Brian Hooper
Roedd cydweithwyr yn yr Ysgol Peirianneg yn flin iawn i glywed am farwolaeth Brian Hooper ar 2 Tachwedd 2018.
Ymunodd Brian â Choleg Prifysgol Cymru Caerdydd fel technegydd mecanyddol yn yr Ysgol Gwyddorau Deunyddiau yn Adeilad y Gogledd ym 1978, o dan y Prif Dechnegydd Mr Bernard Diggins.
Un o'r bobl sy'n ei gofio o'r dyddiau hynny yw Simon Young, un o'n Peirianwyr Rhwydwaith mewn TG a ddechreuodd yma ym 1980 ac sy'n cofio mai ateb Brian bob amser oedd “dim problem”. Bu’n cynorthwyo Simon drwy wneud offer unigryw ar gyfer tasgau penodol ac nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth iddo. Daeth Simon a Brian yn ffrindiau da, yn enwedig ar ôl i Simon briodi a symud i Bontypridd.
Un arall sydd ag atgofion melys am Brian yn y dyddiau hynny yw’r Athro Karen Holford. Dechreuodd ei PhD yn 1984 ac roedd Brian yn un o'r technegwyr a fu'n ei helpu fwyaf, yn datrys problemau technegol ac yn awgrymu atebion newydd. Roedd ei agwedd bositif a’r ffaith fod ei draed ar y ddaear yn rhoi gwên ar ei hwyneb. Dywedodd, “Ni fyddwn yma heddiw heb gefnogaeth Brian”. Mae blwch llwch a wnaeth ar gyfer y labordy o hen biston ganddi o hyd.
Ar ddechrau’r 90au unodd yr Ysgol Peirianneg Fecanyddol a Sifil a'r Ysgol Peirianneg Drydanol, Electronig a Systemau i fod yn ysgol peirianneg unedig o dan arweiniad yr Athro Roy Evans. Bryd hynny, Brian, ynghyd â Dave Glinn a Don Morgan oedd y technegwyr mecanyddol a oedd yn rhedeg y Gweithdy Defnydd ar y Cyd. Yn 1997 dechreuodd Brian weithio yn y tîm peirianneg sifil, o dan y Prif Dechnegydd Mr Vic Ferrissey. Yna, daeth yn Ddirprwy Brif Dechnegydd ac wedi hynny yn Arweinydd y Tîm ar y Cyd. Bu Paul Leach, Len Czekaj a Harry Lane yn gweithio'n agos iawn gyda Brian ac roedden nhw’n gweld ei eisiau’n fawr ar ôl iddo ymddeol yn gynnar yn 2014.
Mae staff academaidd a fu'n gweithio'n agos gyda Brian, yn enwedig yr Athro Bushan Karihaloo, yr Athro Roger Falconer a Dr Rhys Pullin, yn ei gofio fel aelod cefnogol, siriol a medrus iawn o'r tîm technegol.
Roedd ei deulu’n cofio Brian yn siarad am nifer helaeth o gydweithwyr yn ystod ei gyfnod gyda'r ysgol, gormod i'w crybwyll, ond roedd Brian yn mwynhau perthynas waith a chyfeillgarwch agos â nhw i gyd.
Roedd Brian yn gydweithiwr uchel ei barch ac roedd yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Roedd pawb yn y tîm technegol â'r rhai a ddaeth i'w adnabod yng nghymuned ehangach y brifysgol yn hoff iawn ohono. Mae'n cael ei gofio fel un sydd â synnwyr digrifwch sych, yn medru datrys problemau’n ymarferol a delio’n dda â phobl anodd. Roedd yn ddyn tawel a gofalgar, bob amser yn barod i helpu eraill ac nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth iddo. Roedd yn dwlu ar geir (yn enwedig BMW a Mercedes) ac roedd ganddo ddiddordeb yn yr hyn oedd yn digwydd o dan y bonet.
Mae marwolaeth Brian yn golled fawr i'w holl gydweithwyr a'i ffrindiau ar draws yr Ysgol Peirianneg.
Mae’n gadael ei wraig Pat, ei ferch Nikki, ei fab Ryan a'i wyrion. Hoffent ddiolch i bawb a ddaeth i angladd Brian, roedd hyn yn gysur mawr iddynt.
Carol Docker
Cynorthwy-ydd Personol yr Athro Sam Evans, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg