Ewch i’r prif gynnwys

Dr Rachel Coombe

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Yn anffodus, bu farw Dr Rachel Coombe yn sydyn ar 7 Ionawr. Rachel oedd Cynghorydd Diogelwch Biolegol a Gwyddonol y Brifysgol, ac roedd wedi astudio a gweithio yn y Brifysgol ers mwy na 30 mlynedd a bu’n Swyddog i’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles ac yn Ysgrifennydd i’r Pwyllgor Addasu Genetig ac Asiantau Biolegol.

Y tu allan i'r Brifysgol, ac yn unol â'i chariad at fioleg, roedd Rachel yn aelod gweithgar o grwpiau bioddiogelwch rhanbarthol, gan rannu ei gwybodaeth helaeth ar y pwnc ac roedd yn Aelod o'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol.

Angerdd arall oedd ganddi oedd Ambiwlans Sant Ioan, lle bu’n Ysgrifennydd Is-adran Caerdydd Ganolog, a oedd hefyd yn golygu ei bod yn gallu mynd i holl gemau cartref Clwb Rygbi Gleision Caerdydd.

Cyffyrddodd Rachel â bywydau llawer o bobl a bydd ei holl gydweithwyr a ffrindiau yn teimlo colled fawr ar ei hôl.