Her uwchfarathon i un o gynfyfyrwyr Caerdydd
11 Gorffennaf 2017
Bydd Jamie Maddison, un o gynfyfyrwyr yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn dechrau uwchfarathon 100 milltir yn Kazakhstan ym mis Medi.
Mae Jamie, sy'n 28 oed, yn gweithio fel siaradwr antur a strategydd cynnwys yn Llundain, ac yn gobeithio cwblhau'r her mewn 24 awr.
Bydd yn rhaid i Jamie ddod o hyd i'r ffordd gywir wrth redeg, a dim ond cerbyd cefnogaeth fydd yn ei ddilyn, wrth iddo groesi anialwch Saryesik-Atyrau yn Nwyrain Kazakhstan – gwlad nad oedd yn caniatáu pobl i deithio yn ôl ac ymlaen i'r Undeb Ewropeaidd yn y 1990au.
Dywedodd: “Rwy'n ceisio canolbwyntio ar rannau o'r byd nad yw pobl gartref yn gwybod llawer amdanynt...”
Wrth astudio yng Nghaerdydd, datblygodd Jamie "frwdfrydedd mawr am ddringo creigiau" fel Ysgrifennydd Clwb Mynydda'r Brifysgol. Fe wnaeth teithiau i Ganolfan Ddringo Ryngwladol Cymru bob dydd Mawrth a dydd Iau, ac i Benrhyn Gŵyr ar benwythnosau, roi Jamie ar drywydd wnaeth arwain at deithiau ledled Asia.
Ers graddio, mae Jamie wedi teithio mewn ardaloedd anghysbell ledled y byd, gan gynnwys dod o hyd i bennau saeth o'r 10fed ganrif ym mynyddoedd Tajikistan, darganfod heb gyfleuster Sofietaidd ar gyfer arbrofi ag arfau, a rhedeg gyda bugeiliaid camelod yn Uzbekistan.
Meddai TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae taith Jamie yn enghraifft o'r pethau anhygoel y gall ein cymuned o 155,000 o gynfyfyrwyr wneud â'u bywydau ar ôl graddio o Gaerdydd...”
Mae taith Jamie wedi'i gefnogi gan y gwneuthurwyr oriorau Prydeinig, Christopher Ward, a'u rhaglen Challenger sy'n helpu pobl dalentog i oresgyn heriau i'w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau.
Darllenwch am sut mae Jamie'n paratoi ar gyfer ei daith yma.