Yr Athro Peter Wells CBE
Gyda thristwch mawr y clywodd y Brifysgol am farwolaeth yr Athro Peter Wells.
Peter oedd un o'r ffigurau mwyaf adnabyddus ym maes uwchsain meddygol. Bu'n arloeswr wrth ddatblygu uwchsonigau fel offeryn llawfeddygol a diagnosteg, gan weddnewid ymarfer clinigol ledled y byd.
Treuliodd Peter lawer o'i flynyddoedd cynnar ym Mryste, gan ennill PhD yn Mhrifysgol Bryste. Rhwng 1960 a 1971, bu'n Ffisegydd Meddygol yn Ysbytai Unedig Bryste, cyn dechrau ei berthynas hirsefydlog â Chaerdydd wrth ddod yn Athro Ffiseg Feddygol yn Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru o 1972 hyd at 1974.
Hyd at 2000, Peter oedd y Prif Ffisegydd yn Ysbytai Unedig Bryste. Roedd hefyd yn Athro Anrhydeddus mewn Radioleg Glinigol ac yn Athro Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste. O 2004 ymlaen, bu Peter hefyd yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Imperial Llundain yn ogystal ag yn Athro Gwadd yng Ngholeg Prifysgol Llundain o 2011.
Yn 2011, daeth Peter yn Athro Ymchwil Nodedig ym Mhrifysgol Caerdydd lle bu'n parhau â'i waith arloesol ym maes uwchsonigau. Roedd Peter hefyd yn datblygu math newydd o sganio CT, sy'n debygol o gael ei ddefnyddio ar gyfer sganio uwchsonig o'r fron, yn ogystal â math cyflymach o sganio uwchsain.
Yn dyst i effaith a safon y gwaith a wnaed gan Peter, dyfarnwyd rhai o deitlau a gwobrau mwyaf mawreddog iddo gan awdurdodau enwocaf y byd yn ei faes. Ym 1983, fe'i gwnaed yn Gymrawd o'r Academi Beirianneg Frenhinol, yn Gymrawd o'r Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol ym 1984 ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 2003. Roedd Peter hefyd yn Gymrawd Sefydlol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Yn 2013, dyfarnwyd y Fedal Frenhinol i Peter gan y Gymdeithas Frenhinol am "arloesi wrth ddefnyddio'r gwyddorau ffisegol a pheirianyddol i ddatblygu uwchsonigau fel offeryn llawfeddygol a diagnosteg gan weddnewid ymarfer clinigol."
Yn 2014, dyfarnwyd Medal Syr Frank Whittle i Peter gan yr Academi Beirianneg Frenhinol. Dyfarnwyd y wobr i beiriannydd yn y DU "sydd wedi llwyddo'n gyson i gael effaith enfawr ar eu disgyblaeth."
Yn 2009, penodwyd Peter yn Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn rhestr yr anrhydeddau blwyddyn newydd am ei wasanaethau ym maes y gwyddorau gofal iechyd.