Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Seicoleg yn dathlu ymchwil gydweithredol ym maes technoleg amddiffyn a synhwyrau dynol

16 Medi 2024

people using driving simulation

Mae Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â K Sharp Ltd, ymgynghoriaeth Ymchwil a Ffactorau Gwyddorau Dynol blaenllaw yng Nghaerfyrddin ar astudiaeth Gam 1 gyda'r nod o ddatblygu dealltwriaeth dda o'r synhwyrau dynol a'u cydberthnasau mewn gwahanol amgylcheddau.

Mae gan y datblygiad hwn a welir yn nhechnoleg amddiffyn oblygiadau o bwys ar gyfer strategaethau diogelwch ac amddiffyn cenedlaethol ac a fydd yn gosod y safon ar gyfer ymchwil yn y maes hwn i’r dyfodol.

Ffocws yr ymchwil hon yw deall sut mae bodau dynol yn defnyddio eu synhwyrau i ganfod a deall yr amgylcheddau o'u cwmpas. Un enghraifft o hyn yw sut y maent yn defnyddio cerbydau presennol a cherbydau'r dyfodol yn ogystal ag asedau eraill.

Bu iddi gael ei chomisiynu gan y Labordy Amddiffyn, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (Dstl), sef sefydliad llywodraethol sy'n sicrhau bod gwyddoniaeth a thechnoleg arloesol yn cyfrannu at amddiffyn a diogelwch yn y DU.

Cyfuno gwybodaeth arbenigol

Mae arbenigedd K Sharp ym maes y gwyddorau dynol cymhwysol, ynghyd â thîm ymchwil o fri Rhagoriaeth Ffactorau Dynol (HuFEx) Prifysgol Caerdydd a’u galluoedd ymchwil flaengar, wedi cyfrannu at lywio cymhlethdodau'r prosiect.

"Mae’r ffaith ein bod wedi cyflawni Cam 1 yn yr astudiaeth hon yn destament i’r synergedd rhwng y diwydiant a'r byd academaidd. Mae ein cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd wedi datblygu ein dealltwriaeth o effeithiau synhwyraidd ym maes amddiffyn ac mae hefyd yn ein galluogi i gynnal ymchwil arloesol pellach yn y maes hwn."
Barry Kirby, Rheolwr Gyfarwyddwr K Sharp ac arweinydd y prosiect

A hithau wedi’i lleoli yng Nghymru, sy'n enwog am ei thirwedd academaidd a thechnolegol fywiog, mae'r bartneriaeth hon wedi meithrin cydweithio a rhannu adnoddau.

Mae'r cysylltiad lleol hwn yn symleiddio'r prosiect ac yn cyfrannu at statws cynyddol Cymru yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil a datblygu arloesol ym maes technoleg amddiffyn, gan wella sefyllfa economaidd ac academaidd y rhanbarth.

"Tynnu sylw at bwysigrwydd y partneriaethau rhwng sefydliadau academaidd a'r diwydiant a wna'r cydweithrediad hwn, a hynny er mwyn gwthio'r ffiniau ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae gwaith o’r fath wrth wraidd ein gwerthoedd craidd ac yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil ffactorau dynol. Rydym wedi cyflawni rhagoriaeth mewn ymchwil amddiffyn a diogelwch ers y 1960au a chynnal ymchwil o safon fyd-eang ers dros hanner canrif. Bydd canfyddiadau'r astudiaeth hon yn cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu technolegau a strategaethau amddiffyn newydd sy’n seiliedig ar well dealltwriaeth wyddonol o sut mae’r synhwyrau dynol yn gweithio'n annibynnol a law yn llaw wrth gyflawni tasgau cymhleth megis defnyddio cerbydau."
Yr Athro Phil Morgan, Cyfarwyddwr Ymchwil, Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS)

Disgwylir i'r prosiect fynd rhagddo hyd at y flwyddyn ariannol 2025, gyda chamau pellach yn anelu at adeiladu ar lwyddiannau Cam 1 a’r hyn a wnaethom ei ddysgu ohono. Mae'r cydweithrediad rhwng K Sharp Ltd a Phrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Dstl, ar fin cymryd camau sylweddol ym maes technoleg amddiffyn, gan gyfrannu at ddyfodol mwy diogel.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil, anfonwch e-bost i Leanne Jones o K Sharp Ltd.

Gwybodaeth am yr Ysgol Seicoleg, y Grŵp Ymchwil Rhagoriaeth Ffactorau Ymchwil (HuFEx) a’r Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol (DTII) ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae’r Grŵp Ymchwil Rhagoriaeth Ffactorau Dynol (HuFEx), sydd wedi'i leoli yn Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd, yn ganolbwynt ar gyfer arloesedd a magu partneriaethau diwydiannol a strategol sy'n gofyn am arbenigedd ym maes seicoleg ffactorau dynol.

Cydweithrediad rhyngddisgyblaethol ar flaen y gad yw’r Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS), sy’n ymdrech ar y cyd rhwng arbenigwyr ym meysydd ffactorau dynol cymdeithasol-dechnegol a gwyddoniaeth wybyddol a’r rheiny sy’n hyddysg ym meysydd technegol a chymdeithasol-dechnegol yn yr Ysgol Peirianneg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Mae’r Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyflwyno galluoedd newydd a dyfeisgar a hynny mewn partneriaeth ac mewn cydweithrediad â chymunedau a buddiolwyr sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan arloesedd.