Yr Athro Tom Keenoy
Gyda thristwch mawr y clywodd Ysgol Busnes Caerdydd am farwolaeth annhymig yr Athro Tom Keenoy ar 15 Chwefror 2019.
Teimlir yr ergyd gan gyn-gydweithwyr, myfyrwyr a ffrindiau Tom yng Ngholeg y Brenin, Llundain, Prifysgol Caerlŷr, Vrije Universiteit, Amsterdam, a Phrifysgol Wollongong.
Roedd Tom yn ysgolhaig. Yn ei fywyd a’i waith, roedd ei rinweddau ymgysylltu, ymrwymo a dysgu yn esiampl i eraill ym mhopeth yr oedd yn ei wneud a’i ddweud. Roedd pawb a gafodd y cyfle i gwrdd ag ef yn gwybod y byddai’r profiad o ryngweithio ag unigolyn mor feddylgar a chraff yn eu gwneud yn well pobl. Er ei fod yn berson di-lol, roedd hefyd yn dwymgalon ac roedd ganddo ddealltwriaeth sy’n perthyn yn benodol i rywun sydd â’i draddodiadau a’i ddadleuon deallusol wedi’u mewnosod yn ddwfn, a oedd yn rhan annatod ohono.
Graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf B.A. (Gweinyddol), Prifysgol Strathclyde, Glasgow yn 1967, ac wedyn D.Phil. (Oxon.), Coleg Brasenose, Prifysgol Rhydychen.
Ar ôl bod mewn sawl rôl yn y Bwrdd Cenedlaethol ar gyfer Prisiau ac Incwm a Swyddfa Economeg y Gweithlu, y Comisiwn ar Gysylltiadau Diwydiannol a’r Bwrdd Talu, cafodd ei benodi’n Ddarlithydd, Adran Cysylltiadau Diwydiannol a Rheoli Astudiaethau, Coleg y Brifysgol, Caerdydd ym 1972.
Daeth yn ddarlithydd yn Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd ym 1988. Ym 1995, fe’i benodwyd yn Ddarlithydd, Y Ganolfan Rheoli, Coleg y Brenin, Llundain, ac yna cafodd ei ddyrchafu’n fewnol i rôl Uwch-ddarlithydd a Darllenydd ym 1997. Yn 2005, cafodd Tom ei benodi yn Athro Rheoli Prifysgol Caerlŷr ac yna’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerlŷr yn 2008. Yn 2008, fe ddychwelodd i Ysgol Busnes Caerdydd fel Athro Anrhydeddus. Bu mewn sawl rôl gwadd ym Mhrifysgol Wollongong, Sefydliad Cenedlaethol Bywyd Gwaith, Sweden a Vrije Universiteit, Amsterdam.
Yn ei ymchwil, ei waith ysgrifennu a’i addysgu, bu Tom yn cyfuno ehangder diddordeb a dyfnder addysgu a oedd yn cwmpasu symudiadau cymdeithasol megis Solidariaeth, arferion rheoli Japaneeg yn Malaya, dyfodiad ‘rheoli adnoddau dynol’ fel hologram disgyrsiol pwerus, a chysylltiadau cyflogaeth yn Awstralia. Ef oedd sylfaenwr a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Rhyngwladol ar gyfer Ymchwil mewn Disgwrs, Strategaeth a Newid Sefydliadol lle bu’n chwarae rôl hanfodol yn hyrwyddo dull ‘dadansoddi disgwrs’ i’r astudiaeth o fywyd cymdeithasol a sefydliadol.
Er hyn, roedd gan Tom ddiddordebau ehangach y tu hwnt i’w waith academaidd lle bu’n ymgysylltu â’i bryderon ehangach am safon bywyd yng nghymdeithasau’r unfed ganrif ar ddeg a nodweddir gan anghydraddoldeb economaidd sydd ar dwf, rhaniadau cymdeithasol a pholareiddio gwleidyddol. Gwelwyd enghraiff o hyn yn ei astudiaeth – ynghyd â Peter Anthony, Len Arthur, Russell Smith a Molly Scott Cato – ar newid cymeriad rheoli a threfn gwaith yng Nglofa’r Tŵr yn ne Cymru. Llwyddodd yr ymchwil ar Lofa’r Tŵr i ddangos gallu di-ffael Tom i gysylltu ‘materion cyhoeddus’ gyda ‘thrafferthion personol’ mewn ffordd a fyddai’n gwneud C Wright Mills yn falch ohono.
Yn ogystal â’i gyflawniadau ei hun, trwy gydol ei yrfa, dangosodd Tom ddiddordeb byw ac anhunanol yng ngwaith pobl eraill. Gall gymaint o gydweithwyr olrhain eu llwyddiannau yn ôl i drafodaethau a gafwyd gyda Tom. Roedd yn fentor mor gall a gofalgar a gynigiodd ddealltwriaeth graff a chyngor diffuant i’r un graddau.
Mae Tom yn gadael ei wraig annwyl, Judy, a’i blant, Kevin a Meave, ar ei ôl. Bydd pob un ohonom a oedd yn ddigon ffodus o’i adnabod yn ei gofio am byth.
Mike Reed, Athro Astudiaethau Sefydliadol yn Ysgol Busnes Caerdydd.