Yr Athro Peter Ghazal OBE FMedSci
Gyda thristwch y mae Prifysgol Caerdydd yn nodi marwolaeth yr Athro Peter Ghazal, gwyddonydd nodedig a chydweithiwr annwyl.
Byddwn ni’n cofio ei gyfraniad rhagorol i faes meddygaeth systemau ac imiwnoleg am byth. Bu farw Peter ym mis Ebrill 2024. Roedd yn ymchwilydd arloesol ac yn fentor ymroddedig.
Ganwyd Peter Ghazal yn 1961, a dechreuodd ar yrfa ryfeddol. Roedd ei waith ledled sawl cyfandir wedi helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o glefydau heintus yn sylweddol, yn enwedig sepsis. Yn 2017, ymunodd Peter â Phrifysgol Caerdydd, a hynny ar ôl cael swyddi uchel eu parch ym Mhrifysgol Caeredin a Sefydliad Ymchwil Scripps yn California.
Yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, Peter oedd Athro uchel ei barch Sêr Cymru II ym maes Meddygaeth Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau. Yma, arweiniodd Prosiect Sepsis, ymdrech ymchwil arloesol gyda’r nod o wella ymwybyddiaeth, diagnosis a strategaethau trin sepsis yng Nghymru. Roedd ei weledigaeth wrth arwain a’i ddull rhyngddisgyblaethol wedi gosod y sylfaen ar gyfer datblygiadau hollbwysig ym maes ymchwil sepsis yr oedd unigolion di-ri wedi elwa ohono.
Byddwn ni’n cofio Peter nid yn unig am ei gyfraniadau gwyddonol ond hefyd am fod yn fentor penigamp a’i ysfa i gydweithio. Roedd wedi meithrin cenhedlaeth o ymchwilwyr, gan eu hysbrydoli gyda’i ddull arloesol tuag at fioleg ddwys o ran data, a’i ymrwymiad cadarn i drin gwyddoniaeth yn rhan o dîm.
Yn 2023, cafodd rhagoriaeth Peter ei chydnabod gydag OBE am ei wasanaethau heb eu hail i imiwnoleg systemau. Roedd hyn yn destament i effaith ei waith a’i ymroddiad i wella iechyd y cyhoedd.
Y tu hwnt i’w gyflawniadau proffesiynol, roedd Peter yn adnabyddus am ei gynhesrwydd, ei hiwmor a’i garedigrwydd di-ddiwedd. Mae’n gadael cymuned o gydweithwyr a myfyrwyr ar ei ôl, a gafodd eu dylanwadu’n fawr gan ei athrylith a haelioni ei ysbryd.
Bydd gwaddol Peter yn parhau drwy’r arfer o fynd ar drywydd parhaus gwybodaeth ac arloesedd ym maes meddygaeth systemau ac imiwnoleg. Byddwn ni’n ei golli’n fawr, ac yn ei gofio am ei gyfraniadau sylweddol i wyddoniaeth a bywydau pawb y daeth i gysylltiad â nhw.
Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda theulu ac anwyliaid Peter yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dyma obeithio y bydd ei waddol yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i geisio rhagoriaeth yn eu canfyddiadau gwyddonol, a hynny gyda’r un tosturi y byddai Peter yn ei arfer.
— Yr Athro Valerie O'Donnell a'r Athro Rachel Errington ar ran Is-adran Haint ac Imiwnedd yr Ysgol Meddygaeth