Ewch i’r prif gynnwys

Gall negeseuon testun atgoffa helpu i wella iechyd y geg ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau

17 Hydref 2024

Mae treial dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn dangos bod negeseuon testun atgoffa yn gallu gwella iechyd y geg, ac arferion brwsio dannedd mewn pobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig y rhai o deuluoedd incwm isel.

Bu ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol Sheffield, Leeds, Efrog a Dundee, yn gwneud gwaith ymchwil i effeithiolrwydd rhaglen newydd wedi’i chynllunio i annog arferion brwsio dannedd gwell a lleihau pydredd dannedd ymhlith disgyblion mewn ysgolion uwchradd.

Mae pydredd dannedd yn glefyd cyffredin iawn sy’n effeithio ar draean o bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed, gan gynyddu i bron i hanner y bobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Mae pobl ifanc sydd â phydredd dannedd yn aml yn dioddef o’r ddannodd, yn colli cwsg, yn cael problemau wrth fwyta, ac mae hefyd yn cael effaith ar eu hiechyd corfforol, eu lles meddyliol a’u cyfraddau mynychu’r ysgol yn gyffredinol.

Bu treial BRIGHT, wedi’i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), yn cynnwys 4,680 o ddisgyblion o 42 o ysgolion ledled Lloegr, Yr Alban a Chymru, a oedd wedi cael gwersi yn y dosbarth ar iechyd y geg a negeseuon testun ddwywaith y dydd i’w hatgoffa nhw i frwsio eu dannedd.

Meddai’r Athro Nicola Innes, Pennaeth Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd a Phrif Ymchwilydd y treial:

Mae’n adeg hollbwysig ym mywydau’r glasoed ac oedolion ifanc i ddatblygu arferion iach wrth iddyn nhw ddod yn fwy annibynnol. Cafodd y treial ei gynllunio ar y cyd â phobl ifanc, gyda’r nod o addasu i’w bywydau nhw; gwers yn yr ystafell ddosbarth ac adnodd cyfathrebu sy’n gyfarwydd iawn iddyn nhw, sef negeseuon testun.
Yr Athro Nicola Innes Head of School of Dentistry

Er nad oedd yr effaith gyffredinol o atal ceudodau yn arbennig o sylweddol, dangosodd yr adroddiad fod effaith gadarnhaol wedi bod ar arferion brwsio dannedd chwe mis yn ddiweddarach, a thystiolaeth o atal pydredd dannedd ymhlith disgyblion o deuluoedd incwm isel, sydd yn awgrymu bod y rhaglen yn arbennig o fuddiol i’r grŵp hwn.

Roedd y negeseuon testun a’r gwersi yn llwyddiant ysgubol yn ôl y disgyblion a’r athrawon, ac mae’r cynlluniau gwersi wedi cael eu lawrlwytho bron i 1,000 o weithiau yn barod.

Mae treial BRIGHT hefyd wedi derbyn Gwobr Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ei rôl wrth lunio dyfodol iechyd y geg ymhlith cymunedau ledled Cymru. Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn yn y fideo isod: