Robert Maynard Jones
Ar 22 Tachwedd 2017, bu farw’r llenor a’r ysgolhaig R. M. (Bobi) Jones. Graddiodd Bobi Jones yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy (rhagflaenydd Prifysgol Caerdydd) ac aeth ymlaen i wneud cyfraniad dihafal i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Braint yw cael cyhoeddi teyrnged iddo gan y Dr Eleri James, a gwblhaodd PhD ar ei waith yn Ysgol y Gymraeg ac a gyhoeddodd yr astudiaeth Casglu Darnau'r Jig-So: Theori Beirniadaeth R. M. (Bobi) Jones yn 2009.
Ganed Robert Maynard Jones (R. M. Jones/Bobi Jones), y llenor mwyaf toreithiog a welodd yr iaith Gymraeg erioed, ar 20 Mai 1929 ar aelwyd ddi-Gymraeg yn y Rhath, Caerdydd.
Y peth mwyaf rhyfeddol yn y frawddeg gyflwyniadol uchod yw’r ffaith fod ein hawdur mwyaf cynhyrchiol erioed wedi caffael y Gymraeg drwy’r system addysg yma yn ein prifddinas. Dyma her ac anogaeth i fyfyrwyr nad yw’r Gymraeg yn famiaith iddynt ac i bob athro neu diwtor sy’n eu dysgu. Ond nid o’i fwriad ef ei hun y dechreuodd Bobi Jones ddysgu’r Gymraeg, fel y tystia’r hanes digrif isod am gael ei ‘ddewis’ yn anfoddog i astudio’r Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Cathays ym mis Medi 1940. Dyfynnir yr hanes yn llawn, yn deyrnged i’w hiwmor a’i ddireidi dihafal ynghyd â’i ddawn dweud stori:
There were ninety of us, and he [the headmaster] asked those who wished to ‘do’ Welsh to stand forward. Some five quivering schoolboys ventured a step. The rest of us stood our ground, certain that Spanish would be intensely useful for our commercial weekend trips to South America later on. And would we not have chosen Timbuktuish, if such a language existed, rather than degrade ourselves to do that indeed-to-goodness stuff?
But the headmaster had his job to do, and needed a ‘stream’: at a push, twenty-five might do, but certainly not five. It was wartime, and volunteering was in the air. ‘Tell me, my boy’, said he, turning on a fat blushing specimen in the middle of the front row, ‘why don’t you want to do Welsh?’
‘I know enough, sir.’
Had I not done it in the elementary?
‘Well, tell me, my boy. What’s “good morning” in Welsh?’
This was one of those phrases that had somehow slipped the syllabus of the elementary. The blush reached my knees.
‘Tell me, my boy. What’s “good night”?’
This too had slipped attention. The blush rattled to the floor.
‘Don’t you think you’d better reconsider your decision?’
The vision had come.
‘Stwffiwyd’ y Gymraeg i lawr ei gorn gwddf, chwedl yntau, gan ei athro Cymraeg, W. C. Elvet Thomas (1905–94), un o athrawon Cymraeg mwyaf dylanwadol Cymru yn ei ddydd, a fynnodd gyflwyno Cymru yn ei chyfanrwydd i’w ddisgyblion. Mynegodd Bobi Jones ar sawl achlysur ei ddyled i’r athro cyfareddol hwn, a honnodd iddo golli pob ‘siawns’ o ddianc rhag crafangau Cymru a’r Gymraeg unwaith y daeth o dan ei adain. Mawr yw ein dyled ninnau.
Aeth y Bobi Jones ifanc ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd â’r uchelgais o ennill gradd yn y Ffrangeg. Ond nid felly y bu. Cofrestrodd i astudio’r Gymraeg yn y flwyddyn gyntaf ac fe’i hudwyd yn llwyr. Darganfu mwy na phwnc academaidd rhwng muriau Adran y Gymraeg. Darganfu, yn ei eiriau ei hun, ‘Achos, Galwad, Dewiniaeth, Gweledigaeth, Ymgyrch, Bywyd.’
Mae’r geiriau hyn yn allwedd i ddeall gyrfa ryfeddol y polymath hwn wedi iddo raddio. Daeth y Gymraeg – a phopeth y mae’n ei gynrychioli – yn alwedigaeth, yn ymgyrch ac yn grwsâd iddo gydol ei oes. Yr egni hwn o blaid y Gymraeg, a’i argyhoeddiadau Cristnogol personol dwfn, a siapiodd ei yrfa. Anodd, onid amhosibl, fyddai crynhoi ehangder, amrywiaeth a gwreiddioldeb bywyd a gwaith Bobi Jones mewn pwt o deyrnged fel hon. Sut mae dechrau croniclo a chrisialu bywyd a chyfraniad yr addysgwr, y bardd, y beirniad, yr ymgyrchydd a’r theorïwr hwn? Gellid ceisio rhestru’r pinaclau, wrth gwrs: gyrfa academaidd ddisglair; ei dröedigaeth Gristnogol; arbenigo ym maes ieithyddiaeth a seico-mecaneg iaith ac mewn dulliau dysgu Cymraeg fel ail iaith; ysgrifennu’n awdurdodol ar bob cyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg; y dysgwr cyntaf i’w benodi’n Athro’r Gymraeg; sefydlu’r Academi Gymreig; cyhoeddi llyfrgell o lyfrau o dan ddau enw (‘R. M. Jones’ a ‘Bobi Jones’, heb sôn am gyhoeddi o dan ffugenwau ar gyfer llyfrau i blant); sefydlu CYD (Cymdeithas y Dysgwyr)’ ymroi i fenter arloesol ym maes beirniadaeth lenyddol; ac, yn ei flynyddoedd olaf, sefydlu gwefan doreithiog ei chynnwys (http://www.rmjones-bobijones.net/) ... Ond nid yw’r rhain ond darnau o’r jig-so, a rhaid deall y llinynnau a’r undod rhyngddynt er mwyn gwerthfawrogi maint ei gyfraniad yn llawn. Gweld y darlun cyfansawdd – a benthyg terminoleg a delfryd Bobi ei hun ym myd theori lenyddol (https://wici.porth.ac.uk/index.php/Jones,_R._M._(Bobi))
Serch swmp a sylwedd gyrfa lenyddol ac academaidd y meddyliwr gwreiddiol ac unigryw hwn, cymharol brin yw’r sylw a roddwyd i’w waith mewn gwirionedd – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cynulleidfa ddigon dethol a ddenwyd ganddo, a hynny’n rhannol oherwydd iddo ymroi o argyhoeddiad i gyhoeddi deunydd heriol yn y Gymraeg. Cwynai’n gyson yn erbyn yr amharodrwydd cynyddol ‘i ymgodymu â gwaith oedolaidd yn y Gymraeg’, gan fynnu, os oedd y diwylliant Cymraeg am barhau i fod yn un cyflawn, amlochrog a chyfoethog, fod rhaid mynd i’r afael â bywyd yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod trwy gyfrwng y Gymraeg. Meddai yn ei hunangofiant, O’r Bedd i’r Crud (2000): ‘Gwelais “safonau” yn cael eu cyfrif yn elitaidd: dyna gri’r taeog.’
Rheswm arall am y gynulleidfa ddethol i’w waith yw iddo ddewis cyhoeddi’r rhan fwyaf o’i waith yn y Gymraeg. Canlyniad anochel ei ystyfnigrwydd o blaid y Gymraeg a’i uchelgais dros Gymru oedd cyfyngu ar y pwll potensial o ddarllenwyr gwerthfawrogol. Disgrifiwyd ef yn ystod ei oes fel un o’r ychydig feirniaid o statws Ewropeaidd a oedd yn ysgrifennu yn y Gymraeg ac nid yw’n anodd dychmygu y byddai wedi hawlio sylw helaethach o dipyn pe bai wedi cyhoeddi yn un o ieithoedd mawr Ewrop. Y deyrnged fwyaf y gallwn ni ei thalu i Bobi Jones felly fyddai unioni’r sefyllfa hon drwy ymroi i astudio’i waith o ddifri, gan ymgodymu â’r astrus a’r athronyddol ynddo er mwyn ceisio’r trysor a ganfu ef.