Ewch i’r prif gynnwys

Dr Kerry Moore

Bu farw cydweithiwr a ffrind annwyl o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Dr Kerry Moore, ddydd Gwener 5 Ebrill 2024 ar ôl brwydr hir yn erbyn lewcemia.

‘Kezza’ oedd hi i nifer ohonon ni, ac roedd hi’n meddwl y byd i’w theulu, ei ffrindiau a'i chydweithwyr.

Ganwyd Kerry yn Carshalton ym 1978 a chafodd ei magu yn Sutton. Astudiodd ym mhrifysgolion Cymru (BA), Sunderland (MA) a Chaerdydd (PhD), gan ennill ei PhD yn 2010, gydag astudiaeth oedd yn canolbwyntio ar ffyrdd o herio hiliaeth o'r chwith. Roedd y pwnc yn diffinio ei diddordebau ysgolheigaidd a'i hymrwymiadau personol. Ymunodd Kerry ag Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd yn 2006, ac aeth ymlaen i addysgu modiwlau ar Bŵer y Cyfryngau a Chymdeithas, y Cyfryngau, Hiliaeth a Gwrthdaro, ac Ymchwil i'r Cyfryngau, gyda ffocws parhaus ar ymladd hiliaeth a senoffobia, yn ogystal â chyfiawnder cymdeithasol.

Roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddisgwrs gwleidyddol a’r cyfryngau ynghylch mudo, hiliaeth ac anghyfiawnder cymdeithasol. Cyhoeddodd yn helaeth yn y meysydd hyn, gan gynnwys llyfr wedi’i gyd-olygu, Migrations and the Media gyda Bernhard Gross a Terry Threadgold (2012) a rhifyn arbennig o JOMEC Journal, 'The Meaning of Migration' (2015).

Cyhoeddodd Kerry waith ar y sylw a gafwyd yn y wasg Ewropeaidd o'r argyfwng mudo yn y Môr y Canoldir, gwleidyddiaeth mewnfudo, poblyddiaeth a Brexit, hawliau dynol mewn newyddion sy’n ymwneud â ffoaduriaid, a dehongliadau o hiliaeth yn newyddion trosedd y DU. Arweiniodd brosiect cydweithredol gyda newyddiadurwyr a gweithwyr cyfathrebu yn y trydydd sector yng Nghymru, yn edrych ar naratifau’r cyfryngau newyddion cyfoes ar dlodi yn Gymraeg a Saesneg.

Roedd Kerry yn sefydlydd ac yn gyd-olygydd JOMEC Journal, a gwasanaethodd ar fwrdd golygyddol y cyfnodolyn Journalism and Discourse Studies. Am gyfnod hir, roedd hefyd yn Gadeirydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.

Ei monograff, Adrodd ar dlodi: naratif y cyfryngau newyddion a chyfathrebiadau'r trydydd sector yng Nghymru (2020)oedd y llyfr dwyieithog cyntaf i gael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caerdydd, gan ymddangos hefyd fel Reporting on poverty: news media narratives and third sector communications in Wales (2020)

Roedd Kerry’n dysgu, ymchwilio, goruchwylio a chydweithio ar brosiectau oedd yn edrych ar hiliaeth a disgwrs argyfwng hiliol, lloches a mudo, cynrychioliadau o wahaniaeth crefyddol a diwylliannol, tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol, a theori a dadansoddi disgwrs.

Roedd pawb o’i chwmpas yn meddwl y byd o Kerry. Roedd hi'n gydweithiwr rhagorol ac yn ffrind annwyl. Roedd hi wrth ei bodd â phêl-droed, ac yn chwarae i Glwb Pêl-droed Cyncoed Ladies. Mae hi'n gadael gŵr, Neil, a mab, Sascha, yn ogystal â chorff teilwng iawn o waith ysgolheigaidd, a nifer o gydweithwyr a chyn-fyfyrwyr y mae eu bywydau’n gyfoethocach o’i herwydd. Byddwn yn ei gweld eisiau hi’n fawr.

Yr Athro Paul Bowman, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant