Catherine Belsey
Mae Catherine Belsey, fu’n addysgu llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 1975 a 2006, wedi marw yng Nghaergrawnt yn 80 oed.
Cafodd Kate, fel yr oedd ei ffrindiau a’i chydweithwyr yn ei galw, ei geni yng Nghaersallog (Salisbury). Cafodd ei haddysgu yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, cyn symud i Brifysgol Warwick i wneud gwaith ôl-raddedig. Goruchwyliwyd traethawd ymchwil ei doethuriaeth (1973) gan GK Hunter a ddisgrifiwyd ganddi unwaith fel rhywun oedd yn 'rhoi pwyslais amlwg ar gywirdeb, yn ogystal â phwysigrwydd ategu dadl â thystiolaeth'. Byddai’r cannoedd o fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu neu eu goruchwylio gan Kate yn cytuno bod y gwerthoedd hyn yn bwysig iawn iddi hithau hefyd.
Ar ôl treulio cyfnod yn addysgu yn New Hall, Caergrawnt, ar ddechrau’r 1970au, daeth Kate i Gaerdydd i fod yn Ddarlithydd Saesneg ym 1975. Fe'i penodwyd yn Athro Saesneg ym 1989, ac yna'n Athro Ymchwil Nodedig yn 2002. Bu'n gadeirydd y Ganolfan Theori Beirniadol a Diwylliannol am nifer o flynyddoedd ac roedd yn ffigwr blaenllaw mewn gwleidyddiaeth leol a Chymdeithas yr Athrawon Prifysgol. Mae’r rhai fu’n gweithio ochr yn ochr â hi tra pan oedd hi'n Llywydd ac yn Is-lywydd cangen Caerdydd o'r AUT yn cofio ei harweiniad di-ofn a'i hymrwymiad diwyro i sefydliad a phroffesiwn tecach. Ar ôl gadael Caerdydd yn 2006, gweithiodd Kate ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Derby. Roedd hi'n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn ogystal â Chymdeithas Lloegr.
Fe wnaeth ei thair ysgrif ar ddeg a’i llu o thraethodau drawsnewid meysydd beirniadaeth lenyddol a diwylliannol, astudiaethau modern cynnar, hanes diwylliannol a theori feirniadol. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Critical Practice (1980; ail argraffiad 2002), ar adeg pan oedd Saesneg fel disgyblaeth yn cael ei hail-lunio yng ngoleuni theori feirniadol, ac ymchwiliodd i'r modd yr oedd ôl-strwythuraeth yn cwestiynu mewn modd radical ffyrdd sefydledig o ddarllen a deall ein lle yn y byd. Hyd heddiw, mae Critical Practice yn bwynt cyfeirio rhagarweiniol yn y maes, tra bod Poststructuralism: A Very Short Introduction (2002) a Criticism (2016) wedi troi eu sylw at delerau dadlau yn y mileniwm newydd. Mae trosolwg eglur a gafaelgar Kate wedi galluogi cenedlaethau o ddarllenwyr i ddeall gwaith anodd beirniaid fel Jacques Derrida, Roland Barthes a Jacques Lacan. Roedd Kate yn galw ei hun yn ‘ddamcaniaethwr’, ond ychydig iawn o ddiddordeb oedd ganddi mewn theori fel cyfres o gynigion haniaethol i’w crynhoi a’u meistroli; y nod, yn hytrach, oedd defnyddio theori wrth ddadansoddi diwylliant. Ac i Kate, roedd ‘diwylliant’ yn golygu ‘diwylliant’ yn ystyr ehangaf y term: nid oedd hi’n hoffi’r term ‘llenyddiaeth’ am ei fod yn awgrymu barn ynglŷn â gwerthoedd, a dangosodd gwaith fel Shakespeare and the Loss of Eden (1999) ac A Future for Criticism (2011) beth oedd i’w ennill drwy ddadansoddi testunau ysgrifenedig ochr yn ochr â chelf, ffilmiau. hysbysebu a hyd yn oed beddroddau. Cyhoeddwyd llyfr diweddaraf Kate, Tales of the Troubled Dead: Ghost Stories in Cultural History, yn 2019 ac fe’n gwahoddwyd i gymryd straeon ysbryd o ddifrif – nid am eu bod yn wir, ond am eu bod yn gallu ‘ddadsefydlogi ffyrdd confensiynol o ddeall y byd’. Roedd elfen wleidyddol i’w gwaith o hyd, ond nid oedd ei hymrwymiad i bosibiliadau radical beirniadaeth ddiwylliannol fyth yn unllygeidiog neu heb fod yn agored i wahanol elfennau ohoni.
Roedd Kate yn siaradwr cyhoeddus gafaelgar a doniol a bu ar y radio a’r teledu sawl gwaith oherwydd ei harddull a’i bywiogrwydd. Er ei bod yn brysur dros ben yn sgîl ei henw da rhyngwladol, roedd yn fwy na pharod i dreulio oriau gydag israddedigion ac ymgysylltu â nhw ar yr un lefel â hi. Roedd yn berson digyfaddawd, didwyll, cyfareddol, a ffyddlon, ac roedd hi bob amser yn obeithiol am y gwahaniaeth y gall y dyniaethau ei wneud.
Neil Badmington a Julia Thomas