Bernard Mallows MBE
“Roedd Bernard yn seren.” Ers ei farwolaeth ym mis Mehefin 2020, dyna'r gair a ddefnyddiwyd amlaf gan gydweithwyr i ddisgrifio cyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Brifysgol. Dyma ffordd syml o ddweud bod pawb oedd yn cwrdd â Bernard yn ei hoffi ar unwaith; roedd ganddo synnwyr digrifwch anhygoel; roedd yn llwyddiannus iawn yn broffesiynol; yn rheolwr hynod gefnogol ac yn un o aelodau staff mwyaf poblogaidd, adnabyddus ac uchel ei barch y Brifysgol ers dros 20 mlynedd. Er, wrth gwrs, roedd gan Bernard yr awdurdod cyfreithiol angenrheidiol i fynd i’r afael ag amrywiaeth gymhleth o heriau diogelwch - o athrawon penderfynol a fyddai'n gwrthsefyll ymyrraeth â'r ffordd yr oeddent yn rhedeg eu labordai i fyfyrwyr bywiog na fyddai, yn anochel, yn poeni am reolau diogelwch - dewisodd Bernard i gael cydweithrediad drwy “gymell yn hytrach na gorfodi”. Roedd hyn yn gweithio. Roedd pawb yn ei barchu.
Yn y byd ehangach, roedd hefyd yn adnabyddus ac yn uchel ei barch. Trwy ei bersonoliaeth a’i enw da, chwaraeodd Bernard ran bwysig yng nghymdeithasau diogelwch proffesiynol Prifysgolion Cymru a'r DU. Yn wir, trwy gydol yr 1990au bu’n ysgrifennydd Cymdeithas Diogelwch Prifysgolion y DU [USHA bellach]. Felly hefyd yng nghymuned diogelwch proffesiynol de Cymru: Yn ddiweddarach roedd Bernard yn Is-lywydd Grŵp Diogelwch De a Gorllewin Cymru, a bu’n aelod ohono am ddeugain mlynedd mewn amrywiaeth o rolau. Ysgrifennodd y cadeirydd presennol, Mr Phill Jones (diolch iddo am roi ei ganiatâd i ddefnyddio’r wybodaeth sydd mewn ysgrif goffa arall) “Ni fyddai Grŵp Diogelwch De a Gorllewin Cymru yn gymaint o lwyddiant heb ymdrechion a gwaith caled Bernard.”
Daeth Bernard Mallows o Goelbren, ond roedd ganddo’r ddoethineb i symud i Glais yng Nghwm Tawe. Dechreuodd ei yrfa fel cemegydd dadansoddol yn y diwydiannau dur ac alwminiwm cyn symud i faes Iechyd a Diogelwch. Ym 1983 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch yng Ngholeg y Brifysgol [Caerdydd ar y pryd]. Er iddo ymddeol yn 2006, roedd yn parhau i ymwneud â'r proffesiwn a ddewiswyd ganddo. Daeth yn ymgynghorydd a hyfforddwr, ac roedd ei ddawn i wneud i bobl deimlo’n gyfforddus yn fantais fawr.
Roedd yn gymdeithasol tu hwnt, fel yr ysgrifennodd Mr Jones: “Bernard oedd y person gorau i eistedd wrth eich ymyl mewn cinio.” Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol bu am rai blynyddoedd yn Warden poblogaidd ac effeithiol neuadd breswyl Tŷ Llandaf ym Mhenarth. Dyfarnwyd MBE iddo ym 1992 am ei wasanaethau i Iechyd a Diogelwch, clod hynod haeddiannol a roddodd foddhad enfawr i’r Brifysgol. Roedd yn fabolgampwr brwd ac yn dilyn y rhan fwyaf o chwaraeon, yn enwedig rygbi a phêl-droed. Roedd yn gefnogwr selog, ffyddlon i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a chwaraeodd bêl-droed yng Nghynghrair Cymru - cynghrair heriol, lled-broffesiynol. Fe chwaraeodd nes oedd yn ddeugain oed.
Roedd Bernard yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu ac yn ei gymuned. Felly, er bod COVID-19 yn atal pawb rhag mynd i angladdau, nid oedd yn syndod gweld cynifer o’i deulu ehangach, ei ffrindiau, ei gyn-gydweithwyr a’i gymdogion yn sefyll ar strydoedd Glais i dalu teyrnged iddo wrth i’r orymdaith angladdol fynd heibio. Rhwystrwyd llawer iawn o bobl o bell rhag dod o ganlyniad i gyfyngiadau teithio, ond anfonwyd cydymdeimlad. Roedd yn ddyn uchel iawn ei barch.
D Gareth Lewis