Yr Athro Gwynedd O. Pierce
Bu farw’r Athro Gwynedd O. Pierce yn ei gartref yng Nghaerdydd ar 4 Mai 2022, ychydig ddyddiau cyn ei ben-blwydd yn 101 oed. Bu’r Athro Pierce yn bennaeth Adran Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd o 1974 hyd ei ymddeoliad yn 1987; cawsai ei benodi i’r sefydliad yn y lle cyntaf yn ddarlithydd cynorthwyol yn 1948. Roedd ganddo ystod eang o ddiddordebau ond fe’i cydnabyddir yn anad dim fel arloeswr ym maes astudiaethau enwau lleoedd.
Ganed Gwynedd Owen Pierce yng Nghaernarfon ar 12 Mai 1921. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Caernarfon ac yna yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Amharwyd ar ei astudiaethau gan yr Ail Ryfel Byd — cafodd gomisiwn i’r fyddin a chymerodd ran yn y brwydro yn Burma. Wedi graddio yn 1948 cafodd ei swydd gyntaf fel darlithydd cynorthwyol mewn Cymraeg a Hanes Cymru yng Nghaerdydd. Newidiwyd hon yn ddarlithyddiaeth lawn yn 1951 a’i dynodi’n ddarlithyddiaeth mewn Hanes Cymru yn 1953. Dyrchafwyd Gwynedd yn uwch-ddarlithydd yn 1966 a daeth yn bennaeth parhaol ar Adran Hanes Cymru, ac yn ddeiliad y gadair, yn 1975.
Ym Mangor, bu Gwynedd yn astudio dan yr Athro Ifor Williams, un o ysgolheigion mwyaf y Gymraeg. Yn 1945 cyhoeddodd Ifor Williams gyfrol fer o’r enw Enwau Lleoedd a fu’n boblogaidd iawn ymhlith darllenwyr Cymraeg ac y bu’n rhaid ei hailargraffu droeon. Er mor ddisglair oedd gwaith Williams ei hun, tynnodd y gyfrol sylw’r wlad at ddiffygion sylfaenol yn ansawdd ymchwil flaenorol ar enwau lleoedd Cymru. Ymhen fawr o dro, byddai Gwynedd Pierce yn camu i’r adwy fel ysgolhaig arloesol a allai wynebu’r her sylweddol hon gan agor ffordd i eraill ei dilyn.
Wedi iddo symud i Gaerdydd, ysbrydolwyd Gwynedd gan waith G. J. Williams (pennaeth Adran y Gymraeg) ar ddiwylliant Cymraeg Bro Morgannwg. Cwblhaodd Gwynedd MA ar enwau lleoedd cantref Dinas Powys yn 1953 ac arweiniodd hynny at gyhoeddi’r campwaith The Place-names of Dinas Powys Hundred yn 1968. Nid yn unig y bu i’r gwaith hwn osod safon newydd o ran methodoleg, ond llwyddodd hefyd i daflu goleuni ar ganrifoedd o gyd-fyw a chydymwneud rhwng siaradwyr gwahanol ieithoedd yn y Fro. Dangosodd yn fanwl sut yr oedd perthynas gymhleth y Gymraeg a’r Saesneg – heb sôn am ieithoedd eraill megis Lladin, Norseg a Ffrangeg – wedi ei phlethu i enwau lleoedd yr ardal. Wrth wneud hynny, tynnodd Gwynedd sylw cynulleidfa ryngwladol at y ffaith fod yma yng Nghymru drysorfa o enwau lleoedd mewn ystod o ieithoedd gwahanol.
Roedd Gwynedd hefyd yn deall pwysigrwydd rhannu ei ymchwil â chynulleidfaoedd ehangach. Roedd yn gyfrannwr cyson i’r golofn ‘Ditectif Geiriau’ yn y Western Mail a chyhoeddodd weithiau poblogaidd — ond heb fod yn llai trwyadl eu hysgolheictod — fel Place Names in Glamorgan (2002). Bu’n ffigwr allweddol yng Nghymdeithas Hanes Morgannwg (a sefydlwyd yn 1950) a gwasanaethodd fel cyd-olygydd ar gyfer ugain cyfrol gyntaf ei chyfnodolyn Morgannwg (1957–76). Cydnabuwyd ei arbenigedd y tu hwnt i Gymru ac etholwyd ef yn ail lywydd y Society for Name Studies in Britain and Ireland (1996–9). Pan sefydlwyd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn 2011, nid oedd ond yn naturiol i Gwynedd gael ei ddewis yn Llywydd Anrhydeddus cyntaf y gymdeithas y flwyddyn ganlynol.
Ochr yn ochr â’i waith academaidd, roedd Gwynedd hefyd yn hoff iawn o chwaraeon ac roedd y safonau a osodai ar y cae chwarae gyfuwch â’r rhai a osodai yn academaidd. Dathlodd ei ben-blwydd yn naw deg gyda chystadleuaeth arbennig yng Nghlwb Golff Radur — ac yntau wedi cyrraedd y deg a pedwar ugain fe ddaliai i chwarae oddi ar handicap o ugain.
Wedi iddo symud i Gaerdydd am y tro cyntaf, mewn cyfnod pan oedd y BBC wedi ei leoli ar Blas y Parc, dechreuodd Gwynedd gyfrannu at y gwasanaeth newyddion Cymraeg ar y radio. Yn ddiweddarach daeth ei lais yn gyfarwydd ledled Cymru fel gohebydd pêl-droed, yn enwedig ar hynt a helynt Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Gwnaeth Gwynedd lawer i siapio iaith pêl-droed yn y Gymraeg ar adeg pan oedd ei gyfaill Eic Davies yn gwneud yr un peth dros rygbi.
Roedd Gwynedd yn gefnogwr ac yn anogwr brwd i gyd-weithwyr yn ei feysydd arbenigol. Gallaf dystio ar lefel bersonol i’w garedigrwydd a hefyd ei ffraethineb direidus, ochr yn ochr â’i barodrwydd i ateb cwestiynau toponymaidd o bob math gyda’r nesaf peth i ddim rhybudd. Pan gyrhaeddodd ei gant yn 2021 (gorchest deilwng i un a fu hefyd yn gricedwr dawnus), anrhydedd o’r mwyaf oedd gallu cyflwyno casgliad o ysgrifau er anrhydedd i Gwynedd, sef Ar Drywydd Enwau Lleoedd. Dyma’r gyfrol gyntaf i’w chyhoeddi gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, cymdeithas y mae ei bodolaeth yn ddyledus i ysgolheictod, gwaith caled ac anogaeth ddiflino Gwynedd Pierce.
Mae Gwynedd yn gadael ei wraig Marjorie, dau fab, Iolo ac Emyr, a phedwar o wyrion.
Dr Dylan Foster Evans