James Young
Tristwch i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yw cyhoeddi y bu farw Mr James Young, cyn-aelod o'r Staff. Roedd cenedlaethau o fyfyrwyr Caerdydd yn adnabod James a fu'n diwtor personol poblogaidd. Ymunodd James ag Adran y Gyfraith yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) fel yr oedd ar y pryd yn 1973, ar ôl cwblhau BA mewn Cyfreitheg yng Ngholeg Penfro, Rhydychen. Pan ymunodd â Chaerdydd roedd wrthi'n cwblhau ei BCL. Addysgwyd James yn Ysgol Coleg Magdalen, Brackley, oedd yn ysgol ramadeg i fechgyn ar y pryd.
Wrth ymuno ag UWIST yn nyddiau cynnar sefydlu Adran y Gyfraith yno (roedd Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd wedi sefydlu Adran y Gyfraith yn 1970), roedd modd i James ddod i adnabod pob myfyriwr unigol roedd yn ei addysgu. Roedd yn gyfnod yr oedd yn mwynhau edrych yn ôl arno yn ddiweddarach yn ei yrfa. Yn UWIST, gwnaeth James nifer o gyfeillion oes. Gyda dwy Adran y Gyfraith mewn un adeilad, roedd cydweithio'n anochel a James oedd yr aelod cyntaf o staff UWIST i ymuno a bwrdd golygyddol y Journal of Law and Society, a sefydlwyd gan gydweithwyr yn CPCC. Yn fuan wedi hynny unodd y ddau sefydliad ac ymddangosodd Ysgol y Gyfraith Caerdydd (Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth erbyn hyn). Roedd James yn aelod gweithredol o'r Ysgol tan iddo ymddeol rai blynyddoedd yn ôl, ond roedd yn dal i'w weld yn achlysurol yn y coridorau tan yn ddiweddar.
Cyhoeddodd James yn eang gan gynnwys mewn cyfnodolion blaenllaw fel Modern Law Review, British Yearbook of International Law, Legal Studies, Journal of Law and Society a Public Law. Am flynyddoedd lawer, James oedd yn gyfrifol am raglen symudedd Erasmus gyda Phrifysgol Charles yn Prague, ac yn ddiweddarach Prifysgol Warsaw yng Ngwlad Pwyl. Ym Mhrifysgol Charles, sefydlodd James fodiwl poblogaidd iawn, Cyflwyniad i System Gyfreithiol Cymru a Lloegr, a addysgwyd gan nifer o gydweithwyr o Gaerdydd yn ystod y 1990au. Hefyd cyd-drefnodd gynadleddau oedd yn dod ag ysgolheigion at ei gilydd o Brifysgol Charles a Phrifysgol Caerdydd yn y 1990au a'r 2000au. Bu’n cydweithio gydag academyddion ac arbenigwyr cyfreithiol yn y Weriniaeth Tsiec a chyd-olygodd nifer o lyfrau a gafodd ddylanwad academaidd, fel The Rule of Law in Central Europe (gyda Jiří Přibáň, a gyhoeddwyd gan Ashgate yn 1999) a Systems of Justice in Transition (gyda Jiří Přibáň a Pauline Roberts, a gyhoeddwyd gan Ashgate yn 2003). Daeth The Journal of Law and Society yn ganolog i fentrau academaidd James gan ganiatáu iddo ddarllen yn helaeth yn y maes.Roedd James yn ddilynwr criced craff ac angerddol, gan ddilyn gemau siroedd Lloegr yn ogystal â gemau prawf. Roedd yn ŵr hynaws a charedig, a mawr fydd y golled i lawer ar ei ôl.
Yr Athro Urfan Khaliq
Pennaeth y Ysgol
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Caerdydd