Wānanga Diogelwch a Throseddau yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol ynghyd
23 Tachwedd 2022
Mae’r digwyddiad yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol ym maes trosedd a diogelwch, ynghyd.
Bydd cydweithrediad rhyngwladol rhwng Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth (SCIII) y brifysgol a Te Puna Haumara - Sefydliad Diogelwch a Gwyddor Troseddau Seland Newydd wedi amlygu rhai o'r problemau anoddaf sy'n wynebu cymdeithas ar hyn o bryd, yn ogystal â chryfhau perthynas hynod a werthfawrogir yn fawr.
Cynhaliwyd Cyfnewidfa Gwybodaeth Troseddau a Diogelwch Caerdydd-Waikato Wānanga yn gynharach y mis hwn dros dridiau gan ddenu cynadleddwyr ar-lein ac mewn canolfannau wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd a Hamilton, Seland Newydd.
Dywedodd yr Athro Amanda Robinson, Athro Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o’r gwesteion yng nghanolfan Caerdydd, fod y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac wedi denu niferoedd iach dros ben.
"Roedd yn drawiadol gweld yr egni gan gynifer o bobl yn yr ystafelloedd wyneb yn wyneb a rhithiol fel ei gilydd - er gwaethaf yr adeg anghymdeithasol y cynhaliwyd y digwyddiad oherwydd y gwahaniaeth o ran amser rhwng y ddwy wlad! Daeth bron 90 o bobl i’r digwyddiad ar draws y tridiau o wānanga (gweithdai), gan gynnwys cymysgedd eithaf cyfartal o ymchwilwyr prifysgolion a phobl o'r llywodraeth, asiantaethau cyfiawnder troseddol, a'r trydydd sector gwirfoddol."
Roedd y Cymrawd Addysgu Apriel Jolliffe Simpson o Brifysgol Waikato yng Nghaerdydd i gymryd rhan wyneb yn wyneb, a dywedodd bod rhannu gwybodaeth, profiadau a syniadau â’i chydweithwyr a phartneriaid proffesiynol wedi bod yn brofiad ysbrydoledig.
"Roedd yn wych gweld ymarferwyr ac ymchwilwyr yn dod ynghyd a chreu cysylltiadau i wella ymchwil ac arferion yn y dyfodol. Roedd hi'n ddiddorol dod o hyd i debygrwydd yn yr heriau rydyn ni'n eu hwynebu ym y naill wlad, yn ogystal ag edrych ar gwahaniaethau rhyngom oherwydd cyd-destunau penodol. Roedd y digwyddiad yn gryn her gan ei fod yn cynnwys sesiynau cydamserol, ac roedd modd i bobl ymuno mewn canolfannau wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Waikato a Phrifysgol Caerdydd, yn ogystal ag ar-lein," meddai Apriel.
Yn ystod y wānanga ein nod oedd trin a thrafod ffyrdd o oresgyn heriau ym maes ymchwil ac ymarfer troseddu a diogelwch cyfoes. "Fe wnaethon ni drafod yr heriau lu rydyn ni i gyd yn eu hwynebu mewn meysydd fel adolygiadau o farwolaethau, asesu risg trais, seiberdroseddu, yn ogystal â gwrthderfysgaeth ac eithafiaeth" meddai Apriel.
“Mae wedi bod mor gyffrous gallu siarad am ein heriau cyffredin a chreu cysylltiadau newydd y tu allan i’n sefydliadau arferol – a’n gwlad hyd yn oed – i hyrwyddo’r broses o gyfnewid rhagor o wybodaeth a chydweithio traws-genedlaethol yn y dyfodol.”
Yn ôl y Cyfarwyddwr Cyswllt Ymgysylltu a Phartneriaethau Byd-eang Prifysgol Waikato, Cath Battersby, mae’r bartneriaeth â Chaerdydd wedi ffynnu, er gwaethaf yr heriau oherwydd y pandemig, ac mae’r ddau sefydliad o’r farn bod ystod gyffrous ac amrywiol o prosiectau ar y cyd yn dechrau dod i’r golwg.
“Mae partneriaethau byd-eang cryf, gan gynnwys ein partneriaeth strategol â Phrifysgol Caerdydd, yn golygu y gall ein staff a’n myfyrwyr ddod o hyd i brofiad ac arbenigedd byd-eang,” dywed Cath. “Gyda’n gilydd, rydyn ni’n cynyddu effaith fyd-eang ein hymchwil ac yn cyfrannu at heriau byd-eang. Enghraifft wych yw’r wānanga hwn o’r hyn sy’n bosibl drwy gyfuniad o ddod at ein gilydd yn rhithwir ac wyneb yn wyneb.”
Dywedodd yr Athro Robinson bod gallu dod â phawb ynghyd wedi creu cysylltiadau newydd rhwng academyddion a phartneriaid proffesiynol.
"Mae ymchwil ac arferion yn tueddu i ddatblygu a digwydd mewn silos sefydliadol a chenedlaethol," meddai'r Athro Robinson. "Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle euraidd i bobl groesi'r ffiniau proffesiynol a gwladol hyn i gyfnewid syniadau, dod o hyd i feysydd sy’n gyffredin i ni, a deall gwahaniaethau o ran blaenoriaethau, heriau, a chyd-destunau.
"Roedd y wānanga yn enghraifft bersonol a chlir o bartneriaeth strategol ein prifysgolion yn cael ei rhoi ar waith. Cyfrannodd y ddwy ochr i’r un graddau ac roedd y teimlad cyffredinol drwy gydol y digwyddiad yn gwbl gadarnhaol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio yn y dyfodol â'r hyn sydd bellach yn teimlo fel grŵp newydd o gydweithwyr ar ochr arall y byd."