Mynd i’r afael â gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc
8 Rhagfyr 2020
Bydd canolfan ymchwil arloesol sy'n canolbwyntio ar ddeall a datblygu ffyrdd newydd o leihau gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd gyda £10m o Sefydliad Wolfson.
Bydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Centre, a gaiff ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol lle bydd arbenigwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgolion ac ysgolion ledled Cymru.
Bydd Canolfan Wolfson yn canolbwyntio ar bum maes gwyddonol:
- Bydd yn edrych ar ddata hydredol sy'n olrhain plant dros amser er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae gorbryder ac iselder yn datblygu. Bydd hefyd yn ystyried gwahanol resymau dros y cynnydd diweddar mewn achosion o orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.
- Bydd yn edrych ar rôl ffactorau genetig ac amgylcheddol mewn achosion o orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.
- Bydd yn datblygu ac yn profi cynllun ymyrraeth newydd er mwyn cefnogi pobl ifanc a theuluoedd os oes rhiant yn dioddef o orbryder.
- Bydd yn edrych ar rôl ysgolion wrth hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith pobl ifanc.
https://www.youtube.com/watch?v=Ehb0rth0b48&feature=youtu.be
O dan arweiniad arbenigwyr o Brifysgol Abertawe sy'n gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, bydd yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru yn unig er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ddeilliannau tymor hir y bobl ifanc sy'n cael profiad o orbryder ac iselder.
Meddai Paul Ramsbottom, Prif Weithredwr Sefydliad Wolfson: “Mae llawer rhagor i'w ddeall am achosion problemau iechyd meddwl, yr hyn sy'n eu hatal a sut i'w trin, ac mae'n faes sydd heb gael ei ariannu'n ddigonol yn y DU yn y gorffennol.
“Drwy lansio'r cynllun a chyflwyno'r dyfarniad hwn, rydym am wneud datganiad ynghylch pwysigrwydd iechyd meddwl pobl ifanc - ac er mwyn cefnogi ymchwil o'r radd flaenaf ynglŷn â'r pwnc.
“Roedd ein panel o'r farn bod y cynnig gan Gaerdydd yn arbennig o gryf. Mae'r arbenigedd ymchwil sydd wedi'i gynnull yn un sy'n creu cryn argraff ac yn amrywio o feysydd geneteg i epidemioleg.
“Bydd y Ganolfan yn creu cysylltiadau ardderchog gydag ysgolion a gwasanaethau iechyd ledled Cymru, a phrofiadau pobl ifanc fydd yn llywio'r ymchwil. Bydd y cyfan yn seiliedig ar set ddata sy'n rhoi mantais benodol i Gymru yng nghyd-destun ymchwil yn y maes hwn...”