Mary Pearce
Tristwch i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yw cyhoeddi y bu farw Mrs Mary Pearce, cyn-aelod o staff. Gweithiodd Mary yn nerbynfa prif gyntedd adeilad yr Ysgol am 17 mlynedd, ochr yn ochr â rhywun bythgofiadwy arall, Dave Dawkins. Roedd cenedlaethau o fyfyrwyr Caerdydd yn nabod Mary. Roedd Mary'n llawn llawenydd a chwrteisi, waeth beth oedd yn ei wynebu, ac roedd yn gydweithiwr bywiog a phoblogaidd. Byddai'n llonni diwrnodau myfyrwyr a staff wrth iddynt ddod i mewn i'r adeilad. Mary oedd yn gweithio 'shifft y bore' yn y dderbynfa, a hi oedd yr wyneb cyntaf y byddai ymwelwyr i'r Ysgol yn ei weld a'r llais cyntaf y byddai pobl yn ei glywed dros y ffôn. Ymunodd Mary â'r Ysgol ym mis Awst 2000 cyn ymddeol ym mis Awst 2017. Gwnaeth ffrindiau am oes yn yr Ysgol ac roedd Mary'n aml yn mynychu seremonïau graddio yn dathlu gyda myfyrwyr a'u rhieni. Maes o law, bydd yr Ysgol yn nodi cyfraniad Mary ati mewn ffordd briodol. Ar ei hôl mae ei dwy ferch, sawl ŵyr ac wyres a llawer iawn o ffrindiau yn yr Ysgol a thu hwnt.