Michael Durrant
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ganwyd Michael Durrant ar 1 Ionawr 1934 yn Swydd Northampton, lle cafodd ei addysg uwchradd yng Ngholeg Eaglehurst. O 1952 hyd at 1954 bu’n ymgymryd â Gwasanaeth Milwrol yng Nghorff Addysg y Fyddin, wedi'i leoli yn Efrog. Yna aeth i Brifysgol Leeds, a dyfarnwyd BA iddo mewn athroniaeth a hanes yn 1958. Cafodd ei BPhil o Goleg St. Catherine’s, Rhydychen yn 1962. Heblaw am fod yn athro gwadd ym Mhrifysgol Nebraska yn 1965-6, treuliodd ei holl yrfa academaidd yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (Prifysgol Caerdydd erbyn hyn), lle cafodd ei benodi yn Ddarlithydd Cynorthwyol mewn athroniaeth yn 1962 ac yn Ddarlithydd yn 1963.
Roedd yn arfer adrodd yr hanes am ei gydweithwyr Wittgensteinian yn Lincoln, Nebraska, a oedd wedi'u cynhyrfu i'r fath raddau gan ei feirniadaeth o'u safbwyntiau fel eu bod wedi gwahodd yr athronydd blaenllaw yr Athro O. K. Bouwsma i atgyfnerthu eu dadleuon i herio ei feirniadaeth.
Ar ôl dychwelyd i Gaerdydd, cafodd ei ddyrchafu i fod yn uwch-ddarlithydd yn 1972, ac yn ddarllenydd mewn Athroniaeth yn 1978. Bu'n Bennaeth yr Adran Athroniaeth o fis Mai tan fis Medi 1987, ac yna'n Bennaeth ar yr Adran Athroniaeth yn yr Ysgol Astudiaethau Saesneg, Newyddiaduraeth ac Athroniaeth (ENCAP erbyn hyn) tan 1991. Ar ôl ymddeol o waith amser llawn ym mis Medi 1999, cafodd ei benodi yn uwch-gymrawd ymchwil anrhydeddus. Bu'n gwasanaethu ar gyngor Sefydliad Brenhinol Athroniaeth tan 2003. Yn bwysicach na hynny, roedd yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Cymdeithas Athroniaeth Crefydd Prydain pan gafodd ei sefydlu, ac yn aelod sefydlol a Llywydd cyntaf y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Athroniaeth Crefydd, sydd ill dau yn fforymau ar gyfer academyddion blaenllaw mewn athroniaeth a diwinyddiaeth.
Roedd addysgu a diddordebau ymchwil Michael yn cynnwys rhesymeg athronyddol, athroniaeth yr henfyd ac athroniaeth crefydd. Cyhoeddodd nifer o erthyglau mewn cyfnodolion blaenllaw ar resymeg athronyddol, gan gynnwys dwy erthygl yn Mind, ac ar ôl ymddeol, cyhoeddodd ei lyfr Sortals and the Subject-Predicate Distinction (2001), a gafodd ei olygu gan Stephen Horton. Ym maes athroniaeth yr henfyd, bu'n golygu casgliad o dan y teitl Aristotle's De Anima In Focus (1993). Roedd Theology and Intelligibility a The Logical Status of ‘God’, dau lyfr a gyhoeddwyd yn 1973, ymhlith ei brif gyfraniadau mewn print ym maes athroniaeth crefydd. Cyhoeddodd nifer o erthyglau hefyd yng nghyfnodolion blaenllaw y maes. Roedd ei rôl yn sefydlu dwy gymdeithas ddysgedig, Cymdeithas Athroniaeth Crefydd Prydain a Chymdeithas Athroniaeth Crefydd Ewrop, yr un mor arwyddocaol, ac roedd yn aelod sefydlol ac yn Llywydd cyntaf ar y ddwy gymdeithas. Mae'r Gymdeithas olaf y soniwyd amdani wedi datgan ei ddiolch i Michael am sefydlu rhwydwaith o athronwyr crefydd ar draws Ewrop, ac yn coffáu ei gyfraniad yn eu cyfarfod yn Prague mis Awst 2018.
Nid oedd ei addysgu yn hawdd i'w ddilyn o hyd, ond ynghŷd â'i ymroddiad i athroniaeth, llwyddodd i ysbrydoli nifer o'n myfyrwyr mwy dawnus i gyflawni ar lefel uchel. Daeth ei her (a'i lwyddiant) fwyaf pan oedd bodolaeth Athroniaeth yng Nghaerdydd yn y fantol yn 1987; fe ddaeth i'r amlwg yn ystod yr argyfwng ac yn ei rôl fel Pennaeth Athroniaeth, fe arweiniodd gweddill y staff prin yn gadarn i ddyfodol mwy diogel a sefydlog o fewn yr Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Roedd hefyd yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ac yn organydd medrus yn eglwys St. Denys, Llys-faen, a gellir dod o hyd i'w fedd yn y fynwent yno.
Cafodd ef a'i wraig Rosemary briodas hir a hapus. Mae e'n gadael Rosemary, a'i meibion Nicolas, Martin a Stephen.
Dr Kathryn Plant, School of English, Communication and Philosophy
Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth