Ewch i’r prif gynnwys

Janet Richards

Ym 1992, ymunodd Jan â'r Ysgol Busnes yn ysgrifennydd i’r Ganolfan Astudiaethau Siapaneaidd newydd. Dyma oedd dechrau cyfraniad gwych Jan i Brifysgol Caerdydd.

Gweinyddwr a threfnydd hynod gymwys oedd Jan, ac roedd ganddi ddawn naturiol o ran helpu a chefnogi myfyrwyr.

Ar hyd a lled y byd mae unigolion ifanc sy’n cofio Jan gyda chymaint o hoffter a pharch, ac mae nifer fawr ohonynt wedi mynegi eu diolch ar goedd i Jan am eu helpu drwy eu cwrs pedair blynedd, a oedd yn cynnwys treulio semester neu flwyddyn yn Siapan.

Ym mis Medi 1992, teithiodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i Siapan am flwyddyn – nid oedd y rhyngrwyd yn bodoli bryd hynny. Cafodd pob dim ei drefnu drwy anfon ffacsiau a llythyrau.  Sefydlodd Jan systemau drwy ddilyn protocolau llym ar gyfer ffurflenni cais a cheisiadau am fisâu, heb golli’r dyddiad cau erioed, ac am bron i ugain mlynedd, bu’n delio â’r holl faterion gweinyddol, yn ogystal â’r gofal a’r sylw y mae angen eu rhoi i fyfyrwyr cyn iddynt fynd dramor i astudio a thra byddant yn gwneud hynny.

Roedd Jan yn ysgrifennydd wedi’i hyfforddi; byddai yn y swyddfa’n gynnar bob bore wrth y bysellfwrdd yn teipio’n ddiwyd, yn aml yn trawsgrifio’r nodiadau a gymerwyd ganddi gan ddefnyddio llaw-fer. Gweithiodd Jan nid yn unig i bedwar academydd a thri chynorthwyydd iaith yn y Ganolfan Astudiaethau Siapaneaidd, ond hefyd i bedwar neu bum academydd arall yn yr Ysgol Busnes. Sut lwyddodd i wneud hyn?

Byddai Jan yn dod i mewn i'r swyddfa’n rheolaidd ar nos Sul – roedd hyn yn y dyddiau cyn e-byst a gweithio o bell. Byddai’n gweithio’n dawel am ambell awr er mwyn paratoi at yr wythnos o’i blaen.

Roedd ei hymrwymiad i’w gwaith a’i chyd-weithwyr ymhell uwchlaw’r disgwyl.

Roedd Jan yn gymeriad ac yn gymaint o hwyl! Roedd ganddi nifer o jôcs bach cwta a fyddai’n gwneud i ni chwerthin dros bob man. Nid oedd pawb yn deall ei synnwyr digrifwch; ar ôl dod i’w ddeall yn raddol, roedd y myfyrwyr yn ei fwynhau.

Pe bai angen unrhyw gyngor arnoch ar unrhyw beth, byddai Jan yn gwybod beth i'w wneud.  Mae nifer fawr ohonom yn ddiolchgar am hyn. Roedd gan Jan agwedd gall; roedd hi'n gwybod pethau.

Rwyf wedi cael sawl neges o gydymdeimlad gan gydweithwyr yn Siapan. Mae hyn yn amlygu’n llwyr y parch at Jan a’r meddwl uchel ohoni, nid yn unig ymhlith llawer ohonom ni yn yr Ysgol Busnes, ond hefyd mewn gwledydd eraill ac ar draws cenedlaethau.

Bydd teulu agos Jan a nifer o’i ffrindiau’n gweld ei heisiau’n fawr.

I gloi, hoffwn ddweud ambell air fy hun wrth ffarwelio: Anrhydedd a braint oedd cael gweithio gyda menyw mor hyfryd drwy gydol fy ngyrfa.

Rose Smith

Ysgol Busnes Caerdydd