Andrew Belsey
Bu farw Andrew Belsey, Darlithydd Athroniaeth 1973–2007, yng Nghaergaint. Cafodd ei eni yn Hilton, Swydd Caergrawnt. Ar ôl cael ei fagu yng Nghaint, cwblhaodd radd mewn Cymdeithaseg yng Ngholeg Rutherford, Newcastle. Yna, astudiodd radd gyntaf arall mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Warwick ym 1967–9, mewn dwy flynedd y tro hwn. Aeth ymlaen i gynnal ymchwil ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn ymgymryd â’i swydd gyntaf yn y sefydliad a oedd yn cael ei alw'n Goleg Prifysgol Caerdydd ar y pryd ym 1973.
O ran ei ddosbarthiadau, meddai, ‘Mae rhywbeth arbennig am fyfyrwyr athroniaeth, achos eu bod yn dod i’r maes gyda diddordeb ac ymrwymiad diffuant yn hytrach na drifftio i’r maes. Ac roedd rhai ohonynt mor awenog fel gallwn ganfod fy nghyfyngiadau fy hun.’ Roedd yn canu clodydd ei gydweithwyr ym maes athroniaeth yng Nghaerdydd, am eu cydweithio a’u cymwynasgarwch, ac ysgrifennodd ddau gofnod diduedd am un ohonynt mewn gwyddoniadur. Roeddem yn ei ystyried yn gydweithiwr gwybodus, cymwynasgar, effeithlon a dibynadwy iawn. Bu'n gadeirydd y Bwrdd Astudio yng nghyfnod 1994-6, ac ar yr adeg hon cafodd Athroniaeth sgôr ‘Ardderchog’ yn yr Asesiad Ansawdd Addysgu. Fodd bynnag, gwrthododd gyflwyno cais am ddyrchafiad ar sail egwyddor.
Roedd ei deyrngarwch i Gaerdydd yn barhaus ond nid yn ddiamod, o ran cyfundrefn lywodraethol Coleg Prifysgol Caerdydd. Ac yntau’n aelod o’r Senedd yn y 1970au a’r 80au, helpodd Andrew i roi bod i brifysgol fwy democrataidd, am gyfnod o leiaf, gan chwarae rhan fawr yng Nghangen Caerdydd Cymdeithas Athrawon Prifysgol a Staff Anathrawol. Un o’i arfau mwyaf pwerus yn erbyn gorthrwm oedd parodi ffraeth a di-ffael o rodres biwrocratig.
Ei feysydd arbenigol oedd hanes ac athroniaeth gwyddoniaeth a, nes ymlaen, moeseg gymdeithasol. Yn ystod ei ddyddiau cynnar yng Nghaerdydd, roedd ei ddyletswyddau’n cynnwys addysgu athroniaeth i wyddonwyr. Bu’r erthygl gyntaf a gyhoeddodd yn trafod ‘The Moral Responsibility of the Scientist’ yn Philosophy, 1978, a dwy flynedd wedyn, ysgrifennodd feirniadaeth angerddol yn yr un cyfnodolyn ynghylch yr hyn ystyriodd yntau a phobl eraill fel gwreig-gasineb J. R. Lucas. Maes o law, cyhoeddodd ‘Boethius and the Consolation of Philosophy, Or, How to Be a Good Philosopher’ (yn Ratio, 1991) ynghyd â sawl papur arall. Am sawl blwyddyn, bu'n olygydd cylchlythyr y Gymdeithas Athroniaeth Gymhwysol. Gyda Ruth Chadwick, cyhoeddodd Ethical Issues in Journalism and the Media (Routledge, 1992) a Philosophy and the Natural Environment (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1994) gyda Robin Attfield. Hefyd, cyfrannodd at y tîm a oedd yn addysgu’r MA newydd mewn Moeseg Gymdeithasol o 1988 tan 1994. Aeth rhai o fyfyrwyr y cwrs hwn ymlaen i gyflawni doethuriaethau a/neu ysgoloriaethau, ac un esgobaeth.
Roedd ei ddiddordebau ehangach yn cynnwys cynrychiolaeth weledol. Gyda Catherine Belsey, cyhoeddodd draethawd am bortreadau o Elizabeth I ac un arall ynghylch perthynas Christina Rossetti â Brawdoliaeth y Cyn-Raffaeliaid. Ymddeolodd Andrew yn 2007, ac un flwyddyn yn ddiweddarach, enillodd MA gyda Rhagoriaeth mewn Teipograffeg gan Brifysgol Reading.
Roedd ei waith hefyd yn cynnwys nifer o gyfrolau byr am benillion epigramatig, a sawl soned. Cafodd ei farddoniaeth ei chyhoeddi mewn llawer o gyfnodolion print a rhai electronig.
Ar ôl ymddeol, ymgartrefodd yng Nghaint, sir yr oedd wastad wedi'i hystyried yn gartref. Bu farw o ganser ar 7 Ebrill 2019.
Yr Athro Robin Attfield, ar ôl ymgynghori â Catherine Belsey