Gwyn Haydn Rhys
Ganed Gwyn Haydn Rhys yn Nhrehopcyn ym 1932 a chael ei fagu yn Ystum Taf. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Caerdydd ac ym 1950 cofrestrodd yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy i astudio ieithoedd. Yn ystod wythnos gyntaf y tymor cyfarfu â'i ddarpar wraig Kathleen. Wedi iddo raddio ym 1953, cychwynnodd ar ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol gyda'r Awyrlu Brenhinol. Gan fod ganddo ddawn at ieithoedd, ymgymerodd â chwrs carlam Rwsieg, gan hyfforddi’n weithredwr radio a radar cyn cael ei anfon i ddinas Berlin lle y bu’n monitro, yn recordio ac yn trawsgrifio trosglwyddiadau milwrol Rwsiaidd.
Priododd Gwyn a Kathleen ym 1955 a bu iddynt ddwy ferch, Ceridwen ym 1956 a Siân ym 1962. Ym 1967 dechreuodd Gwyn weithio yng Nghofrestrfa Coleg Prifysgol Caerdydd yn gynorthwyydd gweinyddol. Cododd trwy'r rhengoedd i fod yn Ddirprwy Gofrestrydd cyn ymddeol yn gynnar ym 1987. Bu Kathleen hefyd yn gweithio yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd yn rhan-amser, yn gyntaf yn y Swyddfa Gyllid ac yn nes ymlaen yn y Llyfrgell. Graddiodd Siân o’r Coleg a bu Ceridwen yn gweithio yn y Llyfrgell am fwy na 40 mlynedd. Roedd y Brifysgol yn rhan annatod o fywyd teuluol, ac mae’n parhau i fod felly.
Wedi iddo ymddeol, bu Gwyn a Kathleen yn mwynhau blynyddoedd dedwydd lawer yn dilyn eu hobïau gan gynnwys ffotograffiaeth, canu mewn côr ac yn bwysicaf oll, ymchwil ar hanes y teulu. Dysgasant y grefft gyda’i gilydd ac yn raddol daethant yn achwyr arbenigol, gan ennill parch ac edmygedd mawr oherwydd eu harbenigedd yn y maes hwn. Aethant yn eu blaenau i helpu pobl yn lleol a ledled y byd i ddod o hyd i’w hachau, gan greu felly lawer o ffrindiau. I gydnabod ei gyfraniad penodwyd Gwyn yn Llywydd Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg.
Symudodd Gwyn a Kathleen i Radur ym 1977 gan aros yn eu cartref annwyl tan 2024 pan symudodd y ddau i gartref gofal preswyl. Bu farw yno yn dawel ar 11 Tachwedd. Mae’n gadael ei wraig, ei ferched a'i ŵyr.
Siân Rhys a Ceridwen Thomas, Tachwedd 2024