Yr Athro Syr Mansel Aylward CB
Gyda thristwch mawr y mae Prifysgol Caerdydd yn nodi marwolaeth yr Athro Syr Mansel Aylward CB – arweinydd eithriadol a hyrwyddwr iechyd cyhoeddus ymroddedig.
Roedd yr Athro Syr Mansel Aylward CB, neu Mansel i’w holl ffrindiau a chydweithwyr yn lleol ac yn fyd-eang, yn ffigur blaenllaw yn yr ymgais i wella iechyd yng Nghymru. Ac yntau wedi’i eni ym Merthyr Tudful, gwelodd drosto’i hun yr anghydraddoldebau iechyd a oedd yn cael effaith mor wael ar gymunedau’r Cymoedd yng Nghymru. O ganlyniad i hynny, ei obaith oedd dod yn feddyg a gwneud gwahaniaeth. Y cam cyntaf oedd mynd i Lundain i astudio meddygaeth. Yn fyfyriwr yn ei bumed flwyddyn yn teithio adref i Ferthyr Tudful am ddiwrnod neu ddau, tynged oedd cael ei dynnu i mewn i drychineb ofnadwy Aberfan. Mansel oedd un o’r gweithwyr iechyd proffesiynol cyntaf i gyrraedd y lleoliad. Soniodd yn huawdl am y profiad a’i effaith ar ei lwybr at y dyfodol, gan ei gyfeirio at yrfa ym maes meddygaeth iechyd cyhoeddus.
Niferus yw ei gyflawniadau ym maes iechyd cyhoeddus yng Nghymru a’r DU. Rhwng 1995 a 2005, Mansel oedd Prif Gynghorydd Meddygol, Cyfarwyddwr Meddygol a Phrif Wyddonydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llundain. Yn 2009, cafodd ei benodi i rôl Cadeirydd cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru – ymddiriedolaeth newydd y GIG a grëwyd i ddiogelu a gwella iechyd a lles yng Nghymru, gan gynnwys lleihau anghydraddoldebau iechyd yn y genedl. Cadeiriodd Gomisiwn Bevan – prif felin drafod iechyd a gofal Cymru – ers ei sefydlu yn 2008. Roedd yn arbennig o frwd am y comisiwn hwn ac yn ymwneud ag ef hyd ei farwolaeth.
Mansel oedd Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd am nifer o flynyddoedd, gan sicrhau ymchwil ragorol i agweddau allweddol ar iechyd cyhoeddus. Yn 2017, cafodd ei benodi i rôl Cadeirydd cyntaf Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Y tu allan i’r byd academaidd, cyfrannodd mewn ffordd bwysig at gwmnïau gwyddorau bywyd Cymru a oedd yn gweithio ym meysydd diagnosteg ac adsefydlu.
Derbyniodd nifer o wobrau ac anrhydeddau yn ystod ei yrfa ddisglair. Yn fwyaf nodedig, daeth yn aelod o Urdd y Baddon yn 2002, a hynny’n Gydymaith, a chafodd ei urddo’n farchog yn rhan o Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2010 am ei wasanaeth i iechyd a gofal iechyd.
Roedd Mansel yn frwd iawn am y gwyddorau iechyd. Roedd hefyd yn ysbrydoliaeth ac yn gymorth i lawer a gydweithiodd ag ef yng Nghymru a’r tu hwnt. Pleser oedd cwrdd ag ef, gan ei fod bob amser yn gwenu, yn garedig ac yn dosturiol. Roedd yr un mor fodlon trafod gwyddoniaeth neu rygbi Cymru, ac yntau’n ffynhonnell o wybodaeth yn y ddau bwnc. Bydd colled ar ei ôl.
Dywedodd yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Trist iawn oedd cael gwybod am farwolaeth yr Athro Syr Mansel Aylward CB. Mae wedi gwneud cyfraniadau enfawr i iechyd a lles pobl yng Nghymru, a bydd effaith ei waith yn parhau i wasanaethu’r cyhoedd yn genedlaethol, yn lleol ac yn gymunedol yng Nghymru ymhell i’r dyfodol. “Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg hon.”
- Yr Athro Paul Morgan a Greg Spencer