Helen Ceridwen Saunders
Graddiodd Helen o Goleg St Hilda, Prifysgol Rhydychen. Dechreuodd ei gyrfa llyfrgell broffesiynol mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ac ymchwil ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ymunodd Helen â Phrifysgol Caerdydd ym 1995 ac roedd yn allweddol wrth sefydlu Llyfrgell Salisbury yng Ngwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Caerdydd. Hi oedd y grym y tu ôl i ddatblygiad ein casgliadau Cymreig a Cheltaidd a chydnabuwyd ei harbenigedd a'i brwdfrydedd ledled Prifysgol Caerdydd a thu hwnt. Roedd ei hymroddiad proffesiynol yn amlwg trwy ei diwydrwydd wrth greu, cynnal a chatalogio casgliad o fri o'r radd flaenaf. Roedd gan Helen angerdd hefyd dros gefnogi’r genhedlaeth nesaf o lyfrgellwyr a threuliodd lawer o’i hamser yn hyfforddi interniaid Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth o bob rhan o’r DU a’r Almaen.
Y tu allan i'r gwaith, darllenodd Helen yn eang ac roedd wrth ei bodd yn ymchwilio, ysgrifennu a blogio ar ystod eang o bynciau hanesyddol ac ieithyddol, yn enwedig unrhyw beth yn ymwneud â Chymru neu Gernyw, a hanes teulu. Roedd hi hefyd yn gefnogwr brwd i Action Aid ac yn hyrwyddwr ymroddedig dros wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus, gan ymuno a rhoi cyhoeddusrwydd i ymgyrchoedd pan oedd llyfrgelloedd cymunedol dan fygythiad.
Roedd Helen yn gydweithiwr a ffrind cefnogol a byddwn yn gweld eisiau ei disgleirdeb, ei hiwmor a’i haelioni yn y gweithle.
Alan Vaughan Hughes