'r person mwyaf cyfarwydd â mi fy hun. Mae hon yn mynd i fod yn deyrnged hir. Beth sydd i’w wneud?

Gobeithiaf imi huno heb ormod o ddioddefaint. Nid yw'r broses o farw yn ddymunol, meddan nhw, ond ni allaf ddweud sut y bu yn fy achos innau, felly ni allaf adrodd amdano. Pa un bynnag, gŵyr unrhyw hanesydd fod yn rhaid croeswirio tystiolaethau llafar, heblaw bod hynny’n anodd gwneud yn yr achos hwn. Gan nad wyf yn credu yn y deyrnas a ddêl nac mewn grym uwch sy'n rheoleiddio ein bywyd a'n marwolaeth, rwyf yn sicr na fyddaf yn gorffwys yn y nefoedd; y cwbl a wnaf fydd gorffwys. Dyna ni felly. Ond, fel y dywedodd Herzl yn ôl pob tebyg, peidiwch â gwneud unrhyw beth dwp tra byddaf farw – anelir y cyfarwyddyd hwn at ferched, meibion, wyrion a gorwyrion, ond hefyd at unrhyw un sy'n gwrando.

Ar y cyfan, rwyf wedi cael bywyd da, does gennyf yr un dim i gwyno amdano. Cefais fy ngeni ym Mhrâg, fel y gwyddoch efallai, i rieni oedd yn caru ei gilydd yn fawr iawn - Uly a Victor Bauer. Er imi fod yn fachgen, ystyriwn fy nhad yn dduw fwy neu lai; a’i ystyried o hyd felly a wnaf hyd heddiw. Ymdebygaf iddo o ran pryd a gwedd, mae iaith ein corff yr un ffunud â’n gilydd, fy llais i yw ei lais yntau. Ei efelychu a wnaf, dyna’r oll. Nid wyf wedi cyrraedd ei statws moesol anhygoel; trueni o’r mwyaf.

Ym 1943 mynasom ymrestru naill ai yn y fyddin neu'r Haganah, ond cawsom ein hargyhoeddi i sefyll ein harholiadau prifysgol ac felly ymunais â’r Palmach ddechrau haf 1944. Ar ôl imi gael fy rhyddhau, bues yn y Brifysgol Hebraeg am flwyddyn, gan ennill yr unig ysgoloriaeth a ddyfernid gan lywodraeth y Mandad i Iddewon yn y dyniaethau, ac euthum i Gaerdydd â chyflenwad gweddol o’r dillad Ewropeaidd gorau a baratoasid gan fy mam ac a oedd yn gwbl amhriodol i fyfyriwr ym Mhrydain ym 1946. Erbyn 1945, roeddwn eisoes yn aelod o blaid Hashomer Hatzair, er imi fod yn aelod cynnar o’r Sgowtiaid, ac roeddwn i fod yn un o sylfaenwyr Kibbutz Hatzerim. Yn lle hynny, euthum yn ôl i Gaerdydd i gwblhau fy BA ac MA [ar ôl Rhyfel Annibyniaeth Israel, pan ddychwelodd i ymuno â'r frwydr.] Ar ôl dychwelyd i Israel, glaniais yn Kibbutz Shoval ar Fawrth 23, 1952.

Cefais fy anfon bob dydd gan Gabriel Kitain, a gydlynai restr ddyletswyddau’r kibbutz, i weithio yn y caeau ar sled am oriau bob dydd, gan bentyrru byrnau gwair. Os bydd yn goroesi hyn, meddai, bydd yn aros yma. A dyna ddigwyddodd. Mae fy mywyd ar y kibbutz ers 41 mlynedd wedi bod yn broffidiol. Yr oeddwn yn fugail gwartheg caeëdig a chrwydrol fel ei gilydd, sef ffermwr llaeth, gan fwynhau’r bywyd hwnnw. Gwneuthum fy noethuriaeth ym 1960 gyda'r Athro Israel Halperin ar bwnc y Palmach gan fy mod yn wallgof. Ym 1955 priodais Shula a buom gyda'n gilydd am 35 mlynedd. Magasom ddwy ferch. Rwyf wedi bod yn byw gyda Ilana am 25 mlynedd ar ôl fy ysgariad.

Gwneuthum lawer o waith. Rwyf wedi ymdrin â'r materion mwyaf erchyll i hanesydd Iddewig fedru ymdrin â hwy, a phe na bai am fy nheulu a'm hobi, sef cerddoriaeth werin, ni fyddwn wedi gallu dygymod â’r ing. Roedd hyd yn oed ddechreuadau fy ymwneud â hil-laddiad yn deillio yn bennaf o’r ystyriaethau moesol a etifeddais gan fy nhad. Rwyf wedi cyfarfod â phrif weinidogion, brenhinoedd, llywyddion, arferwn wneud areithiau ysblennydd gan fod gennyf ddawn dweud, fel y gwelwch yn y deyrnged hon. Roeddwn yn gallu mynegi fy hun. Rhagrithiol fyddai gwadu nad oedd yr anrhydeddau hyn yn boddhau fy ego, ond y prif beth oedd hyrwyddo dealltwriaeth o bethau, gan gynnwys hil-laddiad. Roeddwn ymhlith sylfaenwyr grŵp rhyngwladol a oedd yn mynd i'r afael â'r pwnc yn ddamcaniaethol ac yn wleidyddol.

A beth mae Yehuda Bauer yn gadael ar ei ôl? Pentwr mawr o lyfrau ac erthyglau. Bydd hyn i gyd yn cael ei anghofio yn y pen draw gan mai ebargofiant yw ffawd popeth yn y byd hwn. Erys pump o blant mewn oed, fy nwy ferch a thri mab Ilana, 8 o wyrion a phedwar gorwyr, a rhagor yn nes ymlaen, yn ogystal â nifer o filoedd o fyfyrwyr yn Israel a thramor. Efallai bod y myfyrwyr hynny wedi amsugno rhywfaint o'r hyn y ceisiwn ei ddysgu iddynt, ac efallai ychydig mwy.

Oeddwn i'n wladgarwr Israelaidd? Seionydd? Er na chefais fy ngeni yma, dyma fy ngwlad ac ni fyddwn yn ymadael â hi hyd yn oed pe addewsid golud byd imi - mewn gwirionedd, dyna a addawyd imi, ac fe’u gwrthodais. Gobeithio na fydd fy nisgynyddion yn ymadael â hi gan fod yr ystrydeb clwyfedig honno yn wir: nid oes gennym na’r un wlad na’r un bobl arall, er gwaethaf y ffaith ein bod yn genedl ynfyd. Fel y dywedodd Chaim Weizmann unwaith: Dyma'r bobl Iddewig orau sydd gennym. Mae'n rhaid inni ymgodymu â hi orau y gallwn. Rwyf yn perthyn i'r bobl hon er gwaethaf y ffaith fy mod, mewn egwyddor, yn ei chael yn anodd perthyn i unrhyw grŵp dynol a fydd yn fy derbyn yn aelod. Eithr, ni ddewisais fod yn Iddewig, cefais fy ngeni’n rhan o'r busnes hwn, a minnau’n gwbl ddi-fai. Y gwir amdani yw fy mod wedi cymodi â hyn ac ar ben hynny yn fodlon yn ei gylch hyd yn oed. O gael eich geni’n rhan o ryw grŵp ethnig, gwell cael eich geni yn Iddew. Dyma bobl ddiddorol, flinderus, ffieiddgas, gyffrous, erchyll a rhyfeddol.

Nid wyf yn credu mewn iwtopias gan fod pob iwtopia yn arwain at lofruddio yn y pen draw. Ond rwy'n credu bod modd datrys, rywfaint o leiaf, yr Iddewon hyd yn oed. Hyd yn oed y byd - os mai ychydig iawn yn unig yw hynny. Felly, fel yr wyf wedi ei ddweud, rhowch gynnig arni. Maddeuwch i mi y marwnadu hir hwn, addawaf beidio ag ysgrifennu’r un deyrnged arall. A pheidiwch â chrio - gwenwch ychydig. Gorau po oll gwenu, chwerthin hyd yn oed, tra gallwch. Rhowch gynnig arni. Heddwch fyddo ichi.