Yr Athro John Gwynfor Jones
Roedd yr Athro John Gwynfor Jones, a fu farw ym mis Rhagfyr 2020, yn ffigwr dihafal yn hanes Cymru a hanes Prifysgol Caerdydd.
Roedd yr Athro Jones, yr oedd pawb yn ei alw’n 'Gwynfor', yn hanu o ardal Llanrwst yn Nyffryn Conwy, ond daeth i Gaerdydd i ddilyn ei astudiaethau academaidd. Dyfarnwyd iddo radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes a Chymraeg yng Nghaerdydd ac yna gwnaeth ei MA ym Mangor, lle yr ysgrifennodd draethawd trawiadol ym 1967 ar lywodraeth a gweinyddiaeth leol yn Sir Gaernarfon yn yr ail ganrif ar bymtheg.
Dychwelodd Gwynfor i Gaerdydd i ysgrifennu ei ddoethuriaeth. Roedd y gwaith dylanwadol hwn, a gwblhaodd ym 1974, yn canolbwyntio ar bapurau swmpus teulu Wyniaid Gwydir o dan y Tuduriaid a’r Stiwartiaid cynnar. Roedd y gweithiau hyn yn sail i'w gyhoeddiadau cynnar a oedd yn cynnwys traethodau pwysig yn Cylchgrawn Hanes Cymru, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, ac yn dyst i'w ddiddordeb parhaus yn niwylliant, crefydd a byd gweinyddol a chymdeithasol y bonedd yn y Gymru fodern gynnar.
Penodwyd Gwynfor i'r Adran Hanes yng Nghaerdydd ym 1964 (ac felly atgofion aml Gwynfor am fywyd o dan Stanley Chrimes, sef pennaeth yr adran rhwng 1953 a 1974) ac yna symudodd i’r Adran Hanes Cymru pan gafodd honno ei chreu. Trwy gydol ei amser yng Nghaerdydd, roedd yn aelod allweddol o staff yr Adran Hanes tan ei ymddeoliad yn 2003.
Roedd Gwynfor yn ysgrifennwr toreithiog, yn siaradwr cyhoeddus penigamp a bu’n gwasanaethu hanes Cymru yn ddiflino. Cyhoeddodd fwy na dwsin o lyfrau gan gynnwys yr astudiaethau allweddol The Wynn Family of Gwydir: Origins, Growth and Development c. 1490–1674 (1995), Law, Order and Government in Caernarfonshire, 1558-1640 (1996) a The Welsh Gentry, 1536-1640 (Caerdydd, 1998), yn ogystal â chasgliadau golygedig pwysig a dwsinau o erthyglau, traethodau a phenodau ar lu o bynciau yn amrywio o lywodraeth ganoloesol hwyr i ddiwylliant crefyddol yn y Gymru fodern.
Roedd Gwynfor yn arbenigwr enwog ar ddiwylliant barddol y Gymru fodern gynnar ac yn arloeswr wrth ddefnyddio’r dystiolaeth hon mewn astudiaethau hanesyddol.
Cefnogodd addysg cyfrwng Cymraeg ac astudiaethau hanesyddol yng Nghaerdydd yn ystod ei ddegawdau o addysgu a gweinyddu. Yn ogystal â hynny, y tu allan i'r brifysgol, yn ei waith i Fethodistiaid Calfinaidd Cymru (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), bu’n bregethwr lleyg, yn flaenor yng Nghapel y Crwys am fwy na 40 mlynedd ac yn Llywydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 2017. Roedd hefyd yn arholwr allanol ac yn gynghorydd ar gyfer Bwrdd Arholi CBAC.
Ac yntau’n gweithio yn Adeilad John Percival, byddai rhywun yn aml yn dod ar draws Gwynfor ar ei ffordd i ddysgu dosbarth neu'n symud yn araf ond yn bwrpasol i fyny pum set o risiau (ni fyddai byth yn defnyddio’r lifft) â llond dyrnaid o nodiadau wedi’u hysgrifennu â llaw yn ei law a sawl llyfr yn ei friffces. Yno y byddai ar lawr uchaf Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, yn swatio y tu ôl i fynydd o lyfrau ac ar ben y cyfan nodyn cwrtais yn gofyn i'r llyfrgellwyr beidio â symud y rhyfeddod pensaernïol hwn a fyddai’n sail ar gyfer ei lyfr neu erthygl nesaf. Yn aml, byddai’r myfyrwyr yn synnu ac ar ben eu digon yn cael gwybod mai'r ffigwr chwedlonol hwn y byddent yn mynd heibio iddo bob dydd ymysg silffoedd y llyfrgell oedd y dyn a oedd wedi ysgrifennu cymaint o'r deunydd darllen y byddent yn ei ddefnyddio ar eu cyrsiau.
Roedd 'ymddeol' yn air nad oedd erioed yn hollol berthnasol i Gwynfor gan mai’r gwir amdani oedd nad oedd yn gwneud fawr o wahaniaeth o ran trefn arferol ei ddiwrnod gwaith ar wahân i'w absenoldeb o’r cyfarfodydd adrannol. Bu’n hynod o ddiwyd a chynhyrchiol o hyd am nifer o flynyddoedd ar ôl iddo ymddeol yn swyddogol: ymddangosodd ei lyfr olaf, ar John Penry y merthyr yn ystod oes Elisabeth, yn 2014.
Roedd gan Gwynfor ddull cyfareddol yn y ddarlithfa ac yn ystod y degawdau y bu’n addysgu yn y Brifysgol bu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig fel ei gilydd yn hynod ffyddlon iddo. Dyfarnwyd D.Litt iddo ac fe’i hetholwyd hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2016. Roedd ei effaith a'i ddylanwad yng Nghaerdydd yn enfawr a bydd y cof amdano yn hir oblegid ei ysgolheictod a'i ddysg, ond hefyd oherwydd ei gynhesrwydd, ei garedigrwydd a haelioni ei ysbryd.
Yr ysgrif goffa gan Dr Lloyd Bowen a'r Athro Bill Jones.