Lansio Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Rhyngbroffesiynol
18 Mawrth 2024
Yn dilyn tendr llwyddiannus AaGIC a dwy flynedd o ddatblygiad, lansiwyd yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Rhyngbroffesiynol (ISLA) yn semester yr hydref gyda'r garfan gyntaf o fyfyrwyr o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a'r Ysgol Deintyddiaeth.
Ym mis Chwefror cwblhaoddodd y myfyrwyr y rhaglen gyda chyflwyniad olaf i ddathlu eu maes diddordeb. Mae’r rhaglen allgyrsiol bwrpasol hon yn:
- cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau arwain a gweithio ar brosiect gwella yn annibynnol neu gyda myfyrwyr eraill
- cynnig mynediad at brofiadau arweinyddiaeth ymarferol gan siaradwyr sydd yn ysbrydoli ac yn ysgogi
- cynnig hyfforddiant unigol ac yn annog gwaith grŵp a datrys problemau gyda Setiau Dysgu drwy Weithredu
- annog myfyrwyr i ystyried a thrafod yr heriau a'r cyfleoedd o weithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
- cefnogi’r twf yn niferoedd y myfyrwyr o ran eu datblygiad personol a phroffesiynol
- cefnogi’r garfan drwy gydol eu blwyddyn olaf o addysg, ac wrth iddyn nhw bontio i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
Nod profiad yr academi arweinyddiaeth yw rhoi hyder i fyfyrwyr ddylanwadu ac arwain gwelliant mewn gofal iechyd a gofal cymdeithasol gyda’r nod cyffredin o fod o fudd i bobl Cymru a thu hwnt.
Datblygodd yr Athro Teena Clouston a Dr Alison H. James y rhaglen ISLA gydag academyddion o'r ddwy ysgol, ein myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol o'r GIG, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac AaGIC.
Gwybodaeth am y trefnwyr
Mae’r Athro Teena Clouston yn Athro mewn Therapi Galwedigaethol a Lles yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae ei meysydd o ddiddordeb yn cynnwys rhyngberthnasau rhwng cysyniadau cymdeithasol-wleidyddol-ddiwylliannol a gwerthoedd ym maes iechyd a lles. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dylanwad egwyddorion neoryddfrydol ar gydbwysedd, lles, ystyr bersonol a chreadigrwydd mewn bywyd. Er ei bod yn tueddu i ganolbwyntio ar y cymhelliant hwn i ddwysáu gwaith a pherfformedd, a’r cynnydd mewn unigoliaeth, cyfrifoldeb ac atebolrwydd yn y gweithle, mae hi hefyd yn ystyried effaith cysylltiadau ar sawl lefel e.e. y person ei hun, teulu, cymuned a byd natur. Mae Teena hefyd yn chwilfrydig ynghylch heriau ym maes o dysgu ac addysgu, gwerthoedd gofalgar a thosturiol mewn addysg uwch, a sut y caiff hyn ei gymhwyso i sicrhau gwydnwch a lles mewn ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol bob dydd. Gyda chefndir proffesiynol mewn arwain yn y GIG, ac ymarfer arbenigol mewn iechyd meddwl, therapi galwedigaethol a chwnsela, ymunodd Teena â Phrifysgol Caerdydd yn 1998 ac mae hi newydd ddathlu 25 mlynedd o weithio gyda ni yma yn y Brifysgol.
Mae Dr. Alison Heulwen James yn Ddarllenydd mewn Arweinyddiaeth Gofal Iechyd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, ac mae ganddi ddiddordeb mewn datblygu arweinyddiaeth, diwylliant sefydliadol a gwella ansawdd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y modd y mae myfyrwyr gofal iechyd yn cael profiad o ddysgu arweinyddiaeth mewn addysg uwch, ac ymarfer clinigol a rôl emosiynau ar ddysgu. Mae Alison yn Nyrs Gofrestredig ac yn addysgu ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Gofal Iechyd, yn ogystal â bod yn ymchwilydd. Mae'n aelod o Ganolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth, ac mae'n cael ei chyhoeddi'n eang mewn cyfnodolion a llyfrau a adolygir gan gydweithwyr.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y rhaglen, e-bostiwch Cloustontj@caerdydd.ac.uk a jamesa43@caerdydd.ac.uk.