Llwyddiant yng nghystadleuaeth traethawd israddedig y Ffederasiwn Peridontoleg Ewropeaidd
13 Mehefin 2018
Mae’r Ffederasiwn Peridontoleg Ewropeaidd (EFP) wedi cyhoeddi mai Natasha West, myfyrwraig ail flwyddyn yn yr Ysgol Deintyddiaeth, yw enillydd cystadleuaeth traethawd israddedig newydd.
Roedd y gystadleuaeth, yr un gyntaf o’r fath y mae’r EFP wedi’i chynnal, yn gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd byr mewn ymateb i’r cwestiwn “Pam y byddwn i’n ystyried gyrfa mewn peridontoleg?” Wynebodd Natasha gystadleuaeth gref o ysgolion deintyddol o 20 o wledydd. Cafodd ei henwi’n enillydd ochr yn ochr â myfyriwr deintyddol yn y bedwaredd flwyddyn o Glasgow, a myfyriwr deintyddol yn y drydedd flwyddyn o Umea, Sweden.
Mae peridontoleg, sy’n golygu ‘o amgylch y dant’ yn yr iaith Groeg, yn edrych ar yr astudiaeth o feinwe caled a meddal yn y geg, sy’n cefnogi’r dannedd. Mae yna gysylltiadau pendant rhwng Peridontitis a phroblemau iechyd eraill, felly gallai dilyn gyrfa yn y maes hwn arwain at ymchwil yn ogystal ag arfer.
Gwobr Natasha yw lle yn y digwyddiad Peridontoleg Ewropeaidd blaenllaw, EuroPerio9 yn Amsterdam, a 250 ewro. Pan ofynnwyd iddi am ei buddugoliaeth a’r cyfle i fynd i’r digwyddiad mawreddog hwn, dywedodd:
“Mae’n fraint cael y cyfle i glywed arweinwyr y byd yn y maes peridontoleg yn cyflwyno eu hymchwil diweddaraf. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweld y sesiwn llawdriniaeth fyw i gael mwy o ddealltwriaeth o’r arbenigedd, ac wrth gwrs i grwydro dinas Amsterdam.”
Ychwanegodd Pennaeth yr Ysgol, Alastair Sloan, ei longyfarchiadau:
“Roeddwn i’n falch iawn o weld bod gan yr Ysgol ddiddordeb mawr a nifer o ymgeiswyr yng Ngwobr Traethawd Israddedig yr EFP eleni o’n rhaglenni Israddedig amrywiol. Mae ennill yn dipyn o gamp; dwi wrth fy modd i Natasha ac, ynghyd â gweddill yr Ysgol, yn falch iawn ohoni. Dwi’n siŵr y bydd hi’n mwynhau ei hamser yn EUROPERIO9 yn fawr ac yn dysgu llawer o fynychu’r gynhadledd fawr a chyffrous hon. Da iawn Natasha!”
Mae’r traethawd yn dangos angerdd Natasha dros y pwnc ac yn nodi nifer o ddulliau a syniadau y gellid eu defnyddio yn ystod ei gyrfa, wedi’u llywio gan yr awydd i “gynnig y gofal gorau i gleifion”.