John Lake Moore
Cafodd John Lake Moore ei eni ym Markham, pentref bach i ogledd-ddwyrain Bargoed ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (Prifysgol Caerdydd bellach) a graddiodd mewn Microbioleg ym 1959. Mr. E.C. Hill oedd ei oruchwylydd ar gyfer ei astudiaethau ôl-raddedig, lle astudiodd effeithiau ymbelydredd gama ar E. coli. Defnyddiodd ffynhonnell Cobalt 60 Curie 1000 a oedd wedi’i gosod yn seler y Prif Adeilad ym Mharc Cathays gan yr Awdurdod Ynni Atomig, ac fe dreuliodd gyfnodau’n astudio yn Labordy Ffiseg Harwell yn Sir Rydychen. Treuliodd flynyddoedd ei waith ymchwil ôl-ddoethurol fel Swyddog Gwyddonol gyda Dr Tikvah Alper yn Uned Ymchwil Radiopatholeg y Cyngor Ymchwil Feddygol yn ysbyty Hammersmith yn Llundain, lle astudiodd effeithiau pelydrau-X a niwtronau cyflym ar anwytho beta-galactosidas yn E. coli a radiosensitifrwydd mewn crynodiadau isel o ocsigen.
Ym 1966, dychwelodd John i Gaerdydd er mwyn arwain Labordy Ymchwil Tenovus newydd ei agor yn ysbyty Felindre yn yr Eglwys Newydd. Parhaodd i ymchwilio i radiosensitifrwydd mewn ystod amrywiol o systemau, ac aeth ymlaen i ymchwilio i radiotherapi, imiwnoleg ganser a ffarmacoleg feddygol. Gweithiodd yn ddiflino gyda’i dîm ymchwil i ddenu cyllid sylweddol (gan gynnwys grantiau gan Sefydliad Canser Cenedlaethol America) i hybu dealltwriaeth o sut mae tiwmorau’n ymateb i ymbelydredd, a chwaraeodd ran hanfodol wrth ddatblygu labordai ymchwil newydd uchel eu bri a agorwyd yn 2001. Gwnaeth y rhain helpu i wneud Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn Ganolfan Ragoriaeth. Gweithiodd i ddatblygu Elusen Ymchwil Canser De Cymru ymhellach (sydd bellach o’r enw Ymchwil Canser Cymru) ac am lawer o flynyddoedd, roedd e’n ymddiriedolwr, yn Gadeirydd ac yn Llywydd iddi.
Cafodd John ei benodi’n ddarlithydd Anrhydeddus yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd bellach) yn y 1970au, a gweithiodd yn llwyddiannus gyda Terry Coakley tan ei ymddeoliad i oruchwylio llawer o brosiectau Anrhydedd a PhD. Helen Middleton oedd eu myfyriwr PhD cyntaf ar Ysgoloriaeth Tenovus (née Bass: dosbarth Anrhydedd 1975.Ym 1976, helpodd John i ailennyn cangen de Cymru o’r Sefydliad Bioleg (sef Cymdeithas Frenhinol Bioleg bellach).
Fe oedd y Cadeirydd cyntaf am ddwy flynedd a gwasanaethodd ar y pwyllgor am lawer o flynyddoedd.
Ym 1991, cafodd John ei benodi’n Athro er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru, ac ym 1993 cafodd ei wneud yn Gymrawd Anrhydeddus gan Sefydliad Prifysgol Cymru Caerdydd (sef Prifysgol Metropolitan Caerdydd bellach).
Roedd John yn llawn ynni ac ysbrydoliaeth, ac roedd iddo natur gymdeithasgar, garedig a haelfrydig. Roedd yn ddyn balch o’i deulu ac yn hoff iawn o chwarae golff, coginio a garddio. Roedd yn weithiwr pwyllgor effeithiol ac yn godwr arian ardderchog, a bu’n parhau â’r gwaith hwn ar ôl iddo ymddeol. Yn anffodus, cafodd John ddiagnosis o ganser lai na blwyddyn cyn ei farwolaeth a achoswyd gan niwmonia. Ar ei ôl mae’n gadael ei wraig, Carol, ei feibion Gavin a Robin, a’i wyrion Joshua, Rebecca, Harriet, Mabon a Myfanwy. Bydd llawer yn gweld ei eisiau.
Yr Athro Rose Cooper, o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn flaenorol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dr Helen Middleton, o Wasanaeth Gwaed Cymru’n flaenorol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Yr Athro David Lloyd, Athro Anrhydeddus, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd
Carol Moore