Yr Athro Paul Spencer
Roedd aelodau’r ysgol yn drist iawn i glywed am farwolaeth Paul Spencer, OBE, a fu farw’n dawel ar ôl salwch hir ar 16 Mehefin 2012. Roedd Paul yn bennaeth yr ysgol rhwng 1978-97 ac yn rhag is-ganghellor o 1994-98, tan iddo ymddeol yn 2002.
Dros 30 mlynedd, dysgodd gannoedd o fyfyrwyr a chyfrannodd ei sgiliau fferyllol a ffarmacolegol at brosiectau ymchwil dirifedi. Oherwydd ei ymagwedd gyfeillgar, dadol a brwdfrydig at broblemau academaidd a phersonol, roedd galw mawr am ei gyngor, nid yn unig gan y staff ond gan fyfyrwyr yr oedd angen arweiniad neu gefnogaeth arnynt. Yn y modd hwn, roedd ei ddrws bob amser ar agor.
Cafodd Paul ei fagu yn nwyrain Canolbarth Lloegr ac astudiodd fferylliaeth yng Ngholeg Technegol Caerlŷr (rhagflaenydd Prifysgol De Montfort) lle gadawodd â gradd BPharm ac aeth ymlaen i swydd hyfforddiant cyn cofrestru yn Ysbyty Middlesex yn Llundain. Yna fe'i penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol yn Ysgol Fferylliaeth Llundain (“The Square”) lle cwblhaodd ei PhD.
Wedi hynny, daeth yn brif fferyllydd i Allen a Hanburys (sydd bellach yn rhan o GlaxoSmithKline) cyn symud i Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Aston. Yna, fe fu’n uwch ddarlithydd ac yna’n ddarllenydd mewn ffarmacoleg (1965–71). Yr adeg honno, datblygodd Paul ddiddordeb cynnar mewn fferylliaeth opioidau a gwrthiselyddion. Cyfarwyddodd brosiectau ymchwil a chyhoeddodd bapurau yn y maes hwn cyn symud i Ysgol Fferylliaeth Cymru i fod yn athro ffarmacoleg gymhwysol ym 1971.
Saith mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei benodi’n bennaeth yr ysgol, a’i ethol yn gymrawd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. Wedi hynny, dyfarnwyd doethuriaeth uwch DSc iddo gan Brifysgol Cymru ym 1986. Derbyniodd Paul DSc er anrhydedd o Brifysgol De Montfort ym 1994 a hefyd roedd yn rhag is-ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd tan 1998. Yn ystod yr amser hwn, roedd yn gyfrifol am gael Adeilad Morgannwg i’r Brifysgol gan Gyngor Sir Morgannwg Ganol. Bryd hynny, roedd hefyd ar fwrdd y llywodraethwyr dros Brifysgol Cymru, Casnewydd.
Yn ystod ei yrfa, cyhoeddodd Paul dros 250 o bapurau, crynodebau a phenodau ymchwil mewn cyfnodolion a llyfrau a adnabyddir yn rhyngwladol. Chwaraeodd rôl ddylanwadol mewn materion fferyllol yn lleol ac yn genedlaethol. Ar ôl iddo ymddeol yn 2000, roedd yn parhau i gyfrannu at faes fferylliaeth ac i gefnogi Cymdeithas Clefyd Niwronau Echddygol. Daeth yn drysorydd cenedlaethol y sefydliad, ac yn gadeirydd ei bwrdd ymddiriedolwyr.
Roedd Paul yn berson ardderchog a gafodd effaith sylweddol ar faes fferylliaeth a’r wyddor ffarmacoleg. Ar ben hynny, fe gafodd effaith gadarnhaol, bwysig ar fywydau ei deulu, ei gydweithwyr proffesiynol, ei fyfyrwyr a’i ffrindiau. Cafodd fywyd llawn wedi'i gefnogi gan bartner annwyl a theulu hyfryd. Estynnwn gydymdeimlad dwys at ei wraig Avril, Isobel, Rosemary, Jonathan a'u teuluoedd.
Wedi'i ysgrifennu gan yr Athro Gary Baxter a'i gyhoeddi'n wreiddiol yn y Pharmaceutical Journal.