Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Brian Joseph Brinkworth CEng FREng FRAeS FIMechE FEI

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Yn ŵr bonheddig a diffuant a chanddo gymeriad tawel a diymhongar, academydd, peiriannydd, gwyddonydd, ymchwilydd, awdur, athro, rheolwr, cyfathrebwr, hanesydd awyrenneg disglair, yn ogystal â bod yn arloeswr ym maes ynni’r haul, bu farw Brian Brinkworth yn heddychlon ar 17 Mehefin 2021 ar ôl salwch byr.

Dechreuodd Brian ei yrfa ym mis Medi 1948 yn Ffatri Arfau’r Goron yn Llanisien, Caerdydd lle roedd yn hyfforddai peirianneg yn astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Arferol (ONC). Ym 1949, cafodd ei ddewis ar gyfer Ysgoloriaeth i Brifysgol Bryste, lle bu’n astudio Peirianneg Fecanyddol, ac ar ôl hynny bu’n gweithio yn y Sefydliad Awyrennau Brenhinol (RAE) yn Farnborough, gan wneud ymchwil i faterion awyrenegol ac amddiffyn y dydd. Gadawodd Farnborough ym 1960 ac aeth yn Ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, lle aeth ymlaen i fod yn Athro Astudiaethau Ynni ym 1977, yna yn Ddeon y gyfadran peirianneg, ac yn Athro Emeritws pan ymddeolodd ym 1996 .

Cyhoeddwyd ei lyfr llawn gweledigaeth “Solar Energy for Man” ym 1972 ac ef oedd Llywydd cyntaf y Sefydliad Ynni gan fod ganddo gefndir ym maes ynni adnewyddadwy (1989-90). Bu’n gweithio gyda’r cyngor ymchwil awyrenegol am lawer o flynyddoedd a pharhaodd â’i ymchwil ym maes awyrenneg, gan gofnodi hanes awyrennau yn ddiwyd tan ychydig cyn iddo farw. Bu’n ysbrydoliaeth i blant ledled y DU ym 1976 gyda'i ddarlithoedd Isaac Newton yn Sefydliad IMechE, a chafodd ei ethol yn Gymrawd yr Academi Frenhinol Peirianneg ym 1992. Enillodd ei lyfr am yr hydromodur arloesol i gynhyrchu pŵer dŵr blaen isel Fedal Aur James Watt Sefydliad y Peirianwyr Sifil ym 1999, ac ymddangosai llythyrau di-flewyn-ar-dafod ganddo yn aml mewn papurau newydd yn rhoi sylwadau ar bynciau'r dydd. Roedd yn athro prifysgol, yn ymchwilydd, ac yn arweinydd rhagorol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae gan y rhai a weithiodd yn ei Uned Ynni’r Haul yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd yn ôl yn yr 1970au a'r 80au atgofion arbennig o weledigaeth arloesol Brian, ei ddadansoddiadau trylwyr o systemau ynni’r haul, a'i barodrwydd di-ffael i rannu ei wybodaeth ac i gefnogi ei gydweithwyr a'i fyfyrwyr.

Ysbardunwyd diddordeb Brian yn ynni’r haul yn yr 1950au yn sgîl ei waith yn y Sefydliad Brenhinol Awyrennau (Royal Aircraft Establishment) ac, fel yn achos cynifer o’i fentrau, roedd amseriad ei lyfr “Solar Energy for Man” yn berffaith - ychydig cyn yr argyfwng olew cyntaf ym 1973/4 a phan roedd creu adran o'r Gymdeithas Ryngwladol er Ynni’r Haul (ISES) ar gyfer y DU yn destun trafodaeth. Bu Brian yn cefnogi’r ISES yn gryf,

cyhoeddodd bapurau yn ei chyfnodolyn, siaradodd yn ei chynadleddau, a bu’n aelod gweithgar o’r pwyllgor trefnu ar gyfer prif ddigwyddiad ISES - Cyngres y Byd yn Brighton ym 1981.

Ym 1974, dechreuodd Brian greu Uned Ynni’r Haul yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Tyfodd yr Uned i gyflogi tîm amlwladol o ryw 18 o ymchwilwyr gan arwain at deulu o arbenigwyr ynni adnewyddadwy y mae eu haelodau wedi parhau i weithio'n llwyddiannus ledled y byd ers hynny. Cydnabuwyd pwysigrwydd rhyngwladol y gwaith hwn pan enillodd Wobr Cyflawni Drwy Weithredu (Christopher Weekes) yng Nghyngres Solar y Byd ISES ym Montreal ym 1985.

Un o gryfderau Brian oedd cydnabod bod yn rhaid profi perfformiad technolegau ynni adnewyddadwy er mwyn gystadlu'n llwyddiannus mewn marchnadoedd ynni, a hynny gan ddefnyddio mesuriadau gwyddonol a pheirianegol trwyadl. Creodd labordai, cyfleusterau a llwyfannau prawf ei Uned Ynni’r Haul er mwyn diwallu'r angen hwn, a rhoddodd flaenoriaeth i waith cenedlaethol a rhyngwladol ar y cyd ym maes safonau cyfeirio graddnodiadau y gellir eu holrhain a gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw yn rhyngwladol i fesur perfformiad. Roedd yr efelychydd solar SRC, a adeiladwyd yn ei Uned ym 1976/77, ynghyd â chyfleusterau awyr agored er mwyn profi casglwyr solar, yn hwb sylweddol o ran datblygu’r maes arloesol hwn. Ar ben hynny, creodd gyfres o wasanaethau mesur i werthuso nodweddion optegol a thermol deunyddiau ac araenau, a llwyddodd i gael achrediad cenedlaethol (NAMAS) ar eu cyfer. Arweiniodd hyn yn ei dro at fusnes newydd ym maes gwasanaethau profi ynni a'r amgylchedd (EETS) yng Nghaerdydd, gan ddarparu mesuriadau i fyd diwydiant. Arweiniodd hefyd at sefydlu Gwasanaeth Profi Araenau ar gyfer Arwynebau i fyd diwydiant yn Rhydychen, ac mae'r ddau wedi bod yn llwyddiannus ers 40 mlynedd bron iawn.

Un rheswm allweddol dros lwyddiant Brian oedd ei ymrwymiad i weithio'n rhyngwladol ac i gyflogi tîm amlwladol. Manteisiodd ar y cyfleoedd a gododd pan ymunodd y DU â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC) ym 1973, gan sicrhau gwaith ar y cyd â Chanolfan Ymchwil ar y Cyd y Comisiwn Ewropeaidd yn gyflym. Ar ben hynny, darbwyllodd lywodraeth y DU i ariannu cyfranogiad ei Uned yn Rhaglen Gwresogi ac Oeri Solar yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol. Roedd y gwaith rhyngwladol hwn yn fodd i gryfhau’r arbenigedd yng Nghaerdydd a bu’n gymorth i Brian argyhoeddi Sefydliad Safonau Prydain (BSI) i sefydlu ei Bwyllgor Technegol cyntaf ar wresogi solar. Cadeiriodd y pwyllgor hwn a’i arwain i gyhoeddi rhai gweithdrefnau profi arloesol y BSI ar gyfer casglwyr solar yn ogystal â chôd ymarfer cyntaf y BSI ym maes gwresogi dŵr gan ddefnyddio ynni’r haul. Cafodd gwaith cynnar Brian gyda'r BSI ei adlewyrchu yn nes ymlaen mewn Safonau Ewropeaidd (CEN) a Rhyngwladol (ISO).

Yn sgîl proffil rhyngwladol Brian, daeth ymweliadau gan arbenigwyr ynni’r haul o bob cwr o'r byd, yn enwedig felly yr Athro Jack Duffie o UDA, Llywydd ISES a chyd-awdur y gwerslyfr nodedig “Solar engineering of thermal processes”. Tyfai nifer yr ymwelwyr â'r Uned Ynni Solar wrth i ddiddordeb y cyhoedd yn ynni’r haul gynyddu, felly cyflogwyd swyddog cyfathrebu a chyhoeddwyd cylchlythyr. Tyfodd pwysigrwydd yr ymwelwyr hefyd, gan gynnwys ymchwilwyr, swyddogion y llywodraeth a Gweinidogion, gan gyrraedd yr anterth ym 1991 pan ddaeth Ei Mawrhydi y Frenhines ar ymweliad.

Ar y cyd â’i ffocws ar ymchwil academaidd drwyadl ac addysgu o safon Prifysgol, bu Brian hefyd yn gweithio ar y cyd â byd diwydiant. Eisoes ym 1974, bu’n gweithio gyda gwneuthurwr ceginau yn Llanelli i ddatblygu system gwresogi dŵr solar a fyddai’n hyfyw yn fasnachol a’i brofi mewn tŷ solar a adeiladwyd at y diben. Defnyddiwyd y gwersi a ddysgwyd yn sgîl hyn i arwain ei weithgareddau ymchwil ac ym 1977 i adeiladu system gwresogi dŵr solar mewn neuadd breswyl i fyfyrwyr, sef Llys Tal-y-Bont yng Nghaerdydd.

Er ei fod yn parhau â’i waith addysgu, bu Brian yn gweithio’n galed gyda'i dîm ymchwil, gan gyhoeddi’n rheolaidd mewn cyfnodolion a chynadleddau yn ogystal â chyflwyno ceisiadau llwyddiannus am gyllid ar gyfer syniadau newydd ar gyfer prosiectau.

Mae ei gydweithwyr a'r sawl a fu’n gweithio gydag ef yn cofio Brian am ei nodiadau gofalus a'i syniadau arloesol, ond yn anad dim am ei ffordd anhunanol a'r anogaeth a roddai i ddatblygu eu gyrfaoedd. Nid ynni ac ymchwil oedd yr unig bethau y bu’n eu haddysgu, ond hefyd arweinyddiaeth a rheolaeth drwy roi esiampl - model rôl rhagorol i arloeswyr y dyfodol ei ddilyn!

I'w deulu, roedd Brian yn ŵr ffyddlon a thriw, yn dad cariadus ac yn daid ac yn hendaid balch.

(Dylid anfon rhoddion i Hosbis Rowans drwy Stuart Foster Funeral Services Ltd, 27 Market St, Yeovil, Gwlad yr Haf BA20 1HZ.)