Yr Athro David Garel Rhys CBE
Gyda thristwch mawr y clywodd y Brifysgol am farwolaeth yr Athro Emeritws Garel Rhys.
Roedd Garel yn cael ei gydnabod ar lefel ryngwladol fel un o'r prif ddadansoddwyr a sylwebwyr academaidd am y diwydiant moduron. Roedd ganddo ddealltwriaeth hollgynhwysol o'r diwydiant, ei feddwl dadansoddol, ynghyd â'i huodledd, brwdfrydedd, a synnwyr digrifwch heintus. Roedd ei waith wedi cael effaith sylweddol nid yn unig o ran ei gyfraniadau at y byd academaidd, ond hefyd mewn nifer o feysydd pwysig yr oedd y llywodraeth a sefydliadau'n gwneud penderfyniadau yn eu cylch. Roedd Garel hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd at raglenni radio a theledu i drafod hanes, trefniadau busnes ac economeg y diwydiant moduron, a'r dewis cyntaf i newyddiadurwyr i drafod eitemau newyddion am y diwydiant. Mae'r holl deyrngedau ers y newyddion trist o'i farwolaeth yn arwydd o'i yrfa nodedig a'r parch mawr yr oedd gan bobl at Garel.
Ganwyd David Garel Rhys ar 28 Chwefror 1940. Aeth i Ysgol Ramadeg Ystalyfera, cyn graddio yn 1963 o Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe, gyda gradd mewn Economeg. Aeth Garel i Brifysgol Birmingham i gwblhau ei radd Meistr, gan arbenigo mewn Economeg Trafnidiaeth a mentro am y tro cyntaf i faes economeg y diwydiant moduron gyda'i draethawd ymchwil o'r enw The Economics of the British Commercial Vehicle Industry 1945 – 1966.
Rhwng 1965 a 1970, gweithiodd Garel mewn sawl swydd academaidd ym Mhrifysgol Hull cyn dechrau ei yrfa hir a nodedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Dechreuodd fel Darlithydd ac Uwch Ddarlithydd mewn Economeg (1971-1984), ac yna Athro SMMT mewn Economeg y Diwydiant Moduron yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd (1984-1988) ac, yn fwy diweddar, Ysgol Busnes Caerdydd. Rhwng 1988 a 1999, Garel oedd Pennaeth Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd. Hon oedd yr adeg pan unodd y ddwy brifysgol yng Nghaerdydd (Coleg y Brifysgol, Caerdydd ac UWIST), a chwaraeodd Garel ran flaenllaw yn y gwaith o uno rhaglenni gradd economeg y ddwy brifysgol, ac o integreiddio economeg yn yr Ysgol Busnes – tasg a gyflawnwyd yn y modd diplomataidd a doeth a oedd yn nodweddiadol o Garel. Yn 2005, dyfarnwyd teitl Athro Emeritws mewn Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd i Garel, ac yn 2013 cafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Yn ystod ei yrfa academaidd, sefydlodd Garel yr Ysgol Busnes fel canolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil academaidd yn y diwydiant moduron, yn enwedig drwy ei gyhoeddiadau ei hun. Yn ogystal â hynny, sefydlodd y Ganolfan Ymchwil i'r Diwydiant Moduron, ac roedd yn Gyfarwyddwr arni hyd at ei farwolaeth. Roedd yn addysgwr poblogaidd ac effeithiol, ac roedd ei ddarlithoedd yn gyfuniad o'r wybodaeth, brwdfrydedd a hiwmor a oedd yn nodweddiadol o bopeth a wnaeth. Roedd galw mawr am ei ddarlithoedd y tu allan i'r byd academaidd, gan gynnwys, ymhlith eraill, darlithoedd i GKN, Ford, Daimler Benz, Volvo, ac amryw raglenni hyfforddiant ar gyfer y Gwasanaeth Sifil i raglen "Pobl Uwch" Swyddfa'r Cabinet, ynghyd â llu o fyfyrwyr chweched dosbarth.
Roedd statws Garel fel dadansoddwr a sylwebydd ynglŷn â'r diwydiant moduron wedi'i adlewyrchu yn nifer y cyrff arbenigol yr oedd yn aelod ohonynt. Mae'r rhain wedi cynnwys y Sefydliad Materion Cymreig, Pwyllgor Cynghori'r Diwydiant Peirianneg, Pwyllgor Cynghori Cymru y Cyngor Dylunio, Sefydliad y Diwydiant Moduron, ac Awdurdod Datblygu Cymru. Roedd yn Gadeirydd Fforwm Moduron Cymru, a bu'n Gynghorydd Arbennig i Bwyllgor Gwariant Tŷ'r Cyffredin yn ystod ei ymchwiliad i Chrysler UK; i Bwyllgor Dethol Seneddol ar Ddiwydiant a Masnach yn ystod ei ymchwiliadau i economeg Concorde, Rolls Royce, British Leyland a phreifateiddio Jaguar; ac i ymholiad Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi i system dosbarthu detholus y diwydiant moduron, a'i heffaith ar brisiau cynhyrchion moduron.
Yn fwy diweddar, treuliodd Garel fwy o amser yn canolbwyntio ar faterion sy'n gysylltiedig ag adfywio economaidd a chynaliadwyedd yng Nghymru. Roedd yn Gadeirydd y Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac o Ardal Fenter Sain Tathan-Maes Awyr Caerdydd, a chwaraeodd ran allweddol o ran denu Aston Martin i ardal de Cymru. At hynny, roedd yn Aelod o Fwrdd Diwydiant Cymru, Uwch Ranbarth Twristiaeth, a Chyngor Addysg Uwch Cymru.
Dros y blynyddoedd, dyfarnwyd sawl anrhydedd i Garel, gan gynnwys Medal Aur Sefydliad y Diwydiant Moduron Castrol am ei gyfraniad at y diwydiant moduron, a Chyfathrebwr y Flwyddyn yng Nghymru. Yn 1989, cafodd Garel OBE am ei wasanaethau i'r diwydiant moduron a byd addysg, a CBE yn 2007. Cafodd ei wneud yn Lifreiwr ac yn Rhyddfreiniwr Dinas Llundain yn 2000.
Bu farw Garel yn dawel yn ei gartref ar 21 Chwefror 2017, yn 76 oed. Mae'n gadael ei wraig Mavis, eu plant, Angela, Gillian a Jeremy, a'u teuluoedd.
Yr Athro Robert McNabb, Athro Emeritws Economeg a chyn Bennaeth Ysgol.