Cadetiaid Coleg Brenhinol Nyrsio yn graddio fel nyrs iechyd meddwl
4 Mawrth 2024

Graddiodd Luke Hazell o Brifysgol Caerdydd fel Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig ar ôl cychwyn ar ei daith nyrsio yng ngharfan gyntaf rhaglen Cadetiaid y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN). Ef yw'r Cadét RCN cyntaf i raddio a dechrau gweithio fel nyrs.
Mae Cynllun Cadetiaid RCN POW yn rhoi cipolwg i bobl ifanc 16-24 oed i yrfaoedd nyrsio. Mae'r cynllun yn gweithio gyda sefydliadau ieuenctid, darparwyr addysg ac iechyd i roi profiad academaidd ac ymarferol o yrfaoedd iechyd i bobl ifanc. Y nod yw dangos i bobl ifanc bod gyrfaoedd yn y GIG yn hygyrch iddynt.
Dywedodd yr Athro Dave Clarke, Pennaeth Cynllun Cadetiaid POW RCN:
Rydym yn hynod falch o weld Luke yn graddio fel nyrs iechyd meddwl cofrestredig. Mae’n fodel rôl wych i bob cadet RCN sy’n dilyn yn ei olion/ôl traed ar eu taith eu hunain i fyd gwaith. Mae’n dyst iddo ei fod yn parhau i ymwneud â chynllun cadetiaid yr RCN gan weithredu fel llysgennad fel rhan o gyn-fyfyrwyr cadetiaid yr RCN.
Yr hyn y mae myfyrwyr yn ei ennill ar y cynllun:
- 20 awr o brofiad clinigol arsylwi, gwylio staff nyrsio ar waith
- dealltwriaeth o sut i ddilyn rôl mewn nyrsio
- tystysgrif i'w rhannu gyda darpar gyflogwyr i helpu i sefyll allan
- y cyfle i gwrdd â phobl ifanc eraill sydd â diddordeb mewn gofalu am bobl ag anghenion iechyd
- y cyfle i ddod yn llysgennad ac ysbrydoli cadetiaid y dyfodol
Dywedodd Luke Hazell, cyn Gadet yr RCN, a myfyriwr graddedig o Brifysgol Caerdydd:
Fe wnes i gais ar gyfer cynllun Cadetiaid yr RCN ar ôl dod o hyd i angerdd am gymorth cyntaf ac eisiau dilyn gofal iechyd, ond roeddwn i’n ansicr ble i ddechrau. Roeddwn wrth fy modd, er ei bod braidd yn heriol bod yr unig ddyn ar y cynllun, ond roeddwn yn teimlo'n gartrefol iawn gyda phawb a chefais gymaint o gefnogaeth ag yr oeddwn ei angen. Roedd y cynllun wedi fy helpu i roi cychwyn da ar bethau yn gynnar yn fy ngradd, gan roi hyder i fi ar fy lleoliad clinigol cyntaf. Yn y dyfodol rwy’n gobeithio datblygu fy ngyrfa i fod yn brif nyrs neu weithio gyda ‘Head Room’, tîm seicosis ymyrraeth gynnar, gyda’r gobaith o weithio naill ai’n rhan amser neu’n llawn amser fel darlithydd nyrsio!
Mae cyflawniad Luke yn dyst i'r hyn sy'n bosibl a bydd yn annog eraill i ymchwilio i yrfaoedd yn y maes iechyd. Dysgwch fwy am Gynllun Cadetiaid Nyrsio'r RCN a'r Baglor mewn Nyrsio (Iechyd Meddwl) (BN) nawr.