Yr Athro Christopher Hooley FRS
Roedd yr Athro Christopher Hooley yn un o ddamcaniaethwyr mwyaf nodedig y DU ac yn Bennaeth dros Ysgol Mathemateg Caerdydd.
Graddiodd yr Athro Hooley o Goleg Corpus Christi, Caergrawnt, ac aeth ymlaen i gwblhau ei PhD yno ym 1957 sef ‘Some Theorems in the Additive Theory of Numbers’ dan oruchwyliaeth yr Athro A. Ingham. Ym 1958, symudodd yr Athro Hooley i Fryste, ac arhosodd yno tan 1965 pan gafodd ei benodi’n Athro Mathemateg Bur yn Durham. Ym 1967, symudodd i Gaerdydd i fod yn Bennaeth yr Ysgol Mathemateg Bur, ac roedd yn Bennaeth Ysgol Mathemateg Caerdydd rhwng 1988 a 1995. Roedd yr Athro Hooley yn Athro Ymchwil Nodedig yng Nghaerdydd tan 2008.
Ym 1973, rhodd Prifysgol Caergrawnt Wobr Adams iddo, ac ym 1980, fe enillodd Wobr Berwick Uwch gan Gymdeithas Mathemateg Llundain. Ym 1983, cyflwynodd yr Athro Hooley anerchiad un awr yng Nghyngres Ryngwladol y Mathemategwyr yn Warsaw. Fe fuodd yn Athro Gwadd yn y Sefydliad Astudio Uwch yn Princeton ar sawl achlysur ac ym 1983, cafodd ei ethol yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Roedd yr Athro Hooley yn un o Gymrodyr Sefydlol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae tua chant o gyhoeddiadau ynghlwm wrth enw’r Athro Hooley, ac mae’r rhain wedi dylanwadu’n gryf ar ddatblygu’r theori rhif dadansoddol drwy gydol yr hanner canrif ddiwethaf. Fe wnaeth gyfraniadau pwysig at ddatblygu theori’r gogr a chafodd rhywfaint o’i waith ei arddangos yn ei fonograff dylanwadol “Applications of Sieve Methods”, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt (CUP) ym 1976. Roedd yn arloeswr cynnar o ran defnyddio theori rhif dadansoddol i ddefnyddio datrysiad mawr Deligne o dybiaethau Weil i ddatrys rhai o broblemau theori’r gogr a hafaliadau Diophantine. Fe newidiodd y gwaith hwn hynt y maes. Mae gwaith yr Athro Hooley ynghylch problemau adiol a defnyddio’r dull cylch yn unigryw ei flas ac yn ddigyffelyb ei flaengarwch. Yn benodol, ei brawf ym 1988 bod ffurfiau ciwbig anhynod mewn naw newidyn yn bodloni Egwyddor Hasse yw un o'r campau pennaf wrth ddefnyddio dulliau dadansoddol Fourier o fewn theori rhifau. Yn olaf, ond nid yn lleiaf, mae ei gyfres wyddoniadurol o bedwar papur ar bymtheg am theorem Barban-Davenport-Halberstam.