Ewch i’r prif gynnwys

Allyson Jayne Capron

Magwyd Allyson gan ei Mam-gu a'i Thad-cu ac roedd bob amser yn agos iawn atyn nhw. Teithiodd i Malaysia i ymweld â nhw sawl gwaith, a hyn oedd wedi meithrin ei hoffter o deithio. Yn blentyn, roedd hi'n agos iawn at ei chefndryd Chris a Becky. Buon nhw’n treulio gwyliau'r haf yn achosi anhrefn ac yn llunio gemau. Yn aml, bydden nhw’n chwarae o amgylch y Graig. Bydd Becky yn dweud wrthych chi fod gan Allyson gasgliad ardderchog o deganau, gan gynnwys llawer o ffigurau bach y She-Ra, a Cat-Ra oedd ei ffefryn.

Menyw hynod annibynnol oedd Allyson nad oedd byth yn ofni ymgymryd â heriau. Doedd damwain a oedd yn golygu bod Allyson yn gorfod defnyddio cadair olwynion erioed wedi ei hatal rhag byw ei bywyd yn y ffordd y dymunai, ac roedd yn hoff iawn o geir, cerddoriaeth, gwyliau cerddoriaeth, dawnsio, sioeau theatr, cathod, a phopeth sy’n ymwneud â byd hud. Roedd hi'n hoff iawn o wisgoedd ffansi ac roedd hi bob amser yn hudo pawb o ran popeth y byddai'n ymdrechu i'w wneud. Roedd ganddi lawer o gyfeillion agos ac roedd yn mwynhau chwerthin. Ar ben hynny, roedd hi'n agos iawn at ei modryb Tracy a'i chyfnither Becky. Roedd y ddawn ganddi i wneud ffrindiau ble bynnag y byddai’n mynd, gan gynnwys ymhlith ei chymdogion. Bydd llawer yn dweud wrthych chi mai Allyson oedd gwir ysbryd y parti ac yn cofio ei ffraethineb, ei chwerthin a'i synnwyr digrifwch drygionus!

Bu’n gweithio’n agos gyda Tracy i sicrhau bod ei Thad-cu a’i Mam-gu yn cael gofal da iawn yn ystod cyfnod olaf eu bywydau, gan ofalu am y ddau ohonyn nhw bob amser yn ôl yr angen.

Menyw eofn oedd Allyson, roedd bob amser yn annibynnol, bu’n teithio ledled y byd ac ymhlith y gwledydd hyn mae Gwlad Thai, Siapan, Ibiza, Awstralia, Gwlad Belg a Norwy ...

Roedd Allyson yn caru’r bobl o'i chwmpas a byddai bob amser yn rhoi anrhegion hael, boed yn llyfrau, yn bersawr, yn anrhegion bach, unrhyw beth a fyddai'n cyfoethogi bywyd y bobl yr oedd hi'n gofalu amdanyn nhw.

Roedd Allyson wrth ei bodd â chathod a thrwy gydol ei bywyd roedd sawl un yn cadw cwmni iddi, gan gynnwys Molly a Ginger Cat. Byddai Allyson yn rhoi maldod iddyn nhw mewn ffordd y byddai’r rhan fwyaf o gathod yn genfigennus ohoni, sef tyrau, dillad gwely moethus, bwyd crand, roedd y cyfan a mwy ganddyn nhw! 

Roedd Allyson yn hael iawn gyda'i hamser a bu'n gweithio ac yn gwirfoddoli i nifer o elusennau yn ystod ei bywyd yn oedolyn gan gynnwys - Elite, elusen cefnogi pobl ag anableddau i ymuno â byd gwaith; Ymddiriedolaeth Terrence Higgins; Stonewall, ac elusen sy'n canolbwyntio ar helpu menywod â phroblemau o ran iechyd meddwl. Roedd hi'n angerddol am y meysydd hyn ac doedd hi erioed yn ofni siarad am y rhain. Byddai’n gwirfoddoli’n aml yng ngŵyl Balchder Caerdydd. Doedd hi byth yn ofni herio ei hun a does dim byd na fyddai’n meiddio ei wneud, er enghraifft plymio o’r awyr yn 2010 a nofio gyda siarcod yn 2011 i godi arian at ymchwil ar asgwrn y cefn.

Bu’n chwarae rygbi cadair olwynion gyda thîm rygbi cadair olwynion y Dreigiau ym Met Caerdydd ac roedd wrth ei bodd.

Yn nes ymlaen yn ei bywyd, cwblhaodd Allyson gyrsiau Prifysgol ym Mhrifysgol Caerdydd ac roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfnodau penodol yn hanes Cymru, hanes hud a meysydd eraill, gan ysgrifennu straeon byrion. Roedd wrth ei bodd yn darllen ac roedd yn amsugno gwybodaeth yr oedd ganddi ddiddordeb ynddi bob gafael. Daeth Allyson o hyd i ysbrydolrwydd ac roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn agweddau ar y cosmos, astroleg, chwarae tarot, breuddwydion, ac roedd wrth ei fodd yn dysgu am yr iacháu ynghlwm wrth grisialau.

Rydyn ni'n mawr obeithio ei bod hi bellach yng nghwmni Ginger Cat, Mam-gu a Tad-cu, mae ar Dad-cu £3 iddi wedi'r cyfan!

Rings on her fingers, bells on her toes, she shall cause trouble wherever she goes... Bydd y byd yn lle llawer tawelach heb Allyson ynddo.

Gorffwyswch nawr, Dywysoges Allybug, byddwn yn gweld dy eisiau. Xxx

Rebecca Songprasert