Ewch i’r prif gynnwys

David English

Cafodd David English, sydd wedi marw yn 74 oed ar ôl cyfnod hir o salwch, yrfa unigryw mewn addysg newyddiaduraeth prifysgol. Erbyn 2015, pan ymddeolodd fel Cyfarwyddwr Papurau Newydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, roedd wedi helpu mwy na 1,000 o fyfyrwyr, dros 35 mlynedd, i ddod yn newyddiadurwyr.  Helpodd i wireddu breuddwydion Tom Hopkinson, sylfaenydd ysgol newyddiaduraeth Caerdydd, a’i wneud y lle gorau yn y wlad i ddysgu i fod yn newyddiadurwr. Roedd ei fyfyrwyr yn cynnwys newyddiadurwyr papur newydd gwych fel Ian Macgregor o'r Sunday Telegraph, Kevin Maguire o'r Daily Mirror yn ogystal â darlledwyr blaenllaw fel Richard Sambrook o’r BBC (a aeth ymlaen wedyn i weithio gydag ef yn JOMEC), a Libby Wiener o ITV.

Roedd David yn newyddiadurwr gwych, gyda thrwyn am stori dda a synnwyr digrifwch drygionus. Graddiodd o Brifysgol Rhydychen, a gweithiodd i ddechrau ar bapurau newydd rhanbarthol Thomson, fel y Belfast Telegraph a’r Journal yn Newcastle, ond daeth o hyd i’w alwedigaeth yn y maes hyfforddiant ac addysg newyddiaduraeth, gan weithio i ddechrau i Ganolfan Hyfforddiant Golygyddol Thomson yng Nghaerdydd ac yna i Ganolfan Newyddiaduraeth y brifysgol.

Cyfrinach ei lwyddiant yw ei fod, yn fwy na dim, eisiau i’w fyfyrwyr gyrraedd y pwynt anhygoel hwnnw lle, fel yr arferai ddweud, ‘rydych chi’n meddwl fel newyddiadurwyr nawr’. A hefyd yn ysgrifennu fel newyddiadurwyr – roedd ei inc coch i’w weld ym mhobman! Gwae unrhyw un a gyflwynai gopi â ‘that’ ynddo – waeth beth oedd rheolau gramadeg unrhyw un, roedd angen defnyddio ‘which’ neu ddim byd. Roedd wrth ei fodd yn gwylio Gleision Caerdydd, yn casáu straeon am gathod, ac yn mwynhau sôn byth a hefyd am sgwpiau ei fyfyrwyr, fel yr un a ddatgelodd yr ardal golau coch oddi ar Heol Penarth (a gafodd ei goddef gan yr heddlu ar gyfer Uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym 1998 a thwrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn ganlynol).

Mae ymateb llawer o'r mil o fyfyrwyr a’u cynorthwyodd i'r newyddion am ei farwolaeth yn dyst i faint yr oedd yn cael ei werthfawrogi. Dywedodd Laura Trevelyan, ‘Mawr yw fy niolch iddo’; dywedodd Chris Whatham, ‘Pob bendith arno, a’r pen coch ’na’;

roedd Kevin Maguire yn cofio gwneud i David chwerthin wrth dynnu ei goes drwy ddweud bod rhai’n ystyried addysgu cymaint o newyddiadurwyr yn drosedd; dywedodd Paul Waugh, 'Carais bob munud o'm hamser yn CJS'.

Roedd yn llawn ffocws ac egni yn yr ystafell newyddion ar ddyddiau cynhyrchu ond yn llawer o hwyl y tu allan i’w drysau. Yn gefnogwr brwd o rygbi Cymru, sicrhaodd gefnogaeth ei gwrs ar gyfer penwythnos olaf cyffrous y Chwe Gwlad yn 2015, y gallai Cymru fod wedi'i ennill pe bai'rSaeson wedi methu yn erbyn y Ffrancwyr a'r Gwyddelod wedi baglu yn erbyn yr Alban. Roedd pawb dan orchymyn i gefnogi Les Bleus - rhoddodd David ei het 'lwcus' i un o'r myfyrwyr hyd yn oed - cam ofer yn anffodus. Curwyd y Ffrancwyr yn hawdd a rhoddodd Iwerddon grasfa i’r Alban - daeth Cymru’n drydydd. Ond derbyniodd David y siom gyda gwên.

Cyfunodd ei rôl fel cyfarwyddwr yr opsiwn papur newydd gyda’r dasg reolaethol heriol (weithiau) - ond hanfodol - o fod yn ddirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth. Roedd yn bont wych rhwng yr academi a'r proffesiwn - gan helpu i sicrhau bod ei gwrs yn bodloni gofynion academaidd un o brifysgolion Grŵp Russell a'r profion ymarferol a fynnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr. Roedd yn uchel ei barch mewn ystafelloedd newyddion ar hyd a lled y wlad - a oedd yn hanfodol wrth helpu ei fyfyrwyr i feithrin y cysylltiadau cywir yn y gweithle a chael swyddi yn y pen draw.

Yn 2020, anrhydeddwyd David gyda'r wobr cyflawniad oes yn nigwyddiad cyntaf Gwobr Nick Machin yng Nghaerdydd – gwobr er cof am olygydd newyddion gwych y South Wales Echo a wnaeth fentora llawer o fyfyrwyr David. Yn anffodus, roedd David yn rhy sâl i'w derbyn wyneb yn wyneb, ond anfonodd araith a grynhodd ei athroniaeth:

"Er bod ystafelloedd newyddion wedi newid, mae'r sgiliau craidd yr un fath, boed yn newyddiaduraeth papur newydd, newyddiaduraeth cylchgronau, darlledu neu ar-lein. Mae newyddiaduraeth yn grefft, yn debyg i grefft seiri meini canoloesol yn cerfio cerfluniau ar eglwysi cadeiriol, seiri coed yn siapio misericordiau mewn corau, neu fynachod yn taflu goleuni ar lawysgrifau. Unwaith i'r sgil ’na o grefftio stori gael ei dysgu, mae'n sgil sy’n para oes".

Amharwyd yn greulon ar ymddeoliad David gan salwch difrifol ac, er gwaethaf cefnogaeth ffyddlon ei wraig Pat (a oedd hefyd yn newyddiadurwr), ni allai wneud yr holl bethau yr oedd wedi addo i’w hun y byddai’n eu gwneud yng ngham nesaf ei fywyd. Ond ni chollodd fyth ei ddiddordeb mewn materion cyfoes, nac yn hynt ei fyfyrwyr a roddodd gymaint o foddhad iddo. Byddai eu cydnabyddiaeth o'r hyn a wnaeth drostyn nhw wedi meddwl llawer iddo. Dywedodd Katie Sands o ITV Cymru, aelod o'i garfan olaf, ei bod yn fraint cael bod yno a bod 'David wir wedi dod â'r freuddwyd o fod yn newyddiadurwr yn fyw. Dyn ffyrnig o deg a charedig'.

Gweithiais yn agos gyda David am fwy na degawd, ac roedd un foment bob blwyddyn yn crynhoi, i mi, ei gyfraniad unigryw at fyd newyddiaduraeth ym Mhrydain. Roedd y foment honno tua diwedd yr ail semester, pan fyddwn yn dod i’w swyddfa a gofyn, mewn ffordd mor ffwrdd-â-hi â phosibl, sut oedd pethau’n mynd o ran swyddi. O ganol pentwr enfawr o bapurau ar ei ddesg, a oedd yn ymddangos yn anniben (ac ymddangos yw’r gair pwysig yma), byddai dalen A4 yn ymddangos. Ar y ddalen hon roedd enwau 25, 28 neu hyd yn oed 30 o ferched a dynion ifanc. Gyferbyn â phob enw roedd manylion lle da i ddechrau eich gyrfa – ystafelloedd newyddion lle roedd David yn gwybod y byddai pob un o’i fyfyrwyr yn cael y gefnogaeth orau posibl. Roedd yn athro gwych ac yn ddyn hyfryd.

Richard Tait

Athro Newyddiaduraeth

JOMEC