Mae astudiaeth yn amlygu’r niwed y mae mamau a’u plant yn ei wynebu yn system loches y DU
6 Mehefin 2022
Mae myfyrwraig ymchwil PhD yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd wedi darganfod bod system loches y DU yn rhoi’r berthynas rhwng mamau a’u plant dan straen, a bod ychydig o gymorth ar gael i famau.
Yn ôl y papur, a ysgrifennwyd gan Laura Shobiye a Samuel Parker, ac a gyhoeddwyd gan Ethnic and Race Studies mae’n bosibl hefyd fod ansicrwydd yn system fewnfudo a lloches y wladwriaeth yn erfyn a ddefnyddir i reoli ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Mae'r astudiaeth, a ysgrifennwyd yn rhan o PhD Shobiye, yn dangos ei bod yn bosibl bod polisïau’n cael eu cyfeirio at oedolion sy'n ceisio lloches, gan effeithio'n negyddol ar eu plant a’r berthynas rhwng aelodau’r teulu a’i gilydd.
Gan gyfeirio at bolisi’r 'cyd-destun gelyniaethus', canfu ymchwil Shobiye dystiolaeth fod mamau a phlant yn destun system sy’n cam-drin.
Dyma a ddywedodd Shobiye, “I roi rhywfaint o gyd-destun, cynhaliwyd yr ymchwil hwn cyn i Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 gael ei phasio a rhyddhau cynllun Rwanda.
“Mae sefyllfa ceiswyr lloches yn gwaethygu ac mae 'arallu' ceiswyr lloches yn niweidiol. Pobl ydyn nhw, yr un fath â 'ni'.
“Cynheliais y gwaith ar y cyd â Chlymblaid Ffoaduriaid Cymru a sefydliadau trydydd sector megis Oasis Caerdydd, a’r rheiny â phrofiad bywyd.
“Mae yna lawer o drugaredd yng Nghymru a chryn benderfyniad i fod yn ‘Genedl Noddfa’ go iawn sy’n gwrthwynebu agweddau llym y Swyddfa Gartref.
Mae hi hefyd wedi ysgrifennu adroddiad yn ddiweddar ar y berthynas rhwng addysg a lles i famau sy’n ceisio lloches yng Nghymru.
Anfonwyd yr adroddiad i Lywodraeth Cymru a gweithgor prosiect Prifysgol Noddfa Caerdydd.
Bydd ei gwaith yn y dyfodol yn parhau i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu ceiswyr lloches gyda’r nod o ddylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth yng Nghymru.
Dyma a ddywedodd Shobiye wrth gloi, “ysgrifennodd bell hooks unwaith bod gorthrwm yn gyfystyr â dileu dewis.
“Pan fydd mamau’n cael eu gorfodi i geisio lloches yn y DU, does ganddyn nhw ddim dewis. Dylai noddfa ryddhau mamau a rhoi gwell dyfodol i’w plant. Yn lle hynny mae gennym ni system loches sy’n parhau i ormesu.”
Gall ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru gael cymorth yn lleol drwy'r Groes Goch, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Oasis Caerdydd a’r mudiad Women Seeking Sanctuary Advocacy and Support.
Darllenwch y papur yn llawn: Narratives of coercive precarity experienced by mothers seeking asylum in the UK (Wales)