Dr Reg Hinkley
Gyda thristwch mawr y mae’r Brifysgol yn cyhoeddi marwolaeth Dr Reg Hinkley, a fu farw’n sydyn ac yn annisgwyl yn ystod yr haf.
Cafodd Dr Hinkley ei benodi’n ddiweddar yn Aelod o’r Cyngor ac yn un o Ymddiriedolwyr y Brifysgol ar gyfer 2019/20. Roedd Ysgrifennydd y Brifysgol, Cadeirydd y Cyngor a chydweithwyr eraill yn edrych ymlaen at weithio gyda Dr Hinkley yn ystod ei dair blynedd o wasanaeth.
Hoffwn anfon ein cydymdeimladau diffuant ar ran y Brifysgol i’w deulu a’i ffrindiau yn ystod yr amser trist hwn.