Yr Athro Barry Wilkinson
Gyda thristwch mawr y clywodd staff Ysgol Busnes Caerdydd am farwolaeth yr Athro Barry Wilkinson ar 2 Chwefror 2019.
Bydd cyn gydweithwyr, myfyrwyr a chyfeillion Barry ym Mhrifysgol Caerfaddon a Chaerwysg, ac yn y gymuned academaidd, ryngwladol, ehangach hefyd yn drist i glywed y newydd.
Roedd Barry yn ysgolhaig a’i waith yn amlygu rhinweddau ymrwymiad ac ymgysylltu a dysgu, ar adeg cyn iddi fod yn ffasiynol i wneud hynny. Sbardunwyd ei waith hefyd gan ymrwymiad dosbarth gweithiol a oedd yn deillio o’i fagwraeth yn Fitzwilliam, De Swydd Efrog, lle'r oedd ei dad yn löwr.
Er ei ymarweddiad tawel, roedd yn angerddol am bynciau wrth iddynt godi ac roedd ganddo synnwyr digrifwch a hanner a chymeriad gwresog llawn dealltwriaeth. Roedd ganddo gryn dipyn o amser i gydweithwyr iau a hŷn fel ei gilydd, ac o ganlyniad roedd yn boblogaidd iawn ymhlith cyd-academyddion a chenedlaethau o fyfyrwyr yng Nghaerdydd ac yna Caerfaddon a Chaerwysg. Mae’r Athro Rick Delbridge a’r Athro Emmanuel Ogbonna yng Nghaerdydd a Pierre McDonagh yng Nghaerfaddon ymysg nifer o fyfyrwyr PhD llwyddiannus Barry.
Gan raddio gyda gradd Anrhydedd mewn Cymdeithaseg o Brifysgol Warwick ym 1978, ac yna MSc mewn Agweddau Cymdeithasol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg ym 1979, aeth Barry ymlaen i gwblhau PhD ar wib yn yr Uned Polisi Technoleg ym Mhrifysgol Aston ym 1981.
Daeth ei benodiad cyntaf fel athro yn Singapore, cyn iddo ymuno ag Adran Busnes ac Economeg UWIST yng Nghaerdydd (a ddatblygodd i fod yn Ysgol Busnes Caerdydd ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd) fel darlithydd mewn Ymddygiad Sefydliadol a Rheoli Personél ym 1986.
Cafodd ei ddyrchafu’n gyflym yn uwch ddarlithydd ym 1989 ac yn Athro Rheoli Adnoddau Dynol yng Nghaerdydd ym 1991, ac yntau ond yn 35 oed, cyn gadael Caerdydd i ymgymryd â swyddi Athrawol ym Mhrifysgol Caerfaddon ym 1996 ac yna Caerwysg yn 2006.
Roedd yn rhaid iddo ymddeol oherwydd salwch yn 2009.
Roedd diddordebau ymchwil cynnar Barry mewn effaith technoleg newydd ar waith. Cyhoeddodd The Shopfloor Politics of New Technology (Hienemann) allan o’i PhD ym 1983.
Tra bo hyn yn gyhoeddiad ei fod wedi ymuno â’r gymuned academaidd, sefydlodd enw da cadarn iddo’i hun yn gweithio gyda grŵp bywiog o ymchwilwyr ifanc a ffrindiau (Rick Delbridge, Jim Lowe, Jonathan Morris, Max Munday, Nick Oliver a Peter Turnbull) yng Nghaerdydd ar arferion gweithgynhyrchu Japaneaidd a’u trosglwyddo i gyd-destun gorllewinol.
Roedd hyn ar adeg pan roedd Japan yn dominyddu yn economaidd, a phan ystyriwyd bod ei harferion yn rhagori ar rai y gorllewin ac roedd cryn dipyn o fuddsoddiad gweithgynhyrchu Japan yn y DU, a Chymru yn benodol. Arweiniodd hyn at y gwaith hynod o ddylanwadol (gyda’i gyfaill a’i gydweithiwr, Nick Oliver) The Japanisation of British Industry (Blackwell, 1988, gydag ail argraffiad ym 1992), i Working for the Japanese (Athlone, 1993, gyda Max Munday a Jonathan Morris) ac i amrywiaeth o erthyglau o’r radd flaenaf mewn cyfnodolion gyda chydweithwyr yng Nghaerdydd.
Sefydlodd a chyfarwyddodd yr Uned Ymchwil ar Reolaeth Japaneaidd. Yn ddiweddarach, fe ehangodd ei waith ar waith, rheoli a threfniadaeth yn Nwyrain Asia, gan arwain at ei lyfr ym 1994 Labour and Industry in Pacific Asia (Walter de Gruyter), a hefyd yn cyhoeddi amrywiaeth sylweddol o erthyglau ar y themâu hyn drwy gydol y 1990au a’r 2000au. Datblygodd ddiddordeb mewn diwylliant corfforaethol (mewn manwerthu) hefyd gyda Emmanuel Ogbonna tra yng Nghaerdydd, a chyhoeddi’n helaeth ohono.
Gall llawer o gydweithwyr olrhain eu llwyddiannau yn ôl i drafodaethau gyda Barry gan ei fod yn fentor caredig a doeth.
Bydd yn cael ei golli’n fawr gan ffrindiau a chydweithwyr fel ei gilydd, na fydd fyth yn ei anghofio. Mae’n gadael tri o blant, Lily, Jake a Renny.
Yr Athro Jonathan Morris